Brigiadau o achosion o norofeirws mewn wystrys amrwd a sut i’w rheoli
Canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd ar ymateb yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i frigiadau o achosion o norofeirws, sut i alw a thynnu cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt yn ôl, a chyngor ar gyfyngu ar ledaeniad norofeirws mewn busnesau bwyd.
Pam mae angen rheoli risg
Mae rheoli risg digwyddiadau a brigiadau o achosion (outbreaks) mewn perthynas â bwyd yn broses ddeinamig, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n ystyried amgylchiadau unigol y digwyddiad. Er y gall fod dulliau cyffredin, nid oes un dull o reoli risg sy’n addas ar gyfer pob sefyllfa.
Ymateb i frigiadau o achosion o norofeirws
Pan fydd brigiad o achosion o norofeirws, byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn argymell atal cynaeafu wystrys am 28 diwrnod o’r dyddiad y cynaeafwyd y swp dan sylw, lle mae tystiolaeth epidemiolegol yn cysylltu achosion â’r swp, a lle mae gwybodaeth olrhain yn cysylltu’r swp ag ardal gynhyrchu benodol. Mae hyn er mwyn atal rhoi mwy o gynhyrchion a allai fod wedi’u halogi ar y farchnad.
Ystyrir hyn fel dull cymesur o reoli risg o ystyried:
- diffyg terfyn rheoleiddiol
- bod norofeirws heintus yn anweithredol dros amser.
Cau ardaloedd cynaeafu dros dro
Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol neu’r Cyngor Dosbarth perthnasol yw dyroddi hysbysiad cau dros dro.
Tynnu a galw’r wystrys yr effeithir arnynt yn ôl
Gan fod wystrys amrwd yn gynnyrch byw gydag oes silff fer, pan fydd brigiad o achosion, yn aml nid oes unrhyw gynnyrch cysylltiedig ar ôl ar y farchnad erbyn i’r hysbysiadau am salwch a amheuir ddod i law.
Mae gweithredwyr busnesau bwyd yn gyfrifol am dynnu a/neu alw unrhyw gynhyrchion y maent yn amau eu bod yn anniogel yn ôl. Gall ein canllawiau ar ddigwyddiadau bwyd a galw neu dynnu cynnyrch yn ôl fod o gymorth i weithredwyr busnesau bwyd
Profi wystrys am norofeirws
Mae dull prawf (ISO 15216) yn gallu pennu lefel norofeirws mewn wystrys. Fodd bynnag, nid yw’r dull hwn yn gallu gwahaniaethu rhwng norofeirws heintus a norofeirws nad yw’n heintus.
Nid ydym yn defnyddio profion norofeirws ar hyn o bryd i lywio ein hymateb yn ystod brigiad o achosion o norofeirws. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr ymateb polisi i’r asesiad risg strategol.
Profi wystrys am norofeirws ar gyfer ymchwil
Lle bo wystrys o sypiau sy’n gysylltiedig â brigiad o achosion ar gael i’w profi, rydym yn cefnogi eu profi at ddibenion ymchwil gan y gallai hyn gyfrannu at leihau ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r asesiad risg.
Cyngor pellach i weithredwyr busnesau bwyd
Beth yw symptomau norofeirws?
Er y gall symptomau norofeirws fod yn annymunol, mae’n cael ei ystyried yn haint ysgafn gan nad yw fel arfer yn para’n hir ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella heb driniaeth feddygol.
Rydych chi’n fwyaf tebygol o ddal norofeirws drwy ddod i gysylltiad â pherson sydd wedi’i heintio, ond mae bwyd wedi’i halogi hefyd yn gallu ei ledaenu.
Prif symptomau norofeirws yw:
- teimlo’n sâl (cyfog)
- dolur rhydd
- bod yn sâl (chwydu)
Beth alla i ei wneud i atal norofeirws rhag lledaenu yn fy musnes bwyd?
Fel gyda’r rhan fwyaf o bathogenau a gludir gan fwyd, gall dilyn arferion hylendid personol da, gan gynnwys golchi dwylo’n effeithiol, atal trosglwyddo norofeirws i eraill.
Dylai unrhyw un sy’n gweithio mewn sefydliadau bwyd fod yn iach i weithio. Ni ddylai staff sydd â dolur rhydd neu sy'n chwydu ddychwelyd i’r gwaith hyd nes nad oes ganddynt unrhyw symptomau am 48 awr.
Hanes diwygio
Published: 30 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Hydref 2023