Arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar eich gwefan neu’ch ap
Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut i fanteisio ar eich sgôr hylendid bwyd drwy ei harddangos yn amlwg i’ch cwsmeriaid ar eich gwefan neu’ch ap.
Mae bwyd yn cael ei werthu ar-lein mewn sawl ffordd ac ar draws nifer o wahanol lwyfannau. Mae hyn yn golygu na fyddai defnyddio’r un dull a’r un maint ar gyfer arddangos sgoriau’n addas ar gyfer pob busnes.
Wrth benderfynu sut i arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein, rydym yn argymell bod lleoliad y sgôr yn bodloni’r holl egwyddorion arweiniol. Mae hyn yn golygu y dylai eich sgôr:
- ymddangos mewn man amlwg ar eich gwefan fel ei bod yn hawdd i gwsmeriaid ei gweld
- bod yn ddigon mawr fel ei bod yn hawdd i’ch cwsmeriaid ei darllen – dylech osgoi lleihau maint neu gydraniad y ddelwedd i’r fath raddau fel bod y sgôr yn mynd yn anodd ei darllen neu’n cael ei bicseleiddio
- ymddangos cyn y pwynt lle bydd eich cwsmer yn dewis neu’n archebu bwyd
Dylech ystyried y gwahanol ddulliau y gallai cwsmeriaid eu defnyddio i fynd ar eich gwefan a sicrhau bod y sgôr yn ymddangos yn amlwg, hyd yn oed os na fyddant yn cyrraedd hafan eich gwefan.
Fel canllaw cyffredinol, os gall y defnyddiwr ddewis bwyd neu osod archeb heb i’r sgôr hylendid bwyd fod yn ei faes golwg cyn hynny, ni ellir dweud bod y sgôr hylendid bwyd honno wedi’i lleoli mewn man ‘hawdd i’w gweld’. Ystyriwch arddangos eich sgôr ym mhennyn eich gwefan neu ar y fwydlen cyn dewis neu archebu bwyd.
Gallwch naill ai lawrlwytho ffeil delwedd neu ddefnyddio cod JavaScript i ddangos eich sgôr.
Lawrlwytho eich sgôr
Mae ystod o ddelweddau sy’n dangos sgoriau hylendid bwyd wedi’u dylunio mewn gwahanol feintiau a fformatau fel y gallwch eu haddasu i weddu i ofynion arddangos ar-lein eich busnes.
Mae’r delweddau sy’n dangos y sgoriau ar gael i’w lawrlwytho, ac maen nhw ar ffurf ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg i fusnesau yng Nghymru.
Os ydych chi wedi cofrestru eich busnes bwyd ond heb gael sgôr eto, gallwch arddangos sticer ‘aros am sgôr’ ar gyfer busnesau yng Nghymru, neu’r sticer ‘aros am arolygiad’ ar gyfer busnesau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Os byddwch yn dewis lawrlwytho ffeil y ddelwedd yn uniongyrchol, dylech sicrhau eich bod yn gwneud y newidiadau perthnasol i’r sgôr ar draws pob un o’ch llwyfannau digidol, os bydd eich sgôr yn newid.
Defnyddio cod JavaScript ar gyfer eich sgôr
Os ydych yn arddangos eich sgôr ar eich gwefan, gallwch fewnosod y cod JavaScript ar gyfer y sgôr berthnasol yn hytrach na lawrlwytho ffeil y ddelwedd a’i storio’n lleol.
Y fantais o ddefnyddio’r cod yw mai dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud. Mae hyn oherwydd bod y cod JavaScript wedi’i ddatblygu i ddiweddaru’n awtomatig os bydd eich sgôr yn newid.
I gael mynediad at y cod unigryw ar gyfer eich busnes, chwiliwch am eich cofnod ar y wefan sgorio hylendid bwyd. Ar y dudalen ar gyfer eich busnes, bydd dolen ‘Arddangos y sgôr hon ar eich gwefan’. Cliciwch ar hon ac fe gewch chi’r opsiwn i gael y cod.
CSHB ar wefannau trydydd partïon
Ar gyfer busnesau sy’n cymryd archebion trwy lwyfan neu wefan cydgasglu trydydd parti, mae’n bosib y bydd eich sgôr wedi’i harddangos ar lwyfan y trydydd parti hwnnw’n barod.
Os nad yw eich sgôr wedi’i harddangos yn gywir, dylech gysylltu â’r llwyfan cydgasglu i ddiweddaru hyn.
Dylai gweithredwyr a datblygwyr gwefannau trydydd parti adolygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau’r CSHB er mwyn cael cyngor mwy penodol ar sut i sicrhau bod eu llwyfannau’n bodloni gofynion arddangos y CSHB.
Hanes diwygio
Published: 16 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2024