Arferion gorau – Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw: Cyflwyniad
Cyflwyniad i'r canllawiau arferion gorau.
Cyflwyniad
1. Mae’n rhaid i fusnesau bwyd roi gwybod i ddefnyddwyr os ydynt wedi defnyddio unrhyw un o’r 14 alergen fel cynhwysyn yn eu bwyd.
2. Mae’r wybodaeth hon yn arbennig o bwysig i ddefnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd (alergedd bwyd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag) ac a all brofi adweithiau niweidiol wrth fwyta rhai bwydydd (alergenau). Gall yr adweithiau hyn amrywio o ran difrifoldeb ond, yn y sefyllfa waethaf, gallant achosi anaffylacsis, a all fygwth bywyd.
3. Mae’n rhaid i fusnesau sicrhau bod yr holl wybodaeth orfodol am alergenau bwyd yn gywir, ar gael, ac yn hawdd i’r defnyddiwr gael gafael arni. Mae hyn yn berthnasol i’r holl fwyd y mae busnesau bwyd yn ei gyflenwi, gan gynnwys pan gaiff bwyd ei gynnig am ddim neu fel arall dâl.
4. Mae’r ASB wedi cynnal gwaith ymchwil ac ymgysylltu helaeth â defnyddwyr a busnesau bwyd i ddeall y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr ac rydym wedi adlewyrchu ein canfyddiadau yn y canllawiau hyn.
5. Mae’r canllawiau arferion gorau hyn yn ymdrin â sut i ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn y ffordd fwyaf effeithiol ac yn unol â hoff ddewis defnyddwyr, sef yn ysgrifenedig ac wedi’i hategu gan sgwrs ar lafar. Mae bwydydd heb eu pecynnu ymlaen llaw yn cynnwys yr holl fwydydd fel prydau mewn caffis a bwytai sydd heb eu pecynnu ymlaen llaw, cig a chaws rhydd wrth y cownter mewn siop deli, neu ddiodydd a wneir yn ôl archeb mewn siop goffi. Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), sydd â’i reolau ei hun.
6. Trafodir darparu gwybodaeth wirfoddol yn y canllawiau hefyd, er enghraifft labelu alergenau rhagofalus (PAL) a honiadau ‘rhydd rhag’. Ymdrinnir â hyn yn fanylach yn ein canllawiau technegol ar labelu a gwybodaeth mewn perthynas ag alergenau bwyd.
7. Mae’r canllawiau arferion gorau hyn yn ymwneud ag alergenau yn unig. Nid ydynt yn ymdrin â gofynion eraill ar gyfer gwybodaeth fel enw’r bwyd, y datganiad meintiol o gynhwysion (QUID) ar gynhyrchion sy’n cynnwys cig ac ati.
8. Mae’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch darparu gwybodaeth am alergenau bwyd wedi’i gynnwys yn bennaf yn Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 (ar gyfer Cymru a Lloegr) a Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 (ar gyfer Gogledd Iwerddon), ac yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 (FIR), a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Gogledd Iwerddon) 2014.
9. Mae mwy o wybodaeth am y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer pob math o fwyd i’w chael yn ein canllawiau technegol ar labelu a gwybodaeth mewn perthynas ag alergenau bwyd. Ceir hefyd restr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodiad A.
Cynulleidfa darged
10. Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi busnesau bwyd fel manwerthwyr ac arlwywyr yn y sector bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw, fel siopau coffi, caffis, bwytai, siopau bwyd brys, siopau deli, cigyddion, siopau bara a stondinau marchnad, i ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr wyneb yn wyneb ac yn ddigidol/ar-lein.
11. Mae’r canllawiau yn berthnasol i fusnesau o bob maint, gan gynnwys mentrau bach a micro.
Diben y canllawiau
12. Diben y canllawiau hyn yw dangos sut y gall busnesau bwyd ddarparu gwybodaeth gywir a chyfredol am alergenau yn y ffordd fwyaf defnyddiol, ystyrlon a hygyrch i ddefnyddwyr.
13. Drwy ddilyn canllawiau arferion gorau, gall busnesau hybu hyder defnyddwyr yn eu busnesau bwyd drwy sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth am alergenau sydd ei hangen arnynt a’i deall i wneud dewisiadau diogel a gwybodus am y bwyd y maent yn ei fwyta.
Statws cyfreithiol y canllawiau
14. Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Gwnaeth deddfwriaeth yr UE a ddargedwyd pan ymadawodd y DU â’r UE droi’n gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, sef y dyddiad pan gyhoeddwyd y ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk
15. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr, ac yn gyfraith yr UE sy’n uniongyrchol gymwys lle y bo hynny’n gymwys i Ogledd Iwerddon. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
16. Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor, gan gynnwys Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon, ar gael ar GOV.UK.
17. Paratowyd y canllawiau hyn i roi cyngor ar arferion gorau. Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddilyn canllawiau arferion gorau. Er gwaethaf hynny, os byddwch yn gweithredu yn unol â’r canllawiau arferion gorau, dylai hyn sicrhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau perthnasol a disgwyliadau defnyddwyr.
18. Efallai y bydd busnesau sydd ag ymholiadau penodol am geisio cyngor gan eu hasiantaeth orfodi leol, sef adran safonau masnach eu hawdurdod lleol fel arfer, ond a allai fod yn dîm iechyd yr amgylchedd mewn rhai achosion.
Adolygiad
19. Ein nod yw cadw’r holl ganllawiau yn gyfredol a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod y canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Medi 2026.
Cysylltu â ni
20. Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn: hypersensitivitypolicy@food.gov.uk
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2025