Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid (feed additive) a’r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn gynhyrchion sydd wedi'u hawdurdodi at ddibenion penodol mewn bwyd anifeiliaid, er enghraifft:

  • bodloni gofynion maethol yr anifeiliaid
  • gwella ansawdd bwyd anifeiliaid ac ansawdd bwyd sy’n dod o anifeiliaid (hynny yw cig, pysgod, llaeth, wyau)
  • gwella perfformiad ac iechyd yr anifeiliaid

Rhaid awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid cyn eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr a dim ond at y diben a nodir yn yr awdurdodiad y gellir eu defnyddio. Os bwriedir i ychwanegyn bwyd anifeiliaid gyflawni mwy nag un swyddogaeth, mae angen awdurdodiad ar wahân ar gyfer pob swyddogaeth.  

Y gofrestr ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid fel y’i pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr ychwanegion bwyd anifeiliaid yn rhestru’r ychwanegion bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi. Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol.

Deddfwriaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003  a Rheoliad y Comisiwn a gymathwyd (CE) Rhif 429/2008, yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn, ac yn egluro’r canlynol:

  • y rheolau ar awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • yr amodau defnyddio ar gyfer ychwanegion
  • y darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid a’u rhag-gymysgeddau y mae’n rhaid cadw atynt

Gofynion manwl ar gyfer cyflwyno cais

Mae’r broses awdurdodi’n cynnwys gwerthusiad o’r dull dadansoddol a roddwyd gan yr ymgeisydd. Ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ym Mhrydain Fawr, rhaid i’r gwerthusiad gael ei gwblhau gan y labordy cyfeirio (labordy swyddogol sy’n cynnal profion dadansoddol ar samplau bwyd a bwyd anifeiliaid). 

Mae’r tasgau a neilltuwyd i’r labordy cyfeirio wedi’u nodi yn Rheoliad y Comisiwn (CE) a gymathwyd Rhif 378/2005.

Gwneud cais

I wneud cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr:

  1. Defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig i gwblhau’r ffurflen gais. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i ategu’ch cais, gan ystyried y gofynion yn y gyfraith a gymathwyd a dilyn canllawiau Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) fel y bo’n briodol.
  2. Mae labordy cyfeirio yn gyfrifol am werthuso dull dadansoddi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid, a dulliau dadansoddi perthnasol eraill sy’n gysylltiedig ag ef. Dylech hefyd uwchlwytho dogfennau ar y dull dadansoddol a ddefnyddiwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ei hangen er mwyn i’r labordy cyfeirio werthuso’r dull. Os yw’n berthnasol, cyflwynwch Lythyr Cydnabod Dim Ffi’r UE, neu cyfeiriwch at unrhyw werthusiad a allai fod eisoes wedi’i gynnal gan Labordy Cyfeirio’r UE ar yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid dan sylw. Gwnewch hi’n glir yn eich cais os ydych o’r farn bod Erthygl 5(4) o Reoliad y Comisiwn a gymathwyd (CE) Rhif 378/2005 yn gymwys a bod yr amodau ar gyfer rhoi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar y farchnad yn dod o fewn cwmpas dull a werthuswyd yn flaenorol.
  3. Os bydd angen gwerthusiad llawn o’r dull, bydd y labordy cyfeirio yn cysylltu â chi i amlinellu a chytuno ar y broses ar gyfer talu unrhyw ffioedd fel y nodir yma. Os yw’n berthnasol, bydd labordy cyfeirio hefyd yn darparu manylion ar sut i anfon tair sampl (a safonau) ato.

Canllawiau manwl ar wneud cais

Mae EFSA wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni ceisiadau yn flaenorol, ac mae’r canllawiau hyn hefyd yn gymwys ar gyfer coflenni a gyflwynir ym Mhrydain Fawr.  Fodd bynnag, dylech ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig, ac nid y broses ymgeisio:

Ail-awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid Erthygl 10

Bydd angen cyflwyno ceisiadau parhaus a gyflwynir i’r UE ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid presennol o dan Erthygl 10 o Reoliad 1831/2003 i’r ASB o hyd. Byddwn ni’n adolygu’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn ac yn darparu gwybodaeth bellach am ofynion cyflwyno a therfynau amser maes o law.

Awdurdodiadau brys 

Mae awdurdodiadau brys ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid yn awdurdodiadau dros dro a roddir am gyfnod o 5 mlynedd ar y mwyaf ac a ddefnyddir mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, fel i ddiogelu lles anifeiliaid.  Os oes angen i chi wneud cais brys i awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid, dylid cynnwys yr wybodaeth hon, a’r rhesymeg, yn y llythyr eglurhaol y byddwch yn ei uwchlwytho i’r wefan ceisiadau.  

Ceisio cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu’r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig