Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Archwilio sefydliadau cig cymeradwy

Sut rydym yn archwilio eich sefydliadau cig a’r hyn sydd angen i chi ei wybod fel perchennog busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Y broses archwilio

Mae ein harchwiliadau’n canolbwyntio ar ba mor effeithiol yw’r systemau rheoli diogelwch bwyd a roddwyd ar waith gan y gweithredwr busnes bwyd yn ystod y cyfnod archwilio.

Mae trefniadau archwilio’n berthnasol i bob sefydliad cig sydd wedi’i gymeradwyo yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac sydd o dan reolaeth filfeyddgol, sef:

  • lladd-dai cig coch/anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio
  • lladd-dai cig dofednod
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • sefydliadau briwgig, paratoadau cig a chig wedi’i wahanu’n fecanyddol sydd wedi’u cydleoli â lladd-dai neu ffatrïoedd torri
  • ffatrïoedd cynnyrch cig a sefydliadau bwyd ‘parod i’w fwyta’ sydd wedi’u cydleoli â lladd-dai neu ffatrïoedd torri
  • storfeydd oer sydd wedi’u cydleoli 

Mae’r adrannau archwilio yn yr adroddiad archwilio’n seiliedig ar yr egwyddorion a osodwyd ar gyfer yr ASB y cytunwyd arnynt rhwng yr ASB, Defra, a rhanddeiliaid yn y diwydiant.

Mae’r archwiliad yn cynnwys:

  • y mesurau rheoli sydd ar waith i leihau’r posibilrwydd bod clefydau anifeiliaid yn cael eu lledaenu
  • mesurau diogelu lles anifeiliaid
  • mesurau rheoli sy’n sicrhau cynhyrchu hylan
  • hylendid amgylcheddol ac arferion hylendid da
  • effeithiolrwydd y systemau diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)
  • sut caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gwastraff eu trin
  • pa mor effeithiol yw mesurau rheoli a gwaredu deunydd risg penodedig o wartheg, defaid a geifr

Nid oes angen cwblhau pob adran ar gyfer pob sefydliad. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o sefydliad a’r gweithgarwch a gyflawnir.

Cynhelir yr archwiliadau gan archwilwyr milfeddygol y llywodraeth, a bwriad yr archwiliadau yw:

  • sicrhau bod gweithredwyr busnesau bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd
  • sicrhau bod gweithredwyr busnesau bwyd yn bodloni safonau rheoleiddiol mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd ac, mewn lladd-dai, iechyd a lles anifeiliaid

Mae manylion llawn y broses archwilio a chyfarwyddiadau i’n swyddogion ym mhennod 4 o’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol.

Sgorio archwiliadau

Mae ein harchwiliadau’n seiliedig ar risg. Caiff pob adran o’r rhestr wirio ar gyfer archwiliadau ei hasesu’n llawn yn ystod y broses archwilio. Mae sgorio’r cwestiynau archwilio yn seiliedig ar dystiolaeth wrthrychol.

Cydymffurfio

Asesir bod cwestiwn archwilio yn cydymffurfio os yw’n:

  • cyd-fynd â system rheoli diogelwch bwyd gweithredwr y busnes bwyd
  • bodloni gofynion y rheoliadau

Yn achos lladd-dai, mae angen iddynt fodloni gofynion cyfreithiau lles ac anifeiliaid hefyd.

Mân achosion o ddiffyg cydymffurfio

Mae mân achosion o ddiffyg cydymffurfio yn sefyllfaoedd risg isel, nad ydynt yn atal sefydliad rhag cynnal mesurau rheoli eu rhaglenni diogelwch bwyd a iechyd a lles anifeiliaid.

Pan fo nifer o fân achosion o ddiffyg cydymffurfio, gall ddod yn achos sylweddol o ddiffyg cydymffurfio.

Diffyg cydymffurfio sylweddol

Os na chymerir camau i fynd i’r afael ag achosion o ddiffyg cydymffurfio, gallant ddod yn achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio. Mae hyn yn digwydd pan fo diffyg cydymffurfiaeth yn debygol o beryglu iechyd a lles pobl neu anifeiliaid, neu pan allai arwain at gynhyrchu neu drin bwyd anaddas ac anniogel.

Pan fo nifer o achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio, gall ddod yn achos difrifol o ddiffyg cydymffurfio.

Diffyg cydymffurfio difrifol

Achosion nad ydynt yn cydymffurfio, lle asesir bod perygl difrifol i iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid neu les anifeiliaid.

 

Canlyniadau archwilio a sgoriau cydymffurfio


Mae pedair sgôr gydymffurfio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Sgoriau cydymffurfio

Da – ni nodwyd unrhyw faterion o bwys i iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid na lles anifeiliaid yn ystod y cyfnod archwilio cyfan.

