Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Sefydliadau bwyd cymeradwy

Rhestrau o safleoedd bwyd cymeradwy a'r mathau o sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gennym ni a chan awdurdodau lleol.

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd cyfanwerthu sy'n cyflenwi bwyd a ddaw o anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys o dan Reoliad 853/2004

Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gennym ni

Mae gofyn gweithredu rheolaethau milfeddygol yn y sefydliadau canlynol, ac mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gennym ni:

  • lladd-dai
  • ffatrioedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig
Sut i wneud cais i gymeradwyo lladd-dy, ffatri dorri a sefydliad trin helgig.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol

Sefydliadau cig: 

  • storfeydd oer sy’n ail-lapio ac yn ail-becynnu cig
  • sefydliadau briwgig (minced meat)
  • sefydliadau paratoi cig
  • sefydliadau cig wedi'i wahanu'n fecanyddol
  • ffatrïoedd prosesu cynhyrchion cig
  • ffatrïoedd prosesu brasterau anifeiliaid wedi'u rendro a chriwsion (greaves)
  • ffatrïoedd prosesu stumogau, pledrennau a choluddion wedi'u trin 
  • ffatrïoedd prosesu gelatin
  • ffatrïoedd prosesu colagen

Sefydliadau pysgod a physgod cregyn: 

  • sefydliadau molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro
  • sefydliadau sy'n gweithio gyda chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio llongau ffatri a rhewi, ffatrïoedd prosesu, cynhyrchion pysgodfeydd ffres, neuaddau arwerthu, marchnadoedd cyfanwerthu

 

Sefydliadau cynnyrch anifeiliaid:

Dyma sefydliadau sy’n cynhyrchu’r canlynol:

  • llaeth amrwd a chynhyrchion llaeth
  • wyau a chynhyrchion wyau, gan gynnwys canolfannau pecynnu, ffatrïoedd prosesu, ffatrïoedd wyau ar ffurf hylif
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i wneud cais i gymeradwyo sefydliadau cig, sefydliadau pysgod a physgod cregyn, a sefydliadau cynnyrch anifeiliaid.