Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Diffiniadau o weithgareddau sefydliadau cig

Gweithgareddau y gellir eu cynnal ar safleoedd sefydliadau cig unwaith iddynt gael eu cymeradwyo.

Lladd-dy

Sefydliad a ddefnyddir i ladd a thynnu croen anifeiliaid. Bwriedir i'r cig o'r anifeiliaid hyn gael ei fwyta gan bobl.

Sefydliad trin helgig

Unrhyw sefydliad sy'n paratoi anifeiliaid hela a helgig i'w rhoi ar y farchnad.  

Ffatri dorri

Sefydliad a ddefnyddir i gael gwared ar esgyrn a thorri cig.

Marchnad Gyfanwerthu

Busnes bwyd sy'n cynnwys nifer o unedau ar wahân sy'n rhannu gosodiadau ac adrannau cyffredin lle mae bwydydd yn cael eu gwerthu i weithredwyr busnesau bwyd.

Sefydliad ail-becynnu 

Sefydliad sy'n tynnu bwydydd wedi'u lapio o ail gynhwysydd a'u hail-becynnu heb gael gwared ar y deunydd lapio cychwynnol sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cynnyrch.  

Cig wedi'i friwio (minced)

Cig heb esgyrn sydd wedi'i friwio mewn darnau ac yn cynnwys llai nag 1% o halen. 

Paratoadau cig

Cig ffres, gan gynnwys cig wedi'i rannu i ddarnau, sydd â bwydydd, sesnin neu ychwanegion wedi'i ychwanegu iddo. Hefyd, os oedd yn destun prosesau a oedd yn annigonol i addasu strwythur ffeibr cyhyrau mewnol y cig ac felly'n dileu nodweddion cig ffres. 

Cig Wedi'i Wahanu'n Fecanyddol 

Y cynnyrch a geir trwy dynnu cig oddi ar esgyrn ar ôl cael gwared ar esgyrn neu o garcasau dofednod, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol. Mae hyn yn arwain at golli neu addasu strwythur ffeibr y cyhyrau.

Ffatri brosesu

Sefydliad lle mae Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid naill ai'n cael eu trin, eu prosesu neu eu lapio. 

Cynhyrchion cig

Cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n deillio o brosesu cig neu cynhyrchion wedi'u prosesu o'r fath. Bydd y darn sydd wedi torri yn dangos nad oes gan y cynnyrch nodweddion cig ffres. 

Bwyd sy'n barod i'w fwyta

Bwyd a fwriadwyd gan y cynhyrchydd neu'r gwneuthurwr i'w fwyta'n uniongyrchol gan bobl heb yr angen i goginio neu brosesu ymhellach. 

Brasterau anifail wedi'u rendro a chriwsion (greaves)

Braster sy'n deillio o rendro cig, gan gynnwys esgyrn ac y bwriedir ei fwyta gan bobl – er enghraifft, lard. 

Criwsion yw'r protein sy'n cynnwys gweddillion ar ôl gwahanu braster a dŵr yn rhannol – er enghraifft, croen porc (pork crackling).

Stumog, pledrennau a choluddion wedi'u trin 

Stumog, pledrennau a choluddion sydd wedi'u trin drwy eu halltu, eu gwresogi neu eu sychu ar ôl iddynt gael eu derbyn ac ar ôl eu glanhau.

Gelatin

Protein naturiol, hydawdd a geir gan hydrolysis rhannol o golagen a gynhyrchir o esgyrn, croen wedi'i drin (hides), croen, tendonau a gewynau o anifeiliaid. Fe'i defnyddir wrth gynhyrchu jeli. 

Colagen 

Cynnyrch sy'n seiliedig ar brotein sy'n deillio o esgyrn, croen a thendonau anifeiliaid.  Fe'i defnyddir mewn ychwanegion bwyd.

Ail-lapio

Mae lapio yn golygu gosod bwydydd mewn deunydd lapio neu gynhwysydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r bwydydd dan sylw, a'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd ei hun. 


Mae ail-lapio yn golygu ailosod y deunydd lapio cychwynnol neu gynhwysydd cychwynnol, sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cynnyrch.

Storfa oer

Unrhyw safle a ddefnyddir ar gyfer storio gydag amodau tymheredd wedi'u rheoli ar gyfer cig ffres y bwriedir ei werthu i'w fwyta gan bobl nad ydynt yn rhan o: 

  • ladd-dai
  • ffatrïoedd torri 
  • sefydliadau trin helgig