Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau – canllawiau wedi’u diweddaru i fusnesau

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am bennu a yw’r sefyllfa bresennol o ran halogiad pysgnau yn effeithio ar unrhyw rai o'u cynhyrchion bwyd, ac am gymryd camau i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu a bod y bwyd y maent yn ei werthu yn ddiogel.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 November 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 November 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cefndir

Gwnaeth FGS Ingredients Limited, sy’n mewnforio mwstard o India fel cynhwysyn i weithgynhyrchu cynhyrchion sbeis gan gynnwys powdr cyri, sesnin a chymysgeddau sbeis, dynnu eu cynhyrchion mwstard yn ôl fel cam rhagofalus oherwydd halogiad posib â physgnau. 

Mae hyn wedi arwain at gwsmeriaid a busnesau uniongyrchol FGS Ingredients Limited, yn ogystal â chwsmeriaid anuniongyrchol ac eilaidd ar hyd y gadwyn gyflenwi, hefyd yn tynnu cynhyrchion yn ôl. Lle mae cynhyrchion y gallai’r digwyddiad hwn fod wedi effeithio arnynt wedi’u gwerthu mewn safleoedd manwerthu, mae busnesau bwyd hefyd wedi bod yn galw’n ôl gynhyrchion sy’n cynnwys y cynhwysion mwstard dan sylw.

Defnyddir y sbeisys a’r cymysgeddau hyn hefyd mewn cynhyrchion fel prydau parod, sawsiau a byrbrydau. Mae’r camau rhagofalus i dynnu a galw cynhyrchion yn ôl hefyd yn cynnwys cynhyrchion a gafodd eu gweithgynhyrchu/cyflenwi dan enw masnachu blaenorol y busnes, ‘Old India’.

Beth yw’r diweddariad diweddaraf?

Yn dilyn ymchwiliadau helaeth gan Gyngor Dinas Caerlŷr (Leicester), yr awdurdod gorfodi lleol, ac FGS Ingredients Limited, gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn ogystal â gwiriadau ar gadwyni cyflenwi gan fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr, mae’r ASB yn fodlon bod y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r pryderon diogelwch bwyd cychwynnol wedi cael sylw. Yn ogystal, mae’r ASB ac FSS yn fodlon nad yw cynhyrchion mwstard eraill, nad ydynt wedi'u cyflenwi gan FGS, yn peri risg uwch i ddefnyddwyr.  

Mae’r ASB bellach yn cynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau y gallant fwyta bwyd sy’n cynnwys, neu a allai gynnwys, mwstard, powdr mwstard, hadau mwstard neu flawd mwstard, a hynny gartref ac wrth fwyta allan.  

Rydym yn parhau i gynghori gweithgynhyrchwyr bwyd a busnesau bwyd i adolygu eu systemau cyflenwi bwyd a chael gwared ar unrhyw gynhyrchion yr effeithir arnynt gan yr hysbysiadau galw yn ôl rhagofalus a gyhoeddwyd gan FGS Ingredients Limited. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr ddiweddaraf o’r cynhyrchion hyn yma:

Beth ddylai fy musnes ei wneud?

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am bennu a effeithiwyd ar unrhyw rai o’u cynhyrchion bwyd. Dylech gymryd camau i sicrhau bod y bwyd yr ydych yn ei werthu yn ddiogel a bod defnyddwyr wedi’u diogelu. Os oes ymchwiliadau lefel busnes unigol yn mynd rhagddynt mewn ymateb i’r achosion o halogi cynhyrchion mwstard â physgnau, dylai’r ymchwiliadau hyn barhau.  

Os ydych wedi craffu ar eich cadwyn gyflenwi, a’ch bod yn hyderus nad yw hysbysiadau rhagofalus FGS Ingredients Limited i dynnu cynhyrchion yn ôl yn effeithio ar unrhyw un o’ch cynhyrchion, gallwch rhannu hyn â’ch cwsmeriaid, a chynghori y gall y rhai sydd ag alergedd i bysgnau bellach fwyta cynhyrchion eich busnes sy’n cynnwys mwstard.

Gallwch hefyd gael gwared ar unrhyw gyngor dros dro a roesoch ar waith mewn ymateb i’r pryderon am halogiad.
Os yw eich busnes wedi cael cynhyrchion halogedig gan FGS Ingredients Limited, mae’r cyngor gwreiddiol yn parhau ar gyfer cynhyrchion a weithgynhyrchwyd ar neu cyn 30 Medi 2024 a dylech dynnu’r cynhyrchion hynny yn ôl a/neu eu galw’n ôl. Mae rhagor o fanylion am sut i wneud hyn isod.  

