Categoreiddio gwinllannoedd
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ymwneud â’ch gwinllan i wahanol raddau, gan ddibynnu ar gategori eich gwinllan.
Gwinllan segur
Mae gwinllannoedd segur yn safleoedd nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd. Mae’n bosib eu hadfer, ond yn aml, ymhen amser, bydd y planhigion yn cael eu codi o’r pridd.
Rydym yn ystyried bod y rhain yn winllannoedd blaenoriaeth isel. Byddem yn cysylltu â’r deiliad cofrestredig i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau mewn statws. Rydym yn ymweld â gwinllannoedd bob pedair blynedd.
Gwinllan hobi
Mae gwinllannoedd hobi yn:
- safleoedd lle mae grawnwin yn cael eu tyfu er mwynhad personol.
- unrhyw win a wneir at ddefnydd y deiliad cofrestredig ei hun.
- safleoedd lle na werthir unrhyw rawnwin na gwin sy’n dod o’r gwinllan hobi.
Rydym yn ystyried bod y safleoedd hyn yn rhai blaenoriaeth isel. Byddem yn cysylltu â’r deiliad cofrestredig i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau mewn statws. Rydym yn ymweld â gwinllannoedd bob pedair blynedd.
Gwinllan fasnachol
Mae gwinllannoedd masnachol yn:
- safleoedd lle mae grawnwin yn cael eu tyfu a’u gwerthu fel cnwd masnachol i windy.
- grawnwin y gellir eu gwerthu i weithgynhyrchwyr eraill i greu sudd grawnwin neu gynhyrchion eraill.
Yn y math hwn o system, efallai yr hoffech ystyried cael contract ffurfiol i ddiogelu’r ddau barti. Mae rhai contractau enghreifftiol ar gael i aelodau WineGB. Efallai bod gan y gwindy neu’r gwneuthurwr sy’n cymryd y cnwd eu contractau eu hunain.
Rhaid cludo grawnwin gyda Dogfen Fasnachol Gysylltiedig (CAD), oni bai bod eithriadau yn berthnasol. Byddem yn cysylltu â’r deiliad cofrestredig bob dwy flynedd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau mewn statws.
Rydym yn ymweld â gwinllannoedd bob pedair blynedd.
Gwinllan fasnachol sy’n cynhyrchu neu’n gwerthu gwin
Mewn gwinllan fasnachol, bydd y deiliad yn tyfu ei rawnwin ei hun a naill ai’n eu troi’n win ar y safle neu’n anfon y grawnwin i windy masnachol i’w troi’n win. Gall hyn gynnwys y broses botelu. Yna, dychwelir y gwin gorffenedig i’r winllan i’w werthu.
Rhaid i’r deiliad sy’n cynhyrchu gwin lenwi ffurflen gynhyrchu WSB 21 bob blwyddyn. Mae hyn yn nodi’r math o win a gynhyrchir, a faint.
Os yw’r deiliad yn cynhyrchu ei win ei hun, mae’n rhaid iddo wneud y canlynol:
- cadw cofnodion cywir am y gwindy
- cadw cofnodion o unrhyw rawnwin y bydd yn eu brynu neu eu gwerthu
- cyflwyno datganiad cynhyrchu gwin blynyddol
Rydym yn ymweld â’r gwinllannoedd hyn o leiaf unwaith y flwyddyn os ydynt yn gwneud eu gwin eu hunain, neu unwaith bob dwy flynedd os yw eu gwin yn cael ei wneud o dan gontract ar safle gwahanol.
Gwneuthurwr gwin contract masnachol
Gall deiliad, yn ogystal â chynhyrchu ei win ei hun, hefyd gynhyrchu gwin i dyfwyr eraill. Mae gwinllannoedd masnachol a gwinllannoedd hobi yn defnyddio gwneuthurwyr gwin contract i wneud gwin ar eu cyfer.
Rhaid i’r deiliad wneud y canlynol:
- cadw cofnodion cywir am y gwindy
- cadw cofnodion o unrhyw rawnwin y bydd yn eu prynu neu eu gwerthu
- cyflwyno datganiad cynhyrchu gwin blynyddol
Rydym yn ymweld â’r safleoedd hyn ddwywaith y flwyddyn.