Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd
Gofynion o ran awdurdodi bwydydd newydd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais am fwydydd newydd.
Bwydydd newydd yw unrhyw fwyd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU na’r UE cyn 15 Mai 1997. Mae hyn yn golygu nad oes gan y bwydydd hyn ‘hanes o gael eu bwyta’. Mae enghreifftiau o fwydydd newydd yn cynnwys:
- bwydydd newydd, er enghraifft, ffytosterolau a ffytostanolau a ddefnyddir mewn sbrediau lleihau colesterol
- bwydydd traddodiadol sy’n cael eu bwyta mewn mannau eraill yn y byd, er enghraifft, hadau chia, baobab
- bwydydd a gynhyrchir drwy brosesau newydd, er enghraifft, bara wedi’i drin â golau uwch-fioled i gynyddu lefelau fitamin D
Mae angen awdurdodi bwydydd newydd cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Wrth roi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid gwneud hyn yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283. Ceir dau lwybr awdurdodi:
- hysbysiad bwyd traddodiadol
- cais llawn
Cofrestr o fwydydd newydd
Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi bwydydd newydd fel y’i pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr o fwydydd newydd yn nodi rhestr o fwydydd newydd y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi. Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 yw’r sail gyfreithiol ar gyfer rhoi bwydydd newydd ar y farchnad a’u defnyddio.
Oni bai y caiff mesurau diogelu data eu gweithredu, gallwch werthu bwydydd newydd awdurdodedig yn unol â’r amodau a nodir yn y gofrestr. Mae’r gofrestr yn dangos lle mae mesurau diogelu data ar waith.
Canllawiau pellach ar fwydydd newydd penodol
- Canllawiau ar CBD ar gyfer Cymru a Lloegr
- Canllawiau ar CBD ar gyfer Gogledd Iwerddon
- Canllawiau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd
- Canllawiau ar bryfed bwytadwy
Statws bwyd newydd (Erthygl 4)
Mae proses ymgynghori (a elwir hefyd yn gais Erthygl 4) ar gael:
- os ydych chi’n ansicr ynghylch statws eich cynnyrch
- os oes gennych chi dystiolaeth bod ganddo hanes o gael ei fwyta yn y DU neu’r UE cyn mis Mai 1997
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2018/456 yn manylu ar yr wybodaeth y bydd ei hangen arnom i benderfynu a yw’r cynnyrch yn newydd.
Os daw’r broses hon i’r casgliad bod eich cynnyrch yn newydd, yna bydd angen i chi wneud cais am awdurdodiad er mwyn marchnata'r cynnyrch yn gyfreithiol ym Mhrydain Fawr.
I gyflwyno'ch cais Erthygl 4 a'ch tystiolaeth gefnogol, defnyddiwch ein gwefan gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Yn yr adran 'Math o gynnyrch' dewiswch 'Arall'.
Byddwn yn rhestru canlyniadau ymgynghoriadau Erthygl 4 ar ôl i benderfyniad gael ei wneud.
Awdurdodiadau newydd
I wneud cais i awdurdodi bwyd newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.
Cais llawn (‘Erthygl 10’)
Ar gyfer bwydydd newydd heblaw’r rhai sy’n dod o dan lwybr hysbysu bwyd traddodiadol, mae angen i chi gyflwyno sét lawn o wybodaeth fel y nodir isod.
Rhan 1
Dylai hyn gynnwys y data gweinyddol, fel gwybodaeth yr ymgeisydd.
Rhan 2
Dylai’r rhan hon gynnwys gwybodaeth sy’n benodol i’r bwyd newydd fel:
- hunaniaeth y bwyd newydd
- proses gynhyrchu
- data cyfansoddol
- manylebau
- hanes defnyddio’r bwyd newydd a/neu ei ffynhonnell
- lefelau defnydd a defnydd arfaethedig a’r cymeriant a ragwelir
- amsugno, dosbarthu, metaboledd ac ysgarthiad
- gwybodaeth am faeth
- gwybodaeth am wenwyndra ac alergenau
Dylai ymgeiswyr esbonio sut mae’r wybodaeth hon yn cefnogi’r honiad bod y bwyd newydd yn ddiogel. Dylai hefyd gyflwyno’r data ategol a ddarparwyd yn ogystal â rhestr o’r holl gyfeiriadau.
