Cofrestru fel busnes bwyd
Canllawiau ynghylch a oes angen i chi gofrestru fel busnes bwyd
Gallai fod angen i chi gofrestru fel busnes bwyd os ydych chi, neu eich gweithrediad, yn darparu bwyd i'r gymuned yn rheolaidd ac mewn modd cyfundrefnol, hyd yn oed os yw am ddim, a hynny 28 diwrnod cyn i chi ddechrau darparu bwyd.
Mae gennym gyngor penodol ar sut i gofrestru fel busnes bwyd.
Cyn darparu bwyd yn rheolaidd i'r gymuned, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol i drafod y gofynion cofrestru.
Fel gweithredwr busnes bwyd, mae angen i chi ddilyn y gofynion diogelwch a hylendid bwyd perthnasol, a amlinellir yn y canllawiau hyn. Mae cofrestru fel busnes bwyd yn golygu y bydd eich gweithrediad yn destun arolygiadau gan swyddogion awdurdodedig, ac y bydd yn cael sgôr hylendid bwyd, os yw'n gymwys ar ei chyfer.
Os taw dim ond yn achlysurol y byddwch chi'n darparu bwyd i'r gymuned, efallai na fydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd. Fodd bynnag, dylai'r bwyd a ddarperir gennych chi fod yn ddiogel i'w fwyta o hyd, ac rydym yn argymell eich bod yn dilyn yr arferion gorau o ran diogelwch a hylendid bwyd a restrir yn y canllawiau hyn.
Os ydych yn ansicr, mae gennym senarios i'w darllen am ddarparwyr bwyd y mae angen iddynt gofrestru fel busnes, a’r rheiny nad oes angen iddynt gofrestru fel busnes.
A chithau’n weithredwr busnes bwyd, gall eich tîm diogelwch bwyd lleol roi cymorth a chyngor pellach i chi mewn perthynas â’r materion yn y canllawiau hyn.
Mae gennym hefyd ganllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer darparu bwyd mewn digwyddiad cymunedol neu elusennol.