Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau – canllawiau i fusnesau

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am bennu a yw'r sefyllfa bresennol o ran halogiad pysgnau yn effeithio ar unrhyw rai o'u cynhyrchion bwyd, ac am gymryd camau i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu a bod y bwyd y maent yn ei werthu yn ddiogel.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Canllawiau i fusnesau ar gynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn ymwybodol bod rhai cynhyrchion mwstard sy’n cael eu defnyddio fel cynhwysion (gan gynnwys unrhyw beth sy’n cynnwys hadau mwstard, powdr mwstard a blawd mwstard), wedi’u halogi â physgnau.

Gallai hyn achosi risg diogelwch bwyd sylweddol, gan fod pysgnau ymhlith yr alergenau a all achosi adweithiau alergaidd difrifol.

Gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar 27 Medi 2024 yn cynghori’r rhai ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys cynhwysion mwstard neu a allai gynnwys cynhwysion mwstard. Mae hyn yn cynnwys:

  • mwstard grawn cyflawn
  • mwstard a ddefnyddir fel saws neu garnais
  • cynhyrchion ffres/oer sy’n cynnwys mwstard fel cynhwysyn, gan gynnwys powdr mwstard a blawd mwstard
  • cynhyrchion ag oes silff hir sy’n cynnwys mwstard fel cynhwysyn, gan gynnwys powdr mwstard a blawd mwstard
  • hadau mwstard

Beth sydd wedi digwydd?

Defnyddir cynhyrchion mwstard (powdr mwstard, hadau mwstard, blawd mwstard a chynhwysion sy’n cynnwys mwstard) yn helaeth wrth gynhyrchu bwyd. Mae ymchwiliadau parhaus hyd yn hyn wedi olrhain y cynhwysion mwstard halogedig i dri chyflenwr yn India. Mae’r cynhyrchwyr hyn wedi cyflenwi cynhyrchion i dri chwmni sbeis yn y DU, sydd wedyn wedi dosbarthu’r cynhwysion i amrywiaeth o fusnesau gweithgynhyrchu, lletygarwch a manwerthu. Rydym wedi gofyn i bob un o’r tri chwmni sbeis wirio ar frys a yw eu cynhyrchion wedi’u halogi, a rhoi gwybod ar unwaith i unrhyw fusnesau y maent wedi’u cyflenwi.

Rydym ni, ar y cyd ag FSS, yn gweithio ar frys gydag awdurdodau lleol perthnasol, sefydliadau’r diwydiant a, lle bo angen, yn uniongyrchol gyda busnesau unigol i nodi pa gynhyrchion y gallai'r halogiad fod wedi effeithio arnynt ac i bennu maint y digwyddiad hwn a deall yr effaith ar ddefnyddwyr ac ar gadwyn cyflenwi bwyd y DU.

Mae’r ymchwiliadau hyn wedi canfod bod cynhwysion mwstard halogedig wedi’u defnyddio mewn nifer o gynhyrchion yn y DU. Mae’n bwysig nodi bod yna achosion lle mae’r cynhwysyn halogedig wedi’i ddefnyddio mewn cynhyrchion fel sawsiau, sbeisys a mayonnaise â blas, sydd wedyn yn cael eu defnyddio fel cynhwysyn mewn cynhyrchion eraill.

Mae’n ofynnol yn statudol i fusnesau y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt roi gwybod i’w hawdurdod lleol. Rydym yn gofyn i fusnesau ymateb yn brydlon i unrhyw hysbysiadau neu gyfarwyddiadau gan gyflenwyr neu awdurdodau lleol i dynnu/galw cynhyrchion yn ôl o’r farchnad, a darparu gwybodaeth arall mewn perthynas â’r digwyddiad pan ofynnir iddynt.

Ar hyn o bryd, mae maint y broblem yn parhau i fod yn anhysbys. Mae sypiau o gynhwysion mwstard yn fawr, sy’n golygu y gall y canlyniadau amrywio o fewn un swp. Er enghraifft, bu achosion lle nad yw gwaith samplu a phrofi un rhan o swp wedi canfod pysgnau, er bod pysgnau wedi’u canfod mewn samplau a gymerwyd o ran arall o’r un swp.

Beth ddylai fy musnes ei wneud?

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am bennu a yw'r sefyllfa bresennol o ran halogiad pysgnau yn effeithio ar unrhyw rai o'u cynhyrchion bwyd, ac am gymryd camau i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu a bod y bwyd y maent yn ei werthu yn ddiogel.

Dylai busnesau graffu ar eu cadwyni cyflenwi, gan gynnal ymarferion olrhain i nodi cynhyrchion ​​​(neu gynhwysion a ddefnyddir mewn cynhyrchion) sy’n cynnwys cynhwysion mwstard sydd wedi dod gan gyflenwyr penodol yn India. Mae’r ASB wedi ysgrifennu at gynrychiolwyr y diwydiant gyda rhagor o fanylion.

Os bydd cynhyrchion gan y cyflenwyr hyn yn cael eu canfod, dylid cynnal asesiadau risg cynnyrch-benodol i benderfynu a allent gynnwys cynhyrchion mwstard a allai fod wedi’u halogi â physgnau.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i olrhain y gadwyn gyflenwi ar gyfer sypiau lle mae pysgnau wedi’u canfod. Os yw eich busnes wedi cael cynnyrch sy’n cynnwys rhan o swp ehangach y canfuwyd ei fod wedi’i halogi, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn eich cynghori i dynnu’r cynnyrch rhag iddo gael ei werthu neu ei ddefnyddio fel cynhwysyn, ond ei gadw, fel y gellir olrhain ei darddiad. Efallai y gofynnir i chi hefyd ddangos bod unrhyw waith samplu a phrofi a wnaethoch yn cynrychioli maint y swp, a/neu newid label eich cynnyrch i ddisgrifio’n gywir bresenoldeb neu bresenoldeb posib unrhyw alergenau.

