Crynodeb o’r canllawiau
Crynodeb o’r canllawiau byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr ar gyfer busnesau bwyd ac awdurdodau lleol.
Diben
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor i fusnesau bwyd ac awdurdodau lleol ar fesurau rheoli a systemau diogel a all leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr (LTTC), y cyfeirir atynt weithiau fel byrgyrs cig eidion amrwd, pinc neu wedi’u coginio’n ysgafn.
Statws cyfreithiol
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys Cydymffurfiaeth Rheoleiddio (hynny yw, sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol) a Chanllawiau Arferion Gorau (sy’n rhannu enghreifftiau defnyddiol o ddulliau y gallech eu defnyddio, ond nad oes gofyniad cyfreithiol i chi eu dilyn).
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau?
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:
- busnesau bwyd sy’n gweini byrgyrs cig eidion LTTC
- swyddogion awdurdodau lleol sy’n gorfodi rheolaethau swyddogol ar hylendid bwyd
- gallai’r canllawiau hefyd fod o ddiddordeb i weithgynhyrchwyr, proseswyr a dosbarthwyr cig eidion, briwgig eidion a byrgyrs cig eidion y bwriedir iddynt fod heb eu coginio’n drylwyr
I ba wledydd yn y Deyrnas Unedig (DU) mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Lloegr
Dyddiad adolygu
Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn cyn mis Mehefin 2025
Geiriau allweddol
- cyfraith bwyd
- monitro a rheolaethau
- hylendid a diogelwch bwyd
- byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr
- byrgyrs
- cig a da byw
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn. Cysylltwch â ni drwy gyflwyno ymholiad ar-lein os ydych yn fusnes. Dylai awdurdodau lleol gysylltu â’r ASB yn y modd arferol, gan ddilyn yr hierarchaeth ymholiadau y cytunwyd arni ac sydd i’w gweld ar y llwyfan Hwyluso Cyfathrebu (Smarter Communications).
Lawrlwytho’r canllawiau
Gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio’r opsiwn ‘Gweld fel PDF’ ar frig pob tudalen i lawrlwytho tudalennau unigol y canllawiau hyn
- defnyddio’r opsiwn ‘Gweld y canllawiau cyfan fel PDF’ ar waelod pob tudalen i lawrlwytho’r canllawiau cyfan fel un ddogfen
Hanes diwygio
Mai 2023 – Teitl newydd, a diwygio’r canllawiau i’w gwneud yn fwy eglur ac yn haws eu deall. Ychwanegu cyngor i brynu briwgig a byrgyrs cig eidion o safleoedd cymeradwy penodol.Ionawr 2022 – Diwygio’r canllawiau fel eu bod yn haws eu deall. Ychwanegu cyngor i brynu briwgig a byrgyrs cig eidion o safleoedd cymeradwy penodol. Newid fformat o ddogfen PDF i dudalennau gwe HTML am resymau hygyrchedd.
Mehefin 2018 – Adolygu negeseuon i ddefnyddwyr
Mai 2016 – Cyhoeddi’r canllawiau gwreiddiol
Hanes diwygio
Published: 17 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Awst 2023