Rhan 3
Dylai hyn gynnwys:
- geirfa neu fyrfoddau’r termau a ddyfynnir trwy’r goflen
- y tystysgrifau (ar achrediadau labordai, tystysgrifau dadansoddiadau)
- copïau/ailargraffiadau llawn o’r holl ddata gwyddonol perthnasol (wedi’u cyhoeddi a heb eu cyhoeddi)
- adroddiadau astudio llawn
- barn wyddonol cyrff rheoleiddio cenedlaethol/rhyngwladol
Canllawiau manwl ar gyfer ceisiadau llawn
Nodir canllawiau manwl a gofynion gwneud cais yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 2017/4269 a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA. Mae canllawiau EFSA yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau’r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy'n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:
Hysbysiad bwyd traddodiadol (‘Erthyl 14’)
Dyma lwybr symlach i awdurdodi cynhyrchion sydd wedi cael eu bwyta y tu allan i’r DU neu’r UE am o leiaf 25 mlynedd cyn i’r cais gael ei wneud.
Mae’r llwybr hwn wedi lleihau gofynion data sy’n adlewyrchu eu defnydd eang mewn rhannau eraill o’r byd. Anogir ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ddysgu am y risgiau diogelwch o’r defnydd presennol hwn. Bydd yr ASB yn cynnal adolygiad o fewn pedwar mis. Os nad oes gan yr ASB unrhyw wrthwynebiadau diogelwch, caiff y cynnyrch ei awdurdodi a’i roi ar y rhestr awdurdodedig.
Awdurdodi bwyd traddodiadol (‘Erthygl 16’)
Os oes gan yr ASB wrthwynebiadau diogelwch yn dilyn cais Erthygl 14, nid yw’r cynnyrch wedi’i awdurdodi i’w roi ar farchnad Prydain Fawr. Yn dilyn hyn, gall yr ymgeisydd gyflwyno cais drwy lwybr Erthygl 16, lle mae angen gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwrthwynebiadau diogelwch a godwyd gan yr ASB yn ystod proses Erthygl 14.
Canllawiau manwl ar gyfer hysbysiadau bwyd traddodiadol
Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/2468, a chanllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan EFSA, yn nodi’r hyn sydd angen ei gynnwys yn y cais. Mae canllawiau EFSA yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau'r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:
Gwneud cais am awdurdodi bwydydd newydd
Defnyddiwch ein gwefan i wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.
Yr ASB yn esbonion
Treialon blasu bwydydd newydd
Caniateir treialon blasu bwydydd newydd anawdurdodedig os mai’r bwriad yw cynnal ymchwil i ddatblygu’r bwyd newydd. Mae’r ASB yn argymell bod treialon blasu’n cael eu llywio gan gyngor a gyhoeddir gan y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP). Gall cwmnïau roi gwybod eu bod wedi cynnal treial blasu trwy weithgarwch yn y cyfryngau lle mae cyhoeddusrwydd o’r fath yn cefnogi prif ddiben y treial fel ymchwil a datblygu.
Os mai bwriad treial blasu yw hyrwyddo cynnyrch neu frand cwmni, yna gall hyn fod yn gyfystyr â rhoi bwyd newydd heb ei awdurdodi ar y farchnad yn anghyfreithlon.
Mae canllawiau ACNFP yn dal yn gywir, ond mae’r manylion cyswllt ar y dudalen bellach yn hen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, anfonwch e-bost i novelfoods@food.gov.uk
Ceisio cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni yn regulatedproducts@food.gov.uk
Hanes diwygio
Published: 11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025