Pam ydych chi’n dal i alw cynhyrchion mwstard yn ôl os yw’r cyngor i ddefnyddwyr wedi newid?

Mae busnesau bwyd wedi tynnu a galw llawer o gynhyrchion yn ôl er mwyn sicrhau nad yw cynhyrchion a allai fod wedi’u halogi â physgnau ar y farchnad. Mae nifer mawr o gynhyrchion wedi cael eu galw’n ôl i dynnu sylw defnyddwyr at y cynhyrchion yr effeithir arnynt. 

Mae rhai busnesau’n parhau i graffu ar eu cadwyni cyflenwi. Os byddant yn nodi bod cynhyrchion halogedig wedi'u cyflenwi iddynt, a bod y cynhyrchion hyn yn peri risgiau i ddefnyddwyr, byddant yn parhau i gymryd camau i ddiogelu defnyddwyr.

Lle bo angen, mae FGS Ingredients Limited yn parhau i alw a thynnu’n ôl eu holl gynhyrchion mwstard oherwydd y gallent gynnwys pysgnau. Mesurau rhagofalus yw’r hysbysiadau tynnu a galw yn ôl hyn, gan nad yw’n bosib nodi’r cynhyrchion unigol yr effeithir arnynt. 

Mae FGS Ingredients Limited yn cyflawni gofyniad cyfreithiol i fabwysiadu dull diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar ‘egwyddor ragofalus’, a hynny er mwyn sicrhau bod lefel uchel barhaus o fesurau ar waith i ddiogelu i iechyd defnyddwyr. Ar ôl dadansoddiad helaeth o’r gadwyn fwyd, ac ymchwiliadau gan ystod eang o fusnesau bwyd ar draws y diwydiant bwyd, mae'r ASB yn fodlon na fydd cynhyrchion mwstard o ffynonellau eraill yn peri risg uwch i ddefnyddwyr. O ganlyniad, rydym yn newid ein cyngor i ddefnyddwyr ac yn eu cynghori y gallant bellach fwyta cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard.
 

Beth ddylwn i ei wneud os cafodd cynhyrchion a oedd wedi’u cynnwys yn yr hysbysiad galw yn ôl rhagofalus eu cyflenwi i mi?

Os yw eich busnes wedi cael cynnyrch sy’n cynnwys rhan o swp ehangach o gynhyrchion yr effeithiwyd arnynt o FGS Ingredients Limited, dylech dynnu’r cynnyrch yn ôl. Os yw’r cynnyrch wedi’i werthu mewn safleoedd manwerthu, dylech hefyd alw’r cynnyrch sy’n cynnwys y cynhwysyn mwstard yn ôl a rhoi gwybod i’ch awdurdod lleol. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i’r ASB. 

Os yw’r cynnyrch yr effeithir arno eisoes wedi rhestru pysgnau fel cynhwysyn gan ddefnyddio’r label alergen neu ddatganiad ‘gall gynnwys’ priodol ar y label, ni fydd angen tynnu’r cynhyrchion hyn yn ôl na’u galw’n ôl, gan fod y risg i ddefnyddwyr ag alergedd i bysgnau eisoes wedi’i hamlygu. 

Gellir ail-labelu cynhyrchion os oes modd i’r busnes wneud hynny. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn isod.        

A ddylwn i ail-labelu cynhyrchion sy’n cynnwys y cynhwysion a gafodd eu galw’n ôl gan FGS Ingredients Limited? 

Gellir ail-labelu cynhyrchion nad ydynt wedi’u gwerthu mewn safleoedd manwerthu eto gyda labeli alergenau rhagofalus. Hefyd, os ydynt mewn lleoliad lletygarwch, gellir diweddaru’r wybodaeth ar y pwynt gwasanaeth i adlewyrchu’r ffaith bod y cynnyrch yn cynnwys pysgnau. Mae hwn yn ddull gweithredu safonol, a amlinellir ym mharagraff 42 o’r Canllawiau ar y  gallu i olrhain, tynnu a galw bwyd yn ôl o fewn diwydiant bwyd y Deyrnas Unedig.
Gall busnesau bwyd ddewis rhoi datganiadau labelu alergenau rhagofalus (PAL) ar gyfer pysgnau ar eu cynhyrchion os ydynt yn cynnwys mwstard a gyflenwir gan FGS Ingredients Limited, gan fod risg o groeshalogi yng nghadwyn gyflenwi FGS Ingredients Limited. Cyn gwneud hyn, mae’n bwysig:

