Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd rhydd neu fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw

Mae gwybodaeth benodol ar gyfer gwahanol fathau o fwyd, gan gynnwys bwyd rhydd a bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw.

Bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw

Mae bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw (pre-packed) yn cyfeirio at unrhyw fwyd sydd wedi'i roi mewn pecyn cyn ei werthu. Mae bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw pan:

  • fo un ai wedi'i amgáu'n rhannol neu'n llwyr yn y pecyn
  • ni ellir ei newid heb agor neu newid y pecyn
  • fo'n barod i'w werthu

Os yw enw'r cynnyrch yn cyfeirio'n glir at yr alergen, nid oes angen datganiad alergenau ar wahân, fel 'bocs o wyau' neu 'bag o bysgnau'.

Bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol

Mae bwyd bwyd sydd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol (PPDS) yn cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae'n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr a bydd yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis. 

Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (er enghraifft, o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy'n cael ei werthu mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Mae angen i'r label ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion gyda'r 14 alergen y mae'n ofynnol eu datgan yn ôl y gyfraith wedi'u pwysleisio.

Gweler ein canllawiau labelu ar gyfer cynhyrchion bwyd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol (PPDS). Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys arferion gorau a chyngor rheoleiddio ar gyfer y busnesau bwyd hynny y mae'r gofynion labelu alergennau PPDS yn effeithio arnynt.

 

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Bwydydd rhydd

Mae bwydydd rhydd yn cynnwys popeth sydd heb ei becynnu ymlaen llaw. Mae bwydydd sydd wedi'u lapio yn yr un man ag y maen nhw'n cael eu gwerthu hefyd yn cyfrif fel bwydydd rhydd. Os ydych chi'n darparu bwydydd rhydd, mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am bob eitem ar y fwydlen sy'n cynnwys unrhyw un o'r 14 alergen.

Rheolau ar gyfer datgan alergenau mewn bwydydd rhydd:

  • dylid darparu gwybodaeth am yr alergenau a ddefnyddir yn y bwydydd hyn
  • dylai gwybodaeth am alergenau fod ar gael yn ysgrifenedig neu ar lafar gan staff
  • gellir defnyddio logos neu symbolau ar y cyd â geiriau a rhifau ar fwydlenni

Mewn perthynas â bwydydd rhydd, mae'n rhaid i wybodaeth am alergenau fod

  • ar gael yn hawdd i bob defnyddiwr
  • yn gywir, yn gyson ac yn wiriadwy