Systemau glanweithdra amgen ar gyfer offer torri
Canllawiau ar ddefnyddio systemau glanweithdra amgen ar gyfer diheintio offer torri mewn lladd-dai a sefydliadau trin helgig.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r broses ar gyfer gweithredu dulliau amgen ar gyfer diheintio offer mewn llad-dai, sefydliadau trin helgig sydd wedi’u cymeradwyo (AGHE) neu ffatrïoedd torri yng Nghymru a Lloegr.
Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu gweithredwyr busnesau bwyd a swyddogion gorfodi i ddeall gweithdrefnau dilysu a gwirio systemau amgen ar gyfer diheintio offer, sy’n gyfwerth â defnyddio dŵr ar dymheredd osy’n 82˚C ac uwch.
Maent yn nodi egwyddorion y broses weithredu trwy roi trosolwg o’r camau asesu ar gyfer busnesau a swyddogion, gan gynnwys manylion eu rolau a’u cyfrifoldebau. Nid yw’r canllawiau’n cwmpasu pob dull diheintio amgen posib nac yn amlygu sut gallai dulliau penodol gael eu defnyddio ar yr ystod eang o offer sydd ar gael.
England, Scotland and Wales
Hanes diwygio
Published: 16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Hydref 2021