  • gwirio a oes pysgnau yn rhestr gynhwysion y cynnyrch, a bod pysgnau wedi’u datgan fel alergen ar y label
  • gwirio a oes gan y cynnyrch label alrgenau rhagofalus ar gyfer pysgnau eisoes, er enghraifft datganiad ‘gallai gynnwys’
  • gwirio a oes modd ail-labelu’r cynnyrch neu roi sticer newydd dros y sticer gwreiddiol
  • mewn lleoliadau lletygarwch, gwirio a oes modd diweddaru’r wybodaeth a ddarperir ar y pwynt gwasanaeth i sicrhau y rhoddir gwybodaeth gywir i ddefnyddwyr ynghylch y posibilrwydd bod pysgnau yn bresennol
     

Pwysig: Os, ar ôl dilyn y camau hyn, nad oes modd darparu gwybodaeth gywir, bydd rhaid tynnu neu alw’r cynnyrch yn ôl ac ni ddylid gwerthu cynhyrchion yr effeithir arnynt i ddefnyddwyr. 

Mae cwsmer wedi hysbysu fy musnes ei fod wedi cael adwaith alergaidd i fwyd a brynodd gennym ni. A oes unrhyw beth gwahanol y dylwn ei wneud mewn ymateb i’r digwyddiad hwn?

Nac oes, mae’r rheolau arferol yn berthnasol. Dylech roi gwybod i’ch awdurdod lleol ar unwaith. Mae cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol i roi gwybod i dimau digwyddiadau’r ASB am unrhyw adweithiau alergaidd sy’n arwain at driniaeth mewn ysbyty (p’un a gaiff yr unigolyn ei dderbyn i’r ysbyty ai peidio), neu os bydd rhywun yn marw, a honnir bod hynny o ganlyniad i fwyd. Lle bo modd, dylech hefyd annog eich cwsmer i roi gwybod i’w awdurdod lleol am y mater ei hun
 

Gwnaethom gymryd camau priodol pan gawsom wybod am y mater yn y lle cyntaf. Beth arall sydd angen i ni ei wneud nawr? 

Hyd yn oed os gwnaethoch gynnal asesiadau diogelwch bwyd a chymryd camau gweithredu lle bo angen mewn ymateb i’r cyngor cychwynnol, dylech barhau i wirio’r diweddariadau i’r hysbysiadau galw yn ôl gan y bydd y rhain yn cynnwys cynhyrchion ychwanegol y gallai’r digwyddiad hwn effeithio arnynt, a chyngor ar gamau gweithredu o ran diogelwch bwyd. Bydd angen i chi benderfynu a oes angen gweithredu mewn ymateb i’r wybodaeth newydd hon. Yn yr un modd, dylech barhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth newydd gan eich cyflenwyr pan fydd cynhyrchion yn cael eu tynnu’n ôl. Gallwch gofrestru i gael hysbysiadau galw yn ôl yn uniongyrchol gan yr ASB.
 

A oes angen i mi ddiweddaru fy matrics alergenau i gynnwys pysgnau mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys mwstard?

Gall busnesau bwyd ddewis ychwanegu datganiadau labelu alergenau rhagofalus (PAL) at eu cynhyrchion os ydynt yn cynnwys y cynhwysion mwstard dan sylw a ddarparwyd gan FGS Ingredients Limited.

Lle mae ymarferion olrhain wedi nodi bod cynnyrch yn cynnwys pysgnau, neu fod risg ei fod yn cynnwys pysgnau, dylai busnes bwyd addasu ei fatrics alergenau i’w gwneud yn glir y gall rhai cynhyrchion gynnwys pysgnau. Gellir cyfleu hyn i’r cwsmeriaid naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig. 

A ddylwn i fod yn cysylltu â’m cyflenwyr fy hun i ganfod a yw hyn yn effeithio ar eu cynhyrchion?

Dylech. Dylai busnesau gynnal ymarferion olrhain i nodi cynhyrchion (neu gynhwysion a ddefnyddir mewn cynhyrchion) sy’n cynnwys y mwstard halogedig a gyflenwyd gan FGS Ingredients Limited.

