Cofrestru ac arolygu llaeth
Sut i wneud cais i gofrestru daliad cynhyrchu llaeth a sut rydym ni’n cynnal arolygiadau ar ffermydd llaeth
Cofrestru daliad cynhyrchu llaeth
Er mwyn gallu cynhyrchu llaeth a chynnyrch llaeth, bydd angen i chi gofrestru.
Yng Nghymru ac yn Lloegr, gallwch chi wneud cais i gofrestru gyda ni gan ddefnyddio'r ffurflen gais i gofrestru daliad cynhyrchu llaeth.
Os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch gyda'ch cais, neu os oes gan gynhyrchwyr cofrestredig presennol unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch statws cofrestru, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i approvals@food.gov.uk.
Arolygiadau hylendid llaeth
Rydym ni’n arolygu pob fferm laeth yng Nghymru ac yn Lloegr.
Mae ein harolygiadau hylendid llaeth yn sicrhau bod safon foddhaol o hylendid yn cael ei chynnal ar bob fferm laeth a bod yr holl rwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni. Rydym ni’n gwneud hyn trwy:
- arolygu safleoedd ac offer godro
- arolygu anifeiliaid sy'n cynhyrchu llaeth
- gorfodi safonau boddhaol
Mae'r arolygiadau'n helpu i ddiogelu cyflenwad llaeth amrwd y genedl rhag cael ei halogi gan facteria a sylweddau niweidiol eraill.
Pa mor aml y cynhelir arolygiadau?
Mae'r amlder arolygu arferol ar gyfer safleoedd cofrestredig sy’n cynhyrchu llaeth yn dibynnu ar:
- math o gynnyrch
- math o rywogaeth sy’n cynhyrchu’r llaeth
- dyddiad yr arolygiad diwethaf
- aelodaeth o'r cynllun achrediad trydydd parti (Cynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth Tractor Coch)
- hanes cydymffurfio’r fferm
- unrhyw wybodaeth, cwynion neu ymchwiliadau lleol eraill a allai olygu bod angen arolygiad
Arolygu bob 6 mis
- llaeth buwch i’w yfed yn amrwd i'w werthu’n uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol
- llaeth yfed amrwd o'r holl rywogaethau eraill i’w werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol
Arolygu bob 2 flynedd
- cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o rywogaethau heblaw gwartheg
- cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o wartheg ar fferm laeth heb ei gwarantu
Arolygu bob 10 mlynedd
- cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o wartheg ar fferm laeth warantedig
Hanes diwygio
Published: 3 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2023