A oes angen i mi ail-labelu cynhyrchion?

Dylid gwirio labeli cynhyrchion i benderfynu a ydyn nhw’n dangos presenoldeb posib pysgnau. Er enghraifft, gall pysgnau fod yn gynhwysyn sydd eisoes yn bodoli yn y cynnyrch, ac felly eisoes wedi’u cynnwys yn y rhestr gynhwysion ar y label.

Gall busnesau ddewis ychwanegu datganiadau labelu alergenau rhagofalus (PAL) gwirfoddol at eu cynhyrchion os byddant, yn dilyn asesiad risg sy’n benodol i’r cynnyrch, yn dod i’r casgliad na ellir rheoli’r risg i ddefnyddwyr sydd ag alergedd i bysgnau yn ddigonol heb labelu ychwanegol o’r fath.

Os bydd busnes bwyd yn nodi unrhyw gynnyrch y mae wedi’i roi ar y farchnad, a allai fod wedi’i halogi â physgnau, ac nad yw label y cynnyrch yn cyfleu’r risg yn iawn i ddefnyddwyr, dylid galw a thynnu’r cynnyrch yn ôl. Rhaid i fusnesau bwyd roi gwybod i’w hawdurdod cymwys (awdurdod lleol, awdurdod iechyd porthladdoedd a’r ASB mewn sefydliad a gymeradwyir gan yr ASB), a fydd yn rhoi gwybod am unrhyw gamau pellach.

Gall cynhyrchion sy’n dal i fod o dan reolaeth y busnes bwyd neu’r gadwyn gyflenwi gael eu rhoi ar y farchnad os cânt eu hail-labelu er mwyn sicrhau bod y risg o halogiad gan bysgnau yn cael ei chyfleu’n ddigonol i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, dylid rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys (awdurdod lleol, awdurdod iechyd porthladdoedd a’r ASB mewn sefydliad a gymeradwyir gan yr ASB) ynghylch canfod pysgnau er mwyn helpu ein hymchwiliad parhaus.

Cwestiynau cyffredin ynghylch cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau

A oes angen i mi ddiweddaru fy matrics alergenau i gynnwys pysgnau mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys mwstard?

Gall busnesau bwyd ddewis ychwanegu datganiadau labelu alergenau rhagofalus (PAL) gwirfoddol at eu cynhyrchion os byddant, yn dilyn asesiad risg sy’n benodol i’r cynnyrch, yn dod i’r casgliad na ellir rheoli’r risg i ddefnyddwyr sydd ag alergedd i bysgnau yn ddigonol heb wybodaeth labelu ychwanegol o’r fath.

A ddylwn i fod yn cysylltu â’m cyflenwyr fy hun i ganfod a yw hyn yn effeithio ar eu cynhyrchion?

Dylech. Dylai busnesau gynnal ymarferion olrhain i nodi cynhyrchion (neu gynhwysion a ddefnyddir mewn cynhyrchion) sy’n cynnwys mwstard sydd wedi dod gan y gwneuthurwyr yn India, lle mae’r rhain, yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyfredol, yn gysylltiedig â dosbarthu’r cynhyrchion halogedig.

Oes yna drothwy alergenau derbyniol y gall busnes ei fabwysiadu?

Nid ydym yn argymell trothwy alergenau. Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am gynnal eu hasesiadau risg eu hunain i bennu a yw’r bwyd y maent yn ei werthu yn ddiogel i ddefnyddwyr ag alergedd i bysgnau.

Beth yw cyngor yr ASB ar ddefnyddio ED01 neu ED05 i asesu lefelau pryder/risg?

Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am bennu a oes unrhyw rai o’u cynhyrchion bwyd wedi’u halogi ac, os felly, maent hefyd yn gyfrifol am gymryd camau i sicrhau bod eu bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr ag alergedd i bysgnau. Rhaid i fusnesau asesu lefel yr halogiad a sicrhau bod eu labeli’n cyfleu’r risg bosib i ddefnyddwyr yn ddigonol.

Am ba mor hir fydd angen i mi roi’r cynlluniau wrth gefn hyn ar waith?

Rydym yn cynnal ymchwiliadau helaeth a all gymryd peth amser, felly byddem yn eich cynghori i barhau i fabwysiadu dull rhagofalus gyda chynhwysion sy’n cynnwys mwstard wrth i’r gwaith ymchwilio hyn fynd rhagddo. Byddwn yn parhau i gysylltu’n uniongyrchol â busnesau yr effeithir arnynt, yn ogystal â thrwy ein gwefan a sianeli cyfathrebu allanol i hysbysu busnesau am unrhyw newidiadau.

Rwy’n gweithio mewn bwyty. Beth dylwn i fod yn ei wneud i ddiogelu fy nghwsmeriaid?

Rydym yn parhau i gynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta unrhyw fwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, hadau mwstard, powdr mwstard neu flawd mwstard oherwydd halogiad posib â physgnau.

Os yw unrhyw rai o’r eitemau ar eich bwydlen yn cynnwys (neu os gallent gynnwys) mwstard, powdr mwstard neu flawd mwstard, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i gwsmeriaid ag alergedd i bysgnau. Rydym yn cynghori pobl ag alergedd i bysgnau i wirio gyda staff y caffi neu’r bwyty a yw unrhyw rai o’u cynhyrchion yn cynnwys mwstard – yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fusnesau bwyd ddarparu’r wybodaeth hon i gwsmeriaid.

Efallai y bydd hefyd o ddefnydd i chi adnewyddu eich gwybodaeth am ein canllawiau cyffredinol ar sut i reoli alergeddau mewn busnesau bwyd.