A allaf roi label i ddweud bod fy nghynhyrchion yn ‘rhydd rhag’ pysgnau?

Dim ond os ydych wedi gwarantu bod yr alergen penodol yn absennol y gallwch ddefnyddio honiad ‘rhydd rhag’ alergenau. Er mwyn ei ddefnyddio, rhaid i chi orfodi rheolaethau llym i ddileu unrhyw risg o groeshalogi. 
 
Nid oes trothwy rheoleiddio penodol ar gyfer pysgnau, felly mae’n rhaid i gynnyrch sydd â’r label ‘rhydd rhag pysgnau’ warantu nad oes pysgnau yn y cynnyrch.

Gallwch ddarllen Canllawiau’r Ffederasiwn Bwyd a Diod ar Honiadau Rhydd Rhag i gael gwybod mwy.

Am ba mor hir y bydd angen i mi roi’r cynlluniau wrth gefn hyn ar waith?

Dylai busnesau bwyd barhau i wirio diweddariadau i’r hysbysiadau galw’n ôl rhagofalus, gan y bydd y rhain yn cynnwys cynhyrchion ychwanegol y gallai’r digwyddiad fod wedi effeithio arnynt. Dylech barhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth newydd gan eich cyflenwyr pan fydd cynhyrchion yn cael eu tynnu’n ôl. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau lleol y busnesau yr effeithir arnynt.

Roedd canllawiau blaenorol yn cynghori busnesau i gynnal asesiad risg ar bob cynnyrch a gwirio’r gadwyn gyflenwi.

Newidiodd y canllawiau hyn i gynghori busnesau i dynnu a galw cynhyrchion yn ôl, ni waeth beth fo canlyniadau asesiadau risg a phrofion. O hyn ymlaen, a gaf i ddychwelyd i asesu risg unrhyw gynnyrch mwstard gan FGS Ingredients Limited?

Na chewch. Dylai cynhyrchion mwstard a ddosbarthwyd ac a gynhyrchwyd gan FGS Ingredients Limited hyd at ac yn cynnwys 30 Medi 2024 gael eu tynnu a’u galw’n ôl fel cam rhagofalus. Nid yw’r cyngor ar gyfer y cynhyrchion dan sylw wedi newid. 

Gellir rheoli bwyd a werthir neu a ddosberthir gan FGS Ingredients Limited o 01 Hydref 2024 ymlaen yn y ffordd arferol. Os bydd pryder posib o ran diogelwch bwyd, gan gynnwys halogiad gan alergenau, dylid dilyn dulliau arferol o sicrhau bod bwyd yn ddiogel. Dylid cymryd y camau arferol i fodloni gofynion cyfreithiol ac i fynd i’r afael â’r pryder diogelwch bwyd, gan gymhwyso a defnyddio egwyddorion y system Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). 

Roedd y camau diogelwch bwyd a gynghorwyd yn yr achos hwn yn wahanol i’r cyngor rheoli risg arferol a roddir pan fydd digwyddiad sy’n ymwneud ag alergedd. A yw hyn yn golygu bod safiad yr ASB ac FSS ar y camau i’w cymryd pan fydd digwyddiad bwyd, neu ddigwyddiad yn ymwneud ag alergenau, bellach wedi newid? 

Ni fu unrhyw newid i’r canllawiau ar gamau y dylid eu cymryd os bydd digwyddiad diogelwch bwyd sy’n gysylltiedig ag alergenau. Mae pob digwyddiad yn cael ei asesu fesul achos. Ni ddylid ystyried bod y dull diogelwch bwyd a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad hwn yn golygu bod arferion wedi newid.

Lle mae busnesau bwyd yn ansicr ynghylch y gweithdrefnau i’w dilyn os bydd pryder ynghylch diogelwch bwyd, mae sawl opsiwn ar gael. Dylech chi wneud y canlynol:

  • cyfeirio at Ganllawiau’r ASB ar y gallu i olrhain, tynnu a galw bwyd yn ôl o fewn diwydiant bwyd y DU
  • ceisio cyngor gan eich awdurdod lleol
  • os ydych yn aelod o gymdeithas fasnach, dylech geisio cyngor ganddi
  • sicrhau bod y cyngor yr ydych yn dibynnu arno yn dod o ffynhonnell ddibynadwy