Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd ar atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys caffein

Canllawiau a chyngor i fusnesau sy'n gweithgynhyrchu, yn prosesu, yn dosbarthu neu’n gwerthu atchwanegiadau bwyd sy'n cynnwys caffein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Caffein mewn atchwanegiadau bwyd

Mae caffein yn sylwedd sydd i’w gael yn naturiol mewn llawer o gynhyrchion, fel te a choffi, ac mae’n un o’r cyfnerthwyr sy’n cael ei yfed a’i fwyta fwyaf ledled y byd.

Mae caffein yn cael ei ychwanegu at atchwanegiadau bwyd, ac mae’n aml yn cael ei farchnata drwy sôn am ei effeithiau ffisiolegol, fel gwella ffocws a pherfformiad. Nid yw caffein yn fitamin nac yn fwyn, ond mae’n cyd-fynd â’r diffiniad o sylwedd sy’n cael effaith ffisiolegol, ac felly gellir ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn atchwanegiadau bwyd.

Yn aml, gall atchwanegiadau bwyd caffein gynnwys lefelau uchel o gaffein, weithiau o sawl cynhwysyn sydd eu hunain yn gallu bod yn ffynhonnell caffein (er enghraifft, cnau cola, guarana, a rhai mathau o ddail te, fel te du). Gan fod caffein yn cael ei amsugno’n gyflym i’r llif gwaed, gall yr effeithiau ysgogol ddechrau 15 i 30 munud ar ôl ei lyncu a gallant bara am nifer o oriau, gan gael effeithiau ffisiolegol neu arwain at sgil-effeithiau (er enghraifft, cur pen a theimlo’n gyfoglyd).

Mathau o atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys caffein

Mae caffein i’w gael mewn amrywiaeth o atchwanegiadau bwyd, gan gynnwys:

 

  • powdr caffein 100%, sef y ffurf fwyaf crynodedig o gaffein sydd ar gael ar farchnad y DU
  • atchwanegiadau caffein sy'n cynnwys caffein a chynhwysion eraill ac sy’n cael eu gwerthu ar ffurf dosau
  • atchwanegiadau bwyd lle nad yw caffein yn cael ei grybwyll yn enw’r cynnyrch, ond lle mae’n cael ei restru ymhlith y cynhwysion, er enghraifft, atchwanegiadau i’w cymryd cyn gwneud ymarfer corff
  • atchwanegiadau bwyd lle nad yw caffein yn cael ei restru fel cynhwysyn ar y deunydd pecynnu, ond sy’n cynnwys cynhwysyn â swm sylweddol o gaffein, er enghraifft, guarana
     

Lefelau’r caffein yr argymhellir eu defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd

Rhowch sylw i lefelau’r caffein yr argymhellir eu defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ac ystyriwch yr wybodaeth hon pan fyddwch yn asesu cyfansoddiad diogel eich cynnyrch. Yn ôl barn Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar gaffein, ystyrir bod dosau sengl o hyd at 200mg o gaffein a chyfanswm cymeriant dyddiol o hyd at 400mg o gaffein yn ddiogel ar gyfer y boblogaeth gyffredinol o oedolion iach, ac eithrio menywod beichiog.

Mae barn EFSA yn nodi nad yw dognau sengl o 200mg o gaffein yn peri unrhyw bryder o ran plant ychwaith, ac nad yw cymeriant diogel o 3mg/kg pwysau’r corff, o ran cymeriant cyson gan blant a phobl ifanc, yn peri unrhyw bryderon o ran diogelwch. Mae awdurdodau diogelwch eraill, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Llywodraeth Canada, a Phwyllgor Gwyddonol Norwy, yn cefnogi’r farn hon.

Mae gwefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cynghori na ddylid cael mwy na 200mg o gaffein y dydd yn ystod beichiogrwydd. Mae barn EFSA yn cynghori nad yw cymeriant cyson o hyd at 200mg o gaffein y dydd gan fenywod beichiog yn peri unrhyw bryderon o ran diogelwch y ffetws. Os bydd menywod sy’n llaetha yn yfed a bwyta dosau sengl neu gymeriant cyson o hyd at 200mg o gaffein, nid yw’n peri pryderon o ran diogelwch babanod sy’n bwydo ar y fron. 

Sgil-effeithiau lefelau uchel o gaffein

Yn ôl barn EFSA, nid yw cymeriant o hyd at 400mg o gaffein y dydd yn debygol o effeithio’n andwyol ar y rhan fwyaf o bobl. Fodd bynnag, gall unigolion sy’n sensitif i ddosau isel o gaffein a/neu unigolion â chyflyrau iechyd isorweddol ddioddef rhai sgil-effeithiau, fel cryndod, gorbryder neu ei chael yn anodd canolbwyntio. 

Os bydd plant ac oedolion yn yfed a bwyta gormod o gaffein, gall yr effeithiau andwyol yn y tymor byr gynnwys cwsg anesmwyth, gorbryder, a newidiadau o ran ymddygiad. Cafodd yfed a bwyta gormod o gaffein yn y tymor hirach ei gysylltu â phroblemau cardiofasgwlaidd hynny yw, effeithiau ar y galon a’r pibellau gwaed.

