Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Deddfwriaeth Acrylamid

Gwybodaeth am y mesurau sy'n ymwneud â lefelau acrylamid mewn bwyd, canllawiau ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd a lefelau meincnod ar gyfer monitro lefelau acrylamid mewn gwahanol gategorïau bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'n ofynnol i bob gweithredwr busnes bwyd roi camau syml ac ymarferol ar waith i reoli acrylamid o fewn eu systemau rheoli diogelwch bwyd. Mae hyn yn sicrhau bod lefelau acrylamid yn eu bwyd mor isel ag sy'n rhesymol bosibl.

Mae arfer gorau, mesurau lliniaru a lefelau meincnod ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd wedi'u sefydlu fel y nodir yn:

Mae Rheoliad 2017/2158 yn sefydlu'r arfer gorau, y mesurau lleihau a’r lefelau meincnod ar gyfer lleihau presenoldeb acrylamid mewn bwyd.

Disgwylir i fusnesau wneud y canlynol:

  • bod yn ymwybodol o acrylamid fel perygl diogelwch bwyd a bod â dealltwriaeth gyffredinol o'r ffordd y mae acrylamid yn ffurfio yn y bwyd y maent yn ei gynhyrchu;
  • cymryd y camau angenrheidiol i leihau lefel yr acrylamid sy'n ffurfio yn y bwyd y maent yn ei gynhyrchu – mabwysiadu'r mesurau perthnasol fel rhan o'u gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  • cynnal gwaith samplu a dadansoddi cynrychioladol lle bo'n briodol, i fonitro lefelau acrylamid yn eu cynhyrchion fel rhan o'u hasesiad o'r mesurau lleihau
  • cadw cofnodion priodol o'r mesurau lleihau a gynhelir, law yn llaw â chynlluniau samplu a chanlyniadau unrhyw brofion

Mae'r mesurau yn gymesur i natur a maint y busnes, i sicrhau nad yw'n ormod o faich ar fusnesau bach a micro. Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i'r holl weithredwyr busnesau bwyd sy'n cynhyrchu'r bwydydd a restrir isod, neu'n eu rhoi ar y farchnad:

  • sglodion tenau (french fries), cynhyrchion eraill sydd wedi'u torri (a'u ffrio'n ddwfn) a chreision tatws wedi'u sleisio o datws ffres
  • creision tatws, byrbrydau, craceri a chynhyrchion tatws eraill o does tatws
  • bara
  • grawnfwydydd brecwast (ac eithrio uwd)
  • mân gynhyrchion siop fara: cwcis, bisgedi, rysgiau, bariau grawnfwyd, sgons, wafferi, crympedi a bara sinsir, yn ogystal â chraceri, bara crensiog a chynhyrchion a ddefnyddir yn lle bara
  • coffi: (i) coffi rhost; (ii) coffi parod (hydawdd)
  • cynhyrchion a ddefnyddir yn lle coffi
  • bwyd babi a grawnfwyd wedi'i brosesu ar gyfer babanod a phlant ifanc

Mae gwahanol ofynion ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd lleol ac annibynnol sy'n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i'r defnyddiwr neu i'w fanwerthu'n lleol. Er enghraifft, caffis annibynnol, siopau ’sgod a sglods a bwytai.

Ar gyfer cadwyni mwy a gaiff eu rheoli a'u cyflenwi'n ganolog gyda bwydlenni a gweithdrefnau gweithredu safonol, mae'r ddeddfwriaeth yn adlewyrchu bod modd rheoli'r mesurau acrylamid yn ganolog. Byddai hyn yn berthnasol i, er enghraifft, fwytai, gwestai a chadwyni caffis mawr.

Mesurau lleihau

Mae'r mesurau lleihau sy'n berthnasol i fusnesau bwyd wedi'u hamlinellu yn yr Atodiadau i'r ddeddfwriaeth. Mae cynnwys y rhain yn deillio o amryw godau ymarfer sydd wedi'u datblygu gan amryw gyrff masnach ar gyfer sectorau penodol sydd wedi ymchwilio i ddulliau o leihau acrylamid mewn gwahanol fwydydd. Ni fwriedir i'r broses o weithredu'r mesurau lleihau acrylamid perthnasol arwain at unrhyw newidiadau sylweddol o ran ansawdd a nodweddion  y bwydydd dan sylw. 

Lefelau meincnod

Mae'r lefelau meincnod wedi'u hamlinellu yn yr Atodiad i'r ddeddfwriaeth. Maent yn ddangosyddion perfformiad generig ar gyfer y categorïau bwyd sy'n dod o dan y Rheoliad. Nid ydynt yn derfynau uchaf ac ni fwriedir iddynt gael eu defnyddio at ddibenion gorfodi. Mae'r lefelau meincnod i'w defnyddio gan weithredwyr busnesau bwyd i fesur llwyddiant y mesurau lleihau.

Canllawiau

Rydym ni hefyd yn wedi datblygu canllawiau i gynorthwyo awdurdodau lleol wrth weithredu a gorfodi'r gofynion newydd. Mae UKHospitality a chymdeithasau masnach allweddol eraill wedi gweithio gyda ni a Safonau Bwyd yr Alban i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant arlwyo a gwasanaeth bwyd.

Mae canllawiau lleihau acrylamid ar gyfer y diwydiant hefyd wedi'u datblygu gan amrywiaeth o sectorau bwyd ar lefel genedlaethol ac ar lefel yr Undeb Ewropeaidd gan gynnwys y pecyn cymorth acrylamid a gynhelir gan Food Drink Europe.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Pwysig