Canllawiau ar awdurdodi bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTs)
Gofynion gwneud cais am PARNUTs.
Mae PARNUTs yn fwydydd at ddibenion maethol neilltuol, a elwir hefyd yn fwyd anifeiliaid deietegol. Mae'n fwyd anifeiliaid sydd â dibenion maethol neilltuol sy’n cael ei roi i anifeiliaid am resymau iechyd. Mae PARNUTs yn diwallu anghenion maethol neilltuol anifeiliaid y mae eu swyddogaethau corfforol â nam dros dro neu nam anghildroadwy (irreversible).
Gall PARNUTs fodloni pwrpas maethol neilltuol trwy:
- gyfansoddiad penodol
- dull cynhyrchu penodol
Dylai bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol ond gael ei farchnata ym Mhyrdain Fawr os:
- yw'r defnydd a fwriadwyd wedi'i gynnwys yn y rhestr o ddefnyddiau a fwriadwyd
- yw'n bodloni'r nodweddion maethol hanfodol at y diben maethol neilltuol a gynhwysir ar y rhestr honno
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2020/354 wedi sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriadwyd at ddibenion maethol neilltuol.
Gellir cychwyn y weithdrefn ar gyfer diweddaru'r rhestr o ddefnyddiau arfaethedig trwy gyflwyno cais.
Ceisiadau newydd
Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig i wneud cais i ddiweddaru'r rhestr ym Mhrydain Fawr trwy:
- ychwanegu defnydd arfaethedig PARNUT
- ychwanegu neu newid yr amodau sy'n gysylltiedig â defnydd penodol arfaethedig PARNUT
Gofynnir i chi ddefnyddio'r gwasanaeth i lanlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd yn llunio’ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.
Nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar gael ar gyfer newidiadau i gategorïau PARNUTs. Dylai eich ffurflen gais nodi'r cais yn glir a chynnwys ffeil ategol sy'n dangos bod cyfansoddiad penodol y bwyd anifeiliaid:
- yn cyflawni'r pwrpas maethol neilltuol a fwriadwyd
- nad yw’n cael unrhyw effeithiau andwyol ar iechyd anifeiliaid, iechyd pobl, yr amgylchedd na lles anifeiliaid
Ceisiadau parhaus
Os gwnaethoch gyflwyno cais am gategori PARNUTs newydd neu newid i gategori presennol i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses o ystyried y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni, gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.
Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd?
Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.
Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl.
Cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion gwneud cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk
Gwneud cais
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein nawr i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.
Gogledd Iwerddon