Canllawiau’r diwydiant ar hylendid bwyd da
Sut i baratoi a datblygu canllawiau cenedlaethol i sicrhau arferion hylendid da
Sut i ddatblygu canllawiau’r diwydiant
Dylai sectorau diwydiant bwyd sy’n dymuno datblygu canllawiau cydnabyddedig ddilyn y 'Canllawiau ar ddatblygu canllawiau’. Mae’r canllawiau’n disgrifio’r broses a’r cyfrifoldebau ar gyfer:
- cynllunio prosiect
- gweithgor
- ymgynghori
- cwmpas, cynnwys a strwythur
- y broses ar gyfer cael 'cydnabyddiaeth swyddogol’
England, Northern Ireland and Wales
Rhaid i awdurdod gorfodi roi 'sylw dyledus’ os yw busnes yn dilyn cyngor mewn canllawiau cydnabyddedig ar gyfer y diwydiant.
Canllawiau’r diwydiant sydd eisoes yn bodoli
Mae’r canllawiau diwydiant bwyd ar arferion hylendid da sydd eisoes wedi’u datblygu ac sydd ar gael i’w defnyddio yn cynnwys:
- Canllaw Arlwyo: Canllaw i'r diwydiant ar arferion hylendid da
- manwerthu
- dosbarthwyr cyfanwerthu
- proseswyr pysgod gwyn
- siopau brechdanau a chanolfannau gwasanaeth bwyd tebyg
- gweithgynhyrchu brechdanau
- gwerthu a dosbarthu
- dŵr potel
- bwyd wedi'i archebu drwy'r post
- diodydd ac alcohol
- berwr y dŵr (watercress)
Hanes diwygio
Published: 20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023