Allforion bwyd a diod
Gwybodaeth i fusnesau ar sut i allforio cynhyrchion bwyd a diod.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw Awdurdod Cymwys Canolog y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer Masnachu Rhyngwladol. Mae’r adran yn gyfrifol am negodi marchnadoedd allforio newydd ac am sicrhau mynediad parhaus i'r marchnadoedd allforio hynny.
Ein rôl ni yw rhoi sicrwydd i Defra fod bwyd a diod a gaiff eu hallforio o'r DU wedi'u cynhyrchu'n unol â gofynion deddfwriaethol perthnasol. Ar gyfer allforion o'r sefydliadau hynny sydd wedi'u cymeradwyo gennym, rydym yn sicrhau eu bod yn bodloni unrhyw ofynion mewnforio ychwanegol y mae'r gyrchwlad (destination country) wedi'u gosod.
Ardystio allforion
Bydd rhai gwledydd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd (UE), yn ei gwneud yn ofynnol i rai allforion bwyd a diod o’r DU gael eu hardystio gan awdurdod ardystio yn y DU cyn cael eu hallforio.
Mae gwybodaeth am ardystio allforion ar gyfer mewnforwyr o Gymru ac o Loegr ar gael gan Defra (Opens in a new window) ac ar gyfer allforwyr o Ogledd Iwerddon gan yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Opens in a new window) (DAERA).
Cyn i chi allforio cynhyrchion bwyd a diod o'r DU, mae'n rhaid i chi wirio a oes unrhyw gyfyngiadau penodol o ran:
- eich cwsmer
- awdurdodau'r gyrchwlad
- llysgenhadaeth (Opens in a new window) y wlad berthnasol yn y DU
Nid ydym yn gyfrifol am ddyfarnu unrhyw fath o ardystiadau allforio.
Bydd gan wledydd unigol ofynion penodol mewn perthynas â'r mathau o ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu hallforio. Bydd y gofynion yn amrywio gan ddibynnu ar y wlad a'r math penodol o gynnyrch.
Nid oes un ffynhonnell o wybodaeth ar gael ar gyfer y gofynion allforio cynnyrch/gwlad penodol hyn. Wrth allforio bwyd a diod yn fasnachol o'r DU, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r cyfyngiadau a'r amodau allforio sy'n berthnasol cyn i chi allforio.
Ym Mhrydain Fawr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (Opens in a new window) (APHA) sy'n gyfrifol am ddyfarnu tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid i wledydd penodol. Darllenwch sut i gael tystysgrif iechyd allforio (Opens in a new window) (EHC).
Yng Ngogledd Iwerddon, DAERA sy'n gyfrifol am ddyfarnu'r tystysgrifau iechyd allforio hyn.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen we Allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o Ogledd Iwerddon (Opens in a new window).
Ym Mhrydain Fawr, mae Swyddogion Ardystio Bwyd Cymwys (FCCO) mewn awdurdodau lleol wedi'u hawdurdodi gan APHA i lofnodi rhai EHCs a gyhoeddwyd gan APHA. Mae canllawiau i FCCOs ar eu rôl ar gael ar wefan APHA (Opens in a new window). Yng Ngogledd Iwerddon, awdurdodir FCCOs gan DAERA (Opens in a new window) i gyhoeddi EHCs perthnasol.
Gall awdurdodau lleol neu gynghorau dosbarth ddarparu ardystiadau allforio ar gyfer cynhyrchion penodol nad ydynt yn dod o dan y tystysgrifau iechyd allforio a roddir gan APHA a DAERA. Gall hyn fod yn berthnasol i gynhyrchion:
- nad ydynt yn dod o anifeiliaid
- cynhyrchion cig wedi'u prosesu
- bwyd a diod wedi'u gweithgynhyrchu
Mae'r math o ardystiad sydd angen ei ddarparu yn benodol i'r cynnyrch sy'n cael ei allforio a gofynion y gyrchwlad.
Dylech chi ddarparu'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu am ofynion mewnforio'r gyrchwlad i'ch awdurdod lleol neu gyngor dosbarth. Bydd hyn yn llywio'r hyn sydd angen i'r ardystiad allforio ei ddweud.
