Sut mae dadansoddi risg yn sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel
Dadansoddi risg yw'r broses o asesu, rheoli a chyfathrebu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Dyma sut rydym ni'n sicrhau safonau uchel o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac yn diogelu defnyddwyr.
Sut rydym ni'n sicrhau bod bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel
Efallai y bydd angen ystyried risgiau diogelwch bwyd am lawer o resymau, er enghraifft:
- mae bacteria (er enghraifft Campylobacter), halogion (er enghraifft acrylamid), alergenau (er enghraifft pysgnau neu peanuts) neu beryglon radiolegol yn bresennol mewn bwyd
- nid yw bwyd wedi'i labelu'n gywir
- mae rhywun eisiau dod â chynnyrch rheoledig newydd i'r farchnad (er enghraifft ychwanegyn bwyd neu fwyd anifeiliaid, cyflasyn (flavouring) neu fwyd newydd)
Dadansoddi risg yw’r broses a ddefnyddiwn i nodi ac asesu'r risgiau, a darparu canllawiau i'w lleihau.
Sut mae’r broses dadansoddi risg yn gweithio
Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi etifeddu’r cyfrifoldeb am asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU).
Unwaith y bydd y broses dadansoddi risg yn cael ei sbarduno, cynhelir asesiad risg i amcangyfrif y risg i iechyd pobl a/neu anifeiliaid. Gallai hyn gael ei wneud trwy ymgynghori ag arbenigwyr allanol o'n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol a'n Cyd-grwpiau Arbenigol. Yn gyffredinol, cynhelir asesiadau risg ar sail pedair gwlad, gyda’r gallu i asesu risg sy'n benodol i wlad lle bo angen.
Yna mae rheolwyr risg yn ystyried sut y dylem reoli'r risgiau hyn. Ochr yn ochr â diogelwch bwyd, maent yn ystyried ffactorau eraill fel lles anifeiliaid, yr amgylchedd, effaith economaidd ac unrhyw ffactorau perthnasol sy'n benodol i’r gwledydd unigol.
Gellir defnyddio cyngor y rheolwr risg i lywio penderfyniadau gweinidogol ar newidiadau i ddeddfwriaeth, neu i helpu i newid canllawiau gennym ni ar faterion sy'n effeithio ar fusnesau a defnyddwyr.
Yn aml mae yna elfen o ansicrwydd mewn gwyddoniaeth a mewn gwneud penderfyniadau. Er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau diogelwch bwyd sy'n dod i'r amlwg, mae'r egwyddor ragofalus yn caniatáu i ni weithredu hyd yn oed os nad oes amser na data i gynnal asesiad risg llawn. Pan fydd hyn yn digwydd, gellir rhoi mesurau rheoli risg dros dro ar waith ar yr amod eu bod yn gymesur, yn ymarferol ac nad ydynt yn cyfyngu ar fasnach yn fwy na sy’n rhaid.
Mae'r cyngor a ddaw yn sgil dadansoddi risg yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Byddwn ni'n cyhoeddi'r cyngor a ddarparwn i eraill a'r dadansoddiad a'r dystiolaeth y mae'r cyngor hwnnw yn seiliedig arnynt.
Gwella ein proses dadansoddi risg
Mae ein cyfrifoldeb cynyddol am ddadansoddi risg yn y DU wedi golygu ein bod wedi ychwanegu rhai elfennau newydd i wella ein proses. Mae hyn yn cynnwys:
- gwahaniaethu’n gliriach rhwng ein dadansoddi gwyddonol o risg (asesu risg) a'r ffyrdd yr ydym yn rheoli'r risgiau (rheoli risg)
- rôl estynedig ar gyfer ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol, sydd wedi’u cryfhau trwy recriwtio arbenigwyr newydd a sefydlu tri Chyd-grŵp Arbenigol newydd
- proses newydd i gynghori gweinidogion y llywodraeth ar awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoledig i'w gwerthu yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban
Nid yw'r rheolau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid cyfredol wedi newid gan fod deddfwriaeth Ewrop wedi’i throsi yn gyfraith y DU. Fodd bynnag, pan fydd angen newid rheolau ar fwyd a bwyd anifeiliaid sy'n cael eu marchnata ym Mhrydain Fawr, byddwn ni’n defnyddio ein proses dadansoddi risg ein hunain yn hytrach na phroses yr UE. Mae'r broses yn wahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon lle mae Atodiad 2 o Brotocol Gogledd Iwerddon yn golygu, os ydych chi'n dymuno marchnata bwyd neu fwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi barhau i ddilyn rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE.
Pwy sy’n rhan o hyn?
Rydym ni’n mabwysiadu dull pedair gwlad trwy gydol y broses dadansoddi risg. Mae hwn yn nodi sut y bydd y pedair gwlad yn gweithio gyda'i gilydd pan fydd angen newidiadau i reolau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae'n gwarantu trafodaeth reolaidd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar faterion sy'n destun y broses dadansoddi risg, gan sicrhau bod cyngor yn effeithiol ar gyfer y DU gyfan, neu wledydd unigol yn ôl yr angen.
Ein haseswyr risg sy'n gweithredu'r wyddoniaeth y tu ôl i'n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a nodweddu peryglon, asesu lefelau o gysylltiad a nodweddu risgiau i iechyd. Mae eu cyngor yn cefnogi ein rheolwyr risg i ddatblygu'r cyngor cywir.
Yn ogystal, mae ein heconomegwyr, ein hymchwilwyr gweithredol, ein hymchwilwyr cymdeithasol a’n hystadegwyr yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth.
Mae ein rheolwyr risg yn ystyried pa ddulliau y gellid eu gweithredu i reoli’r risg. Maent yn ymgynghori â phawb sydd â diddordeb ac yn ystyried unrhyw ffactorau sy'n berthnasol i ddiogelu iechyd defnyddwyr a'u buddiannau ehangach mewn perthynas â bwyd.
Mae ein Cyd-grwpiau Arbenigol yn ein helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr bob tro yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar.
Ein Prif Gynghorydd Gwyddonol sy'n gyfrifol am uniondeb ein tystiolaeth wyddonol a sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i ni.
Ni fydd y Bwrdd yn trafod materion technegol arferol sy'n mynd trwy'r broses dadansoddi risg, ond gall drafod a darparu cyngor i weinidogion ac eraill ar achosion arwyddocaol, proffil uchel neu gymhleth. Caiff ein cyfarfodydd Bwrdd eu cynnal yn gyhoeddus, ond gallai fod nifer fach o amgylchiadau lle na fyddai’r trafodaethau Bwrdd yn agored fel y nodir ym mharagraff 2.7 o God Ymarfer yr ASB ar fod yn Agored.
Hanes diwygio
Published: 19 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2024