Ceir cysylltiad rhwng yfed a bwyta llawer iawn o gaffein a mwy o densiwn, nerfusrwydd, gorbryder, anniddigrwydd, cyfog, pinnau bach, cryndod, chwysu, crychguriadau’r galon (curiad calon cyflym ac afreolaidd), anesmwythder, a phendro posib. Gall yr effeithiau hyn fod yn fwy difrifol ymhlith unigolion sy'n sensitif i gaffein a/neu sydd â phroblemau iechyd sylfaenol, fel clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel, a gall yr effeithiau ddigwydd pan fydd pobl wedi cael dosau llai o faint.

Ceir cysylltiad rhwng yfed a bwyta gormod o gaffein a nifer o effeithiau andwyol difrifol, fel curiad calon cyflym, rhythmau calon annormal a ffitiau, effeithiau a welwyd ar ôl i unigolion yfed a bwyta tua 1.2 gram (1,200mg) o gaffein. Ceir cysylltiad rhwng yfed a bwyta gormod o gaffein yn ystod beichiogrwydd a risg uwch o arafu datblygiad y ffetws.

Adroddwyd y gall yfed a bwyta mwy na 10-14 gram (10,000mg – 14,000mg) o gaffein fod yn angheuol, ond gall dosau llai o faint hefyd fygwth bywyd poblogaethau sy’n sensitif i gaffein. Mae'r achosion hyn wedi digwydd pan fo caffein pur wedi’i fesur yn anghywir.

Y ddeddfwriaeth a’r gofynion cofrestru

Yn y DU, mae’n ofynnol i atchwanegiadau bwyd gael eu rheoleiddio fel bwydydd ac maen nhw’n ddarostyngedig i ddarpariaethau’r gyfraith bwyd. Mae’r gyfraith bwyd yn gatalog eang a chynhwysfawr o ofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd gydymffurfio â nhw. Ceir gofynion penodol ar gyfer atchwanegiadau bwyd, yn ychwanegol at Reoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (CE) 178/2002 a deddfwriaeth arall a all fod yn gymwys hefyd. Yng Ngogledd Iwerddon, mae atchwanegiadau bwyd yn cael eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth yr UE yn ogystal â deddfwriaeth ddomestig.

Nid oes angen trwydded na chymeradwyaeth y llywodraeth i werthu atchwanegiadau bwyd yn y DU. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw un sy’n cynhyrchu, yn mewnforio neu’n gwerthu atchwanegiadau bwyd gofrestru fel gweithredwr busnes bwyd gyda’i awdurdod lleol a sicrhau ei fod yn ymlynu wrth gyfreithiau diogelwch bwyd. Bydd arolygwyr yn cadarnhau bod gweithredwyr busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r cyfreithiau hyn yn ystod arolygiadau diogelwch bwyd, a chyfrifoldeb y gweithredwyr busnesau bwyd sy’n gwerthu’r cynhyrchion hyn yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Mae mwy o wybodaeth am atchwanegiadau bwyd a’r hyn y mae angen i chi ei wneud fel busnes i’w gwerthu ar gael ar dudalen we’r Asiantaeth Safonau Bwyd am atchwanegiadau bwyd ac ar dudalen we’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ddefnyddio a labelu atchwanegiad bwyd. Os yw’ch busnes chi wedi’i leoli yn yr Alban, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ddechrau busnes ar dudalen we Safonau Bwyd yr Alban sy’n rhoi canllawiau ar ddechrau busnes bwyd newydd.

Yn y DU, nid oes terfyn cyfreithiol uchaf ar gyfer caffein pan gaiff ei ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd.

Fodd bynnag, mae terfynau uchaf a ganiateir wedi’u pennu mewn deddfwriaeth ar gyfer caffein pan gaiff ei ddefnyddio fel cyflasyn mewn bwydydd neu ddiodydd penodol, a hynny yn Rheoliad (CE) 1334/2008 a gymathwyd. Ceir gofynion labelu penodol hefyd ar gyfer bwydydd a diodydd sy'n cynnwys caffein yn Atodiad III o Reoliad (UE) 1169/2011 ar Ddarparu Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal ag Atodiad III o Reoliad (UE) 1169/2011 a gymathwyd ym Mhrydain Fawr. Mae mwy o wybodaeth am y gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys caffein ar gael yn Labelu bwyd: rhoi gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr.

 

Pwysig

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr atchwanegiadau bwyd rydych chi’n eu gwerthu yn ddiogel i bobl eu defnyddio. Yn unol â Deddf Diogelwch Bwyd 1990, mae’n drosedd peri i fwyd fod yn niweidiol i iechyd.

O dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, gall bwyd sy’n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd gael ei atafaelu a’i ddinistrio ar draul gweithredwr y busnes bwyd.

Mae’r ffactorau sy’n pennu a yw bwyd yn “anniogel” neu’n “niweidiol i iechyd” wedi’u nodi yn erthygl 14 o Reoliad (CE) 178/2002.

