Asesu ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn
Sut rydym yn asesu ardaloedd cynhyrchu ac ailorwedd molysgiaid dwygragennog byw (pysgod cregyn).
Rydym yn asesu ac yn dosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd yn seiliedig ar ganlyniad arolwg ar lanweithdra.
Ni ellir dosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd pysgod cregyn newydd hyd nes y cynhelir asesiad o ffynonellau’r llygredd. Mae hyn yn cynnwys asesiad o’r ffynonellau halogi (pobl, bywyd gwyllt ac amaethyddiaeth) mewn ardaloedd cynhyrchu neu ailorwedd.
Gall meintiau llygryddion organig sy’n cael eu rhyddhau i ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn amrywio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, felly mae angen ystyried amrywiadau tymhorol wrth gynnal asesiadau.
Gall hyn gynnwys:
- darlleniadau glaw
- gollyngiadau o weithfeydd trin dŵr gwastraff
- amrywiadau tymhorol pobl ac anifeiliaid
Mae cylchrediad yn y dŵr yn effeithio ar sut mae llygryddion yn symud o gwmpas, yn dibynnu ar y canlynol:
- patrymau cyfredol
- bathymetreg
- cylchoedd llanw
Arolygon ar lanweithdra
Mae nifer o ffynonellau llygredd yn effeithio ar ardaloedd cynhyrchu ac ailorwedd pysgod cregyn. Rhaid i’r holl ardaloedd cynhyrchu ac ailorwedd newydd gael:
- asesiad o ffynonellau’r llygredd
- man monitro a nodwyd ar gyfer samplu arferol (RMP), wedi’i leoli yn y man sy’n debygol o ddangos y presenoldeb E. coli uchaf ac felly, sy’n diogelu iechyd y cyhoedd gorau
- cynllun samplu sy’n nodi lleoliad ac amlder samplau monitro arferol
Dylai’r rhai sy’n gwneud cais (y cynaeafwr) lenwi ffurflen gais ar y cyd â’r awdurdod lleol i ofyn am ddosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd pysgod cregyn newydd. Bydd hyn yn darparu’r wybodaeth gychwynnol ar gyfer ystyried arolwg ar lanweithdra. Gellir lawrlwytho mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais (gan gynnwys gofynion cyn dosbarthu), a’r ffurflen gais o’r dudalen dosbarthu pysgod cregyn.
Ar ôl derbyn eich cais i ddosbarthu pysgod cregyn, byddwn ni’n gofyn i’n contractiwr gynnal arolwg ar lanweithdra. Bydd angen samplau rheolaethau swyddogol a gesglir yn unol â’r cynllun samplu cyn y gellir dosbarthu ardal.
Mewn rhai achosion, bydd angen asesiad ffisegol o’r safle a ffynonellau halogiad posib mewn ardaloedd newydd hefyd. Gelwir hyn yn arolwg traethlin.
Adroddiadau arolwg ac asesiadau monitro
Mae’r arolygon ar lanweithdra a’r adroddiadau ar arolygon ar lanweithra diweddaraf i’w gweld isod
Mae’r asesiadau isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Cymru a Lloegr:
Adolygiadau Arolwg Glanweithdra Ebrill 2020 – presennol
Asesiadau parth dosbarthu Ebrill 2020 – presennol
RMP assessments April 2017 – March 2020
Northern Ireland:
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Northern Ireland
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
-->
Hanes diwygio
Published: 19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Gorffennaf 2024