Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar nodau iechyd ac adnabod sy’n gymwys o 1 Ionawr 2024

Canllawiau ar y nodau iechyd ac adnabod y mae’n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) fel cig, cynhyrchion wyau, pysgod, caws a llaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r canllawiau canlynol ar gyfer awdurdodau gorfodi ac maent yn gymwys i holl fusnesau bwyd y DU sy’n cynhyrchu POAO yn y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). Mae’r canllawiau’n amlinellu’r gofynion o ran nodau iechyd ac adnabod a fydd yn caniatáu i gynnyrch POAO a gynhyrchir gan fusnesau yn y DU gael ei roi ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a thu allan i’r UE o 1 Ionawr 2024.

Pwysig

Daeth y cyfnod addasu o 36 mis i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n bosib i fusnesau bwyd cymeradwy ddefnyddio stociau presennol o labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sy’n dwyn y nod adnabod ‘UK/EC’ ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Ar ôl y dyddiad hwn, ni all busnesau bwyd ym Mhrydain Fawr barhau i roi labeli sy’n cynnwys y nod adnabod ‘UK/EC’ ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid.

Mae diwedd y cyfnod addasu hefyd yn gymwys i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon. Ar ôl 31 Rhagfyr 2023, dylai pob nod adnabod a ddefnyddir gan fusnesau bwyd yng Ngogledd Iwerddon nodi ‘UK(NI) EC’.

Beth yw nodau iechyd ac adnabod?  

Mae’r nod iechyd yn cael ei roi’n uniongyrchol ar gynnyrch POAO, fel arfer carcasau cig, gan yr Awdurdod Cymwys neu o dan ei oruchwyliaeth, ac mae’n dangos bod y cynnyrch yn addas i’w fwyta gan bobl. 

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys. Mae gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS) gyfrifoldeb tebyg yn yr Alban. 

Mae’r nod adnabod yn cael ei roi ar gynnyrch POAO gan fusnesau bwyd er mwyn dangos ei fod wedi’i gynhyrchu mewn sefydliad cymeradwy yn unol â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd. Mae’r nod fel arfer yn cael ei roi ar ddeunydd lapio, deunydd pecynnu neu labeli sy’n cynnwys y cynnyrch POAO, neu sydd ynghlwm wrtho.

Ymhellach i lawr y dudalen hon gallwch ddod o hyd i’r canlynol: 

  • disgrifiad o’r nodau iechyd ac adnabod newydd, yn dibynnu a yw’r busnes bwyd wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu ym Mhrydain Fawr – mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny
  • gwybodaeth sy’n nodi’r gofynion ar gyfer gwahanol farchnadoedd

Ail-lapio neu ail-becynnu cynnyrch POAO

Rhaid i unrhyw waith ail-lapio neu ail-becynnu cynnyrch POAO gael ei gynnal gan sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo i gyflawni’r gweithgarwch gofynnol. Os yw’n cael ei wneud gan sefydliad ar wahân i’r gweithgynhyrchwr gwreiddiol, rhaid defnyddio’r nod priodol gyda rhif cymeradwyo’r sefydliad. Mae hyn er mwyn gallu olrhain a sicrhau nad yw diogelwch bwyd yn cael ei gyfaddawdu.

Pan fo cynnyrch sydd wedi’i fwriadu ar gyfer marchnad yr UE neu Ogledd Iwerddon wedi gadael y busnes bwyd sy’n ei gynhyrchu ac sydd mewn storfa oer neu gyfleuster storio arall ym Mhrydain Fawr nad yw wedi’i gymeradwyo ar gyfer ail-lapio nac ail-becynnu, mae’n bwysig bod y cynnyrch yn cael ei symud i sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo i gynnal gweithgareddau ail-lapio neu ail-becynnu yn benodol ar gyfer y cynnyrch POAO hwnnw, neu bydd rhaid ei ddychwelyd i’r busnes bwyd sy’n ei gynhyrchu. 

Lle mae’n briodol gosod label newydd dros yr hen un, bydd angen i’r busnes bwyd fod yn fodlon bod unrhyw labelu dros ben yn ddiogel ac nad yw’n cuddio unrhyw wybodaeth labelu orfodol arall. Gall methu â bodloni’r gofynion hyn arwain at awdurdodau gorfodi yn gwrthod cynnyrch yn y wlad gyrchfan (country of destination).

Gwybodaeth am ddefnyddio’r stoc bresennol gyda’r nod adnabod ‘UK/EC’ 

Ar farchnad Prydain Fawr

O 1 Ionawr 2024 ymlaen, bydd hi’n anghyfreithlon defnyddio labeli, deunydd lapio a deunydd pecynnu sydd â’r nod adnabod ‘UK/EC’ arnynt. 

Caniateir i gynhyrchion y rhoddir nod adnabod ‘UK/EC’ arnynt cyn 1 Ionawr 2024 aros ar y farchnad.

Ar farchnad Gogledd Iwerddon

O 1 Ionawr 2024 ymlaen, dylai pob nod adnabod yng Ngogledd Iwerddon gydymffurfio â deddfwriaeth yr UE, hynny yw, ‘UK (NI) EC’.

Symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

O 1 Ionawr 2024, wrth symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ni ddylai’r nod adnabod gynnwys y nod ‘EC’. Mae hyn yn wir wrth symud cynnyrch trwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon neu drwy’r ‘lôn goch’. Mae nodau adnabod sy’n cydymffurfio â’r gyfraith, a’r marchnadoedd y maen nhw’n berthnasol iddynt, i’w gweld yn y tabl isod.

O 1 Hydref 2023, o dan Fframwaith Windsor, cafodd y Cynllun ar gyfer Symud Cynhyrchion Bwyd-Amaeth Dros Dro i Ogledd Iwerddon (STAMNI) ei ddisodli gan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). Mae’r cynllun newydd yn caniatáu i ystod ehangach o fasnachwyr – fel manwerthwyr, cyfanwerthwyr, arlwywyr, a’r rhai sy’n darparu bwyd i sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai – symud nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw sydd ar gyfer defnyddwyr terfynol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r trefniadau’n galluogi llwythi i symud yn seiliedig ar un dystysgrif, heb wiriadau ffisegol arferol. Erbyn hyn, gall llwythi o nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw, sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon trwy NIRMS, fodloni safonau Prydain Fawr mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus, marchnata (gan gynnwys labelu) a chynhyrchion organig.

Mae canllawiau manylach ar gael ar y tudalennau gwe canlynol:

Maint a dimensiwn nodau iechyd ac adnabod

Nod iechyd

Rhaid i’r nod iechyd fod yn nod hirgrwn darllenadwy ac annileadwy sydd o leiaf 6.5cm o ran lled a 4.5cm o ran uchder. Rhaid iddo gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ mewn priflythrennau neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ac yna rhif cymeradwyo’r sefydliad. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘UNITED KINGDOM’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny.

Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r nod iechyd gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND)’ mewn priflythrennau neu’r talfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo’r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau ‘EC’ o dan y rhif cymeradwyo.

Rhaid i lythrennau fod o leiaf 0.8cm o ran uchder a rhaid i ffigurau fod o leiaf 1cm o ran uchder. Rhaid i’r inc a ddefnyddir ar gyfer y nod iechyd gael ei awdurdodi yn unol â chyfraith bwyd sy’n llywodraethu’r defnydd o sylweddau lliwio mewn bwyd.

Gellir lleihau dimensiynau a llythrennau’r nodau iechyd ar gyfer marcio wŷn, mynnau geifr (kids) a moch bach.

Nod adnabod

Nid oes maint lleiaf na mwyaf wedi’i bennu ar gyfer y nod adnabod. Fodd bynnag, rhaid i’r nod hirgrwn fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy, a’r llythrennau’n hawdd eu dehongli.

Rhaid i’r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio'r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny.

Ar gyfer cynnyrch POAO a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i’r nod adnabod newydd gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘United Kingdom (Northern Ireland)’ mewn priflythrennau neu’r talfyriad ‘UK(NI)’, ac yna rhif cymeradwyo’r sefydliad. Rhaid iddo hefyd gynnwys y llythrennau ‘EC’ o dan y rhif cymeradwyo.

Defnyddio nodau iechyd ac adnabod ar farchnadoedd Prydain, Gogledd Iwerddon, yr UE a’r tu allan i’r UE

Nodau iechyd

Nodau iechyd y mae’n rhaid eu defnyddio o 1 Ionawr 2024 ymlaen a’r farchnad gyrchfan (destination market)
Nod Iechyd Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod Marchnad Prydain Fawr Marchnad Gogledd Iwerddon Marchnad 27 Gwlad yr UE Marchnad y tu allan i'r UE
Example of UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND) health and identification mark Gogledd Iwerddon Ie Ie Ie Ie
  Example of oval health and identification marks: ‘UK(NI) 1234 EC’ Gogledd Iwerddon Ie Ie Ie Ie
  Example of oval health and identification marks: ‘GB 1234’ Prydain Fawr Ie Ie Ie Ie
  Example of oval health and identification marks: ‘UNITED KINGDOM 1234’ Prydain Fawr Ie Ie Ie Ie
  Example of oval health and identification marks: ‘UK 1234’ Prydain Fawr Ie Na Na Ie

 

Nodau adnabod

Nodau adnabod y mae’n rhaid eu defnyddio o 1 Ionawr 2024 a’r farchnad gyrchfan*
Nod adnabod Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod Marchnad Prydain Fawr Gogledd Iwerddon Marchnad 27 Gwlad yr UE Marchnad y tu allan i'r UE
Example of UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND) health and identification mark Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Example of oval health and identification marks: ‘UK(NI) 1234 EC’ Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
  Example of oval identification mark: ‘United Kingdom (Northern Ireland) AA123 EC’ Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
  Example of oval identification mark: ‘UK(NI) AA123 EC’ Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
  Example of oval health and identification marks: ‘GB 1234’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Example of oval health and identification mark: ‘United Kingdom 1234’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Example of oval health and identification marks: ‘UK 1234’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Na Na Ie
Example of oval identification mark: ‘GB AA123’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Ie Ie Ie
  Example of oval identification mark: ‘United Kingdom AA123’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Ie Ie Ie
Example of oval identification mark: ‘UK AA123’ Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Na Na Ie