Fel arfer, yr isafswm sydd ei angen ar wledydd cyrchfan mewn ardystiad o'r fath yw cadarnhad bod y cynnyrch:
- wedi'i gynhyrchu yn unol â rheolau hylendid domestig
- yn addas i'w fwyta gan bobl
- ar gael i'w werthu'n rhydd yn y DU
Gall awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr hefyd ddarparu ardystiad ar gyfer allforio neu symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) o Brydain Fawr i wledydd yr UE neu Ogledd Iwerddon. Mae canllawiau Defra ar rôl awdurdodau lleol ar gael yn yr adran Cwestiynau Cyffredin (Opens in a new window) (Bwydydd Risg Uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid) ar wefan APHA (Opens in a new window).
Gall yr Asiantaeth Taliadau Gwledig hefyd ddarparu Tystysgrifau Gwerthu'n Rhydd (Opens in a new window) ar gyfer allforio cynhyrchion bwyd a diod wedi'u prosesu penodol.
Canllawiau ar allforio bwyd a diod
Mae Defra wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol i fusnesau ar y rheolau newydd ar gyfer allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, gan gynnwys i wledydd yn yr UE:
- Canllawiau ar gyfer busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE (Opens in a new window)
- Gweminarau ar gyfer allforwyr anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r UE (Opens in a new window)
- Canllawiau ar fewnforio ac allforio anifeiliaid byw neu gynhyrchion anifeiliaid (Opens in a new window)
- Allforio neu symud cynhyrchion bwyd cyfansawdd (Opens in a new window)
- Allforio neu symud pysgod o'r DU (Opens in a new window)
- Canllawiau ar iechyd a symud anifeiliaid dyfrol (Opens in a new window)
- Allforio bwyd organig i'r UE (Opens in a new window)
- Dod â nwyddau'n ôl i'r DU (Opens in a new window)
- Allforio bwyd anifeiliaid neu fwyd anifeiliaid anwes (Opens in a new window)
- Sut i gael tystysgrif iechyd allforio (Opens in a new window)
- Sut i gofrestru ar gyfer Tystysgrif Iechyd Allforio Ar-lein (EHCO) (Opens in a new window)
Mae canllawiau Defra ar y rheolau newydd ar gyfer allforio neu symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) o Brydain Fawr i wledydd yr UE neu i Ogledd Iwerddon ar gael trwy Allforio neu symud HRFNAO (Opens in a new window).
Gogledd Iwerddon
Gellir gweld canllawiau gan DAERA ar allforion o Ogledd Iwerddon trwy:
Ffynonellau gwybodaeth ychwanegol ar allforio
Mae gan yr Adran Fasnach a Busnes (Opens in a new window) gylch gwaith penodol i helpu busnesau i allforio a thyfu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae wedi datblygu’r wefan Exporting is Great (Opens in a new window) sy’n cynnwys cefnogaeth a chyngor wedi’u teilwra i fusnesau. Gall y cyngor hwn helpu busnesau i ddechrau allforio neu gynyddu maint y nwyddau a'r gwasanaethau maent yn eu gwerthu dramor.
Mae'r wefan Open to Export (Opens in a new window) yn cynnig gwybodaeth ar-lein am ddim gan y Sefydliad Allforio a Masnachu Rhyngwladol. Ei diben yw helpu busnesau bach yn y DU i baratoi i allforio ac ehangu’n rhyngwladol.
Mae cyrff masnachu sydd hefyd yn gallu helpu gyda chyngor ar allforio eich cynhyrchion yn cynnwys
- Y Ffederasiwn Bwyd a Diod (Opens in a new window)
- Cymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod (Opens in a new window)
- Ffederasiwn Masnachu Darpariaethau (Opens in a new window)
- Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Opens in a new window)
Gogledd Iwerddon
Gall Cymdeithas Bwyd a Diod Gogledd Iwerddon (Opens in a new window) gynnig cyngor ar allforio cynhyrchion.
Mae InvestNI hefyd yn cynnig cyngor a chanllawiau busnes
Hanes diwygio
Published: 20 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mai 2024