Boddhaol ar y cyfan – ni nodwyd unrhyw broblemau uniongyrchol arwyddocaol i iechyd y cyhoedd, iechyd neu les anifeiliaid ar ddiwrnod yr archwiliad. Mae unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd yn ystod y cyfnod archwilio wedi’u cywiro’n syth.

Angen gwella – nodwyd achosion sylweddol o ddiffyg cydymffurfio yn yr archwiliad a/neu ni wnaethant ymateb a chywiro’r achosion o ddiffyg cydymffurfio yn ystod y cyfnod archwilio yn syth bob tro.

Angen gwella ar frys – nodwyd nifer o achosion sylweddol neu ddifrifol o ddiffyg cydymffurfio yn ystod yr ymweliad archwilio neu’r cyfnod archwilio interim. Mae angen ymyriad swyddogol i sicrhau mesurau diogelu iechyd y cyhoedd.

Pryd caiff archwiliadau eu cynnal

Bydd archwiliadau’n cychwyn tri mis ar ôl rhoi cymeradwyaeth lawn.

Wrth bennu pa mor aml rydym yn archwilio busnes, rydym yn edrych ar y sgôr gydymffurfio gyffredinol. Rydym yn archwilio lladd-dai a ffatrïoedd torri bob dau, tri, 12 neu 18 mis, yn dibynnu ar y peryglon posib a nodwyd yn yr archwiliad llawn diwethaf. Caiff archwiliadau llawn ac archwiliadau rhannol, dilynol eu cynnal yn ddi-rybudd.

Amserlenni archwiliadau
Canlyniad archwiliad Archwiliad rhannol, dilynol Amlder archwiliadau llawn
Da 0 18 mis (sl) / 12 mis (cp)
Boddhaol ar y cyfan Cyn pen 3 mis 12 mis

Angen gwella

Cyn pen 1 mis

3 mis

Angen gwella ar frys Cyn pen 1 mis 2 fis


Mewn ffatrïoedd torri, mae arolygiadau dirybudd yn digwydd rhwng archwiliadau a raglennir.

Ymestyn amlderau archwilio

Mae’r system hon yn cydnabod sefydliadau sy’n cydymffurfio’n dda, er enghraifft, safleoedd sydd wedi cael dau ganlyniad da yn olynol.

Bydd lladd-dai sy’n cydymffurfio’n dda yn cael eu harchwilio bob tair blynedd, a ffatrïoedd torri sy’n cydymffurfio’n dda bob dwy flynedd.

Cyhoeddi adroddiadau archwilio

Rydym yn cyhoeddi’r sgoriau archwilio diweddaraf ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon. Caiff y sgoriau hyn eu diweddaru’n fisol. Gan fod gweithredwyr busnesau bwyd yn gallu apelio canlyniad yr archwiliad, ni fydd canlyniad yr archwiliad yn cael ei gyhoeddi tan ddiwedd y broses apelio.

England, Northern Ireland and Wales

Dolen i setiau data archwilio sydd wedi’u cyhoeddi

Apelio Canlyniad Archwilio

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy’n dymuno gwneud cais am adolygiad o’r adroddiad archwilio diweddaraf lenwi’r ffurflen apelio yn erbyn archwiliad a’i hanfon i approvals@food.gov.uk cyn pen 14 diwrnod calendr i gael yr adroddiad archwilio cychwynnol.

Protocol Ymyrryd

Mae’r ddogfen protocol ymyrryd yn rhoi gwybodaeth am y camau a gymerir os na fydd gweithredwr busnes bwyd yn rhoi mesurau ar waith i wella lefelau cydymffurfio. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Nod y protocol ymyrryd yw diogelu defnyddwyr a gwella iechyd y cyhoedd drwy wella cydymffurfiaeth gyffredinol busnesau, a hynny drwy:

  • dargedu ymyriadau effaith uchel pan fo risgiau i iechyd y cyhoedd
  • ceisio cydymffurfiaeth ar frys mewn meysydd o ddiffyg cydymffurfio risg uchel a thargedu ymyriadau
  • darparu ymateb graddol a chymesur i ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth gan sicrhau elfennau cynghori a rhwystro, ynghyd â dwysáu cosbau lle bo angen yn seiliedig ar lefel risg y diffyg cydymffurfio mewn sefydliadau unigol

Mae’r protocol ymyrryd ar gyfer sefydliadau cig a gymeradwyir gan yr ASB yn Adran 6 o Bennod 7 yn y Llawlyfr rheolaethau swyddogol.

Mae gennym dempledi i chi eu defnyddio wrth ddogfennu’r mesurau hyn. 

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Yr Alban

Yn yr Alban, caiff yr archwiliadau hyn eu cynnal gan Safonau Bwyd yr Alban.

Gogledd Iwerddon