Honiadau am faeth ac iechyd

Mae honiad am faeth yn honiad sy’n datgan, yn cynnig neu’n awgrymu bod gan fwyd briodweddau buddiol o ran maeth, fel “braster isel” neu “ffeibr uchel”. Mae honiad am iechyd yn unrhyw honiad sy’n datgan, yn cynnig neu’n awgrymu y gall manteision iechyd ddeillio o fwyta bwyd penodol, fel “yn helpu i adeiladu esgyrn cryf”, “yn cynnal lefelau colesterol iach”. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw honiadau am faeth nac iechyd wedi’u cymeradwyo ar gyfer caffein yng Nghofrestr Honiadau am Faeth ac Iechyd Prydain Fawr nac yng Nghofrestr Honiadau Iechyd yr UE sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gellir parhau i ddefnyddio ‘honiadau dan ystyriaeth’ nes bod penderfyniad yn cael ei wneud i’w cymeradwyo ai peidio. Mae mwy o ganllawiau ynghylch yr honiadau am faeth ac iechyd a wneir ar fwydydd ar gael ar dudalen we yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am honiadau am faeth ac iechyd a wneir ar fwydydd.

Rhaid i honiadau gwirfoddol am faeth neu iechyd gydymffurfio â gofynion Rheoliad Ewropeaidd (CE) 1924/2006 a gymathwyd ar honiadau am faeth ac iechyd a wneir ar fwyd.

Cyngor i weithredwyr busnesau bwyd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r safonau rheoleiddiol i ddiogelu defnyddwyr ac i gynnal enw da eich busnes. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gallech wynebu canlyniadau cyfreithiol ac fe allai niweidio enw da eich brand.

Gwnewch yn siŵr bod y caffein a ddefnyddir yn eich cynhyrchion yn cael ei gyflenwi gan gyflenwyr ag enw da sydd wedi’u cofrestru fel busnesau gyda’u hawdurdod lleol ac sy’n darparu anfonebau a derbynebau â manylion llawn.

Rhowch ganllawiau clir o ran dosau: Os bydd eich cyfarwyddiadau o ran dosau yn amwys neu’n aneglur, gallai defnyddwyr gamddefnyddio'ch cynhyrchion, a gallai hynny effeithiau’n andwyol ar eu hiechyd neu beri iddynt fod yn anfodlon. Nodwch yn glir beth yw meintiau’r dognau a argymhellir a’r rhagofalon i leihau'r risgiau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol o ran labelu. Gwnewch yn siŵr bod y dos caffein a nodir ar y label yn gywir. Mae barn EFSA a gyhoeddwyd yn 2015 yn argymell dosau sengl o hyd at 200mg fesul dogn neu hyd at gyfanswm o 400mg y dydd. Gall dosau sy'n argymell cymeriant dyddiol uwch na 400mg arwain at sgil-effeithiau negyddol.

Gwnewch yn siŵr bod y dyfeisiau mesur a ddarperir yn gywir: Os ydych yn gwerthu atchwanegiad ar ffurf powdr neu hylif, gwnewch yn siŵr bod modd i ddefnyddwyr fesur dosau mewn ffordd hwylus a chywir drwy ddarparu dyfais fesur, fel sgwp. Os byddwch yn cynnwys dyfeisiau mesur anghywir neu annibynadwy gyda’ch atchwanegiadau, gall beryglu diogelwch a bodlonrwydd y defnyddwyr. Ewch ati i gynnal gwiriadau rheoli ansawdd rheolaidd i gadarnhau bod yr offerynnau mesur yn fanwl gywir, a darparwch hyfforddiant digonol i’r staff sy'n gyfrifol am becynnu i sicrhau bod cyn lleied o wallau â phosib yn digwydd.

Rhannwch wybodaeth ar-lein mewn ffordd gyfrifol: Gall llwyfannau ar-lein (hynny yw, gwefannau, apiau masnachol, cyfryngau cymdeithasol, ac ati) fod yn werthfawr i farchnata ac i ymgysylltu â chwsmeriaid, ond gall lledaenu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol am eich cynhyrchion niweidio ymddiriedaeth a hygrededd. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw wybodaeth a rennir ar-lein yn gywir, yn dryloyw, ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau i gynnal hyder defnyddwyr.

Ewch ati i annog defnyddwyr i ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol: Hyrwyddwch ddefnydd cyfrifol o’ch atchwanegiadau drwy gynghori defnyddwyr i ofyn am gyngor gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol cyn dechrau ar unrhyw drefn ddeietegol newydd. Pwysleisiwch bwysigrwydd gwneud penderfyniadau gwybodus a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â defnydd amhriodol.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd 

Os ydych yn credu bod atchwanegiad bwyd sy’n cynnwys caffein ac sydd wedi’i gyflenwi yn niweidiol i iechyd, yn anaddas i bobl ei fwyta neu’n methu â bodloni’r gofynion cyfreithiol, dylech roi gwybod i’ch awdurdod lleol, eich prif awdurdod neu’ch cyngor dosbarth. Bydd yr awdurdod lleol, y prif awdurdod neu’r cyngor dosbarth yn rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd i’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Os ydych chi yn yr Alban, bydd yr awdurdod perthnasol yn rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd i Safonau Bwyd yr Alban.