Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau mwg
Gofynion o ran awdurdodi cyflasynnau (flavourings) mwg a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.
Mae angen awdurdodi cyflasynnau mwg cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae Rheoliad a gymathwyd 2065/2003 yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y mathau hyn o gyflasynnau.
Mae cyflasynnau mwg yn cael eu rheoli o dan ddeddfwriaeth wahanol i gyflasynnau eraill, ac felly mae amseriadau gwahanol yn berthnasol ar gyfer y broses dadansoddi risg a gofynion data gwahanol ar gyfer ceisiadau. Mae awdurdodiadau yn benodol i ymgeiswyr.
Cofrestr o gyflasynnau mwg
Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi cyflasynnau mwg fel y’u pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr o gynhyrchion crai cyflasynnau mwg yn nodi rhestr o gyflasynnau mwg y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi.
Awdurdodiadau newydd
I wneud cais i awdurdodi cyflasyn mwg ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.
Dylai eich cais gynnwys:
- crynodeb cyffredinol o’r cais
- data gweinyddol (rhan 1)
- data technegol (rhan 2)
- data gwenwynegol (rhan 3)
- cyfeiriadau ac adroddiadau (rhan 4)
Canllawiau manwl
- Mae EFSA wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni ceisiadau yn flaenorol, ac mae’r canllawiau hyn hefyd yn gymwys ar gyfer coflenni a gyflwynir ym Mhrydain Fawr, Fodd bynnag, dylech ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio. Canllawiau EFSA ar gyflwyno coflen ar gynnyrch crai cyflasyn mwg
- Mae Rheoliad a gymathwyd, Rhif 627/2006 – cynhyrchion mwg yn cwmpasu’r meini prawf ansawdd ar gyfer dulliau dadansoddi dilys ar gyfer samplu, adnabod a nodweddu cynhyrchion mwg crai.
Ceisio cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk
Gwneud cais am awdurdodiad
Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.
Hanes diwygio
Published: 13 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025