Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad o Adnoddau

Beth yw datganiad o adnoddau (SoR) ar gyfer safleoedd cig a'r canllawiau i ddatblygu SoR ar gyfer eich sefydliad.

Cymru a Lloegr 

Mae'r datganiad o adnoddau yn ddogfen sy’n cofnodi'r gofynion prosesu a'r adnoddau sydd eu hangen mewn safle unigol.

Mae hyn yn cynnwys manylion oriau gweithredu'r safle at ddibenion rheolaethau swyddogol. Mae angen y gofynion adnoddau er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau codi tâl.

Dylai'r SoR gael ei ddrafftio mewn cydweithrediad rhwng gweithredwr y busnes bwyd a'n staff. 

Mae canllawiau ar gael i'ch cefnogi chi yn y broses o weithio gyda'n staff i ddatblygu SoR sy'n benodol i'ch sefydliad.

England and Wales

Gogledd Iwerddon

Mae'r datganiad o adnoddau yng Ngogledd Iwerddon yn ddogfen ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd cymeradwy a milfeddygon swyddogol. Mae'n eich helpu i ddeall pa adnoddau sydd eu hangen am gyfnod penodol o amser.

Mae'r SoR yn darparu'r wybodaeth hanfodol i alluogi gweithredwyr busnesau bwyd a milfeddygon swyddogol i gytuno ar faint o adnoddau sydd eu hangen mewn safle penodol. Mae gweithredwyr busnesau bwyd a'r Milfeddyg Swyddogol preswyl yn cytuno ar y ddogfen yn fisol.

Mae canllawiau ar gael ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd a milfeddygon swyddogol yng Ngogledd Iwerddon sy'n esbonio sut i ddatblygu ac adolygu'r SoR.

Northern Ireland

Northern Ireland

Pwysig

Pwysig
Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).