Codi ymwybyddiaeth o risg bosib mycotocsinau mewn bwyd anifeiliaid a lliniaru’r risg
Hoffai’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) godi ymwybyddiaeth o effeithiau andwyol posib mycotocsinau mewn bwyd anifeiliaid.
Cyflwyniad
Mae deddfwriaeth bwyd anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid sicrhau bod y bwyd anifeiliaid y maent yn ei roi ar y farchnad yn ddiogel. Rydym ni’n argymell felly fod busnesau sy’n tyfu, prosesu a/neu storio deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n deillio o blanhigion (plant-based) yn adolygu eu trefniadau profi ac yn ystyried cynnal gwaith samplu mwy rheolaidd ac ehangu eu cwmpas eu gwaith profi mycotocsinau mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd.
Cefndir
Mae cyfansoddion mycotocsinau, sef sylweddau gwenwynig a gynhyrchir gan rai mathau o ffyngau, wedi’u cysylltu’n arbennig â thwf ar gnydau grawnfwyd, er y gallant effeithio ar nwyddau bwyd anifeiliaid eraill (er enghraifft ffrwythau, llysiau neu gnau). Gan y gall ffyngau gynhyrchu mycotocsinau gwahanol, gall mwy nag un mycotocsin fod yn bresennol yn y nwydd ar yr un pryd.
Law yn llaw â phatrymau newid hinsawdd a dosbarthiad bwyd anifeiliaid byd-eang deinamig, rhagwelir y gall presenoldeb ac amlder mycotocsinau mewn grawnfwydydd a nwyddau bwyd anifeiliaid eraill sy’n deillio o blanhigion gynyddu. Mae’n bosib y gallai hyn gynnwys newid ym mhatrwm dosbarthiad daearyddol y mathau o fycotocsinau a nodir amlaf mewn bwyd anifeiliaid sy’n cael ei fewnforio a’i dyfu yn y Deyrnas Unedig (DU) heddiw.
Lefelau rheoleiddio a chanllawiau ar gyfer mycotocsinau mewn bwyd anifeiliaid
O dan ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid, ceir terfynau cyfreithiol ar gyfer y mycotocsin Afflatocsin B1 mewn deunyddiau crai bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd gorffenedig yn unig, fel y nodir yng Nghyfarwyddeb 2002/32 ar Sylweddau Annymunol (halogion).
Mae canllawiau o ran gwerthoedd ar gyfer mycotocsinau allweddol eraill wedi’u sefydlu ar gyfer da byw ac anifeiliaid domestig. Er bod y dogfennau wedi’u cyhoeddi gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac nid ydynt wedi’u nodi yn neddfwriaeth y DU, mae’r cynnwys technegol yn parhau i fod yn gymwys fel adnodd canllaw cyffredinol:
- Presenoldeb tocsinau T-2 a HT-2 mewn amryw o rawnfwydydd a chynhyrchion grawnfwyd
- Presenoldeb deocsinifalenol, searalenon, ocratocsin A, T-2 a HT-2 a ffwmonisinau mewn cynhyrchion a fwriedir ar gyfer bwydo anifeiliaid (gan gynnwys bwyd anifeiliaid anwes)
Arferion gorau wrth liniaru halogiad mycotocsinau
Ceir cefndir pellach ar fycotocsinau a nifer o godau ymarfer cyhoeddedig i leihau twf ffwngaidd a halogiad mycotocsinau mewn bwydydd ar dudalen we’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar Fycotocsinau, sy’n ymwneud ag arferion agronomeg a storio. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i raddau helaeth ar gyfer nwyddau a ddefnyddir mewn bwyd anifeiliaid.
Wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg, bydd yr ASB adolygu’r dull o reoli unrhyw risgiau a nodwyd o halogiad mycotocsinau mewn bwyd anifeiliaid ac yn hysbysu’r diwydiant fel y gallwn gymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol o ganlyniad i unrhyw ganfyddiadau.
Argymhelliad ar gyfer profi mycotocsinau
Mae’r ASB yn argymell bod gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid yn ystyried y problemau posib sy’n gysylltiedig â phresenoldeb mycotocsinau yn y cynhwysion bwyd anifeiliaid y maent yn eu prosesu, ac eu bod yn cynnal profion mwy rheolaidd ar y mycotocsinau a amlinellir uchod gan gynnwys y grŵp llai hysbys A Tricothesen sy’n cynnwys T-2 a HT-2 , deuasetosyscirpenol a neosolaniol.