Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw

Arferion gorau – Gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw: Darparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau

Darparu a chyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Darparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau

28.    Yr arfer orau i fusnesau bwyd yw sicrhau bod gwybodaeth am alergenau ar gael yn hawdd yn ysgrifenedig i ddefnyddwyr, gan hefyd sicrhau bod staff yn gallu cefnogi hyn gyda sgwrs.

29.   Wrth benderfynu sut i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau, dylai busnesau bwyd fod yn ymwybodol o’r egwyddorion canlynol a fydd yn eu helpu i gyfleu’r alergenau yn eu bwyd yn fwyaf effeithiol:

  • Hawdd i’w defnyddio dylai fod yn hawdd i ddefnyddwyr nodi prydau/cynhyrchion sy’n ddiogel iddynt eu bwyta.
  • Clir – dylai nodi’n glir pa alergenau sy’n bresennol mewn prydau/cynhyrchion.
  • Cynhwysfawr – dylai ddarparu gwybodaeth am bob un o’r 14 alergen (yn hytrach na chanolbwyntio ar is-set yn unig, er enghraifft y rhai y mae’r gweithredwr busnes bwyd yn eu hystyried fel y rhai mwyaf cyffredin neu ddifrifol).
  • Cywir – gellir (a rhaid) ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gywir, gan ddangos presenoldeb alergenau ym mhob pryd.

30.    Gan gofio hyn, dylai busnesau bwyd ddewis dull o gyfleu’r wybodaeth ysgrifenedig am alergenau sy’n gweddu orau i’w model busnes ac sy’n caniatáu iddynt gadw’r wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.

Sut i gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau

31.    Gall busnesau bwyd ddewis a ydynt am ddarparu’r wybodaeth gan ddefnyddio geiriau neu symbolau gyda geiriau cysylltiedig. Os defnyddir symbolau, dylai enw’r alergen fod yn rhan ohonynt er enghraifft, o dan y symbol. Fodd bynnag, os nad yw enw’r alergen yn rhan o’r symbol, mae’n rhaid darparu allwedd neu dabl gydag enw’r alergen ar ffurf ysgrifenedig, sy’n diffinio’n glir pa alergen y mae pob symbol yn ei gynrychioli, gan wneud yn siŵr bod defnyddwyr yn gallu deall yr wybodaeth yn hawdd.

Gair i gall

Enghraifft

Gellid darparu gwybodaeth am alergenau fel datganiad ‘Yn cynnwys’, er enghraifft ‘Salad Cyw Iâr (Yn cynnwys: llaeth, wyau, mwstard)’. Gellid defnyddio hwn ar fwydlen neu ar label/tocyn wrth ymyl bwydydd sy’n cael eu harddangos mewn siop fara er enghraifft.

 32.    Ar gyfer grwpiau o alergenau fel cnau coed a grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten, wrth fynegi’r wybodaeth am alergenau mewn geiriau, dylid nodi’r gneuen neu’r grawnfwyd penodol. 

Gair i gall

Enghraifft 

Cyw iâr Tikka Masala (Yn cynnwys: llaeth, cnau (almon)).

33.    Os defnyddir symbolau, gellir defnyddio un symbol i gynrychioli’r grŵp o alergenau, er enghraifft un symbol ar gyfer grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten ac un ar gyfer cnau coed. Fodd bynnag, dylai’r busnes bwyd allu enwi’r gneuen neu’r grawnfwyd penodol os oes angen gwybodaeth fwy penodol ar ddefnyddiwr. 

Gair i gall

Enghraifft  

Hufen iâ Knickerbocker

Pwdin moethus yn cynnwys haenau o hufen iâ, ffrwythau ffres, a jeli, gyda hufen chwip, almonau, a cheirios ar ei ben i gyd. Dyma drît clasurol i’w fwynhau!  

Yn cynnwys:

 

Alergenau

34.    Er mwyn darparu gwasanaeth gwell a rhoi dewis i ddefnyddwyr, gallai busnesau bwyd ddarparu dadansoddiad o’r cydrannau mewn pryd o fwyd, yn hytrach na dim ond darparu’r wybodaeth am yr alergenau sy’n bresennol yn y pryd cyfan. Bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i ofyn am newid prydau i hepgor neu amnewid eu halergenau (lle bo’n bosib) yn hytrach na pheidio â dewis y pryd o gwbl. 

35.    Gallai’r arfer hon hefyd weithio mewn achosion lle mae defnyddiwr yn addasu cydrannau pryd o fwyd, er enghraifft cynnwys brechdan neu salad. 

36.    Dylai busnesau bwyd gymryd camau priodol i leihau risgiau croeshalogi wrth addasu prydau i fodloni gofynion alergenau. Dylid hefyd ystyried croeshalogi ag alergenau pan nad ydynt yn gynhwysion bwriadol mewn prydau.

Gair i gall

Enghraifft

Byrgyr Cyw Iâr Barbeciw a Choleslaw (Byrgyr Cyw Iâr: gwenith, pysgod, seleri; saws barbeciw: seleri, pysgod; Rhôl: gwenith, wyau, sesame; Coleslaw: wyau, seleri, mwstard)

Os oedd gan gwsmer alergedd i fwstard er enghraifft, byddai modd gweini’r pryd heb y coleslaw.

Ble dylech roi’r wybodaeth?

37.    Dylai gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau fod ar gael yn rhwydd, lle bo’n bosib, heb i ddefnyddwyr orfod gofyn amdani. Gallai hyn gynnwys ar y brif fwydlen (papur neu ddigidol), fel llyfryn alergenau ar gownter neu fatrics wedi’i arddangos ar wal mewn lleoliad hygyrch i ddefnyddwyr. Mae matrics enghreifftiol i’w weld yn Atodiad B.  

38.    O ran y busnesau bwyd hynny sydd angen newid eu bwydlen neu wybodaeth am alergenau’n rheolaidd, mae’n bosib y byddant yn dymuno sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar gais mewn dogfen ar wahân fel y gallant ddiweddaru a rheoli’r wybodaeth yn haws. 

39.    Os nad yw’r wybodaeth ar y brif fwydlen, dylai busnesau bwyd roi gwybod i ddefnyddwyr ble y gellir dod o hyd i wybodaeth am alergenau, gan roi neges glir ar y fwydlen. Dylai busnesau bwyd nad ydynt yn defnyddio bwydlen arddangos y neges hon lle maent yn arddangos eu hopsiynau bwyd, fel ar fwrdd neu wrth ymyl bwyd mewn cownter.

40.    Dylai staff fod yn gwbl ymwybodol o ble i ddod o hyd i’r wybodaeth hon a gallu hysbysu’r defnyddiwr o’i leoliad neu ddarparu’r wybodaeth ysgrifenedig os oes angen.

41.    Mae yna nifer o ffyrdd y gallai busnesau bwyd ddarparu’r wybodaeth ysgrifenedig. Dylai busnesau ddewis y dull sydd fwyaf priodol ar gyfer eu model busnes. Gallai hyn fod ar fwydlen (papur neu ddigidol), matrics ar wahân, label a roddir wrth ymyl y bwyd lle mae defnyddwyr yn dewis o gownter neu rywbeth tebyg. Pa bynnag ddull a ddewisir, mae’n rhaid iddo fod yn hawdd i ddefnyddwyr ddeall yr wybodaeth a chael gafael arni, naill ai eu hunain neu drwy ofyn i staff.  

42.    Os mai dim ond ar gais y gellir darparu gwybodaeth ysgrifenedig am alergenau yn hytrach nag ymlaen llaw, fel ar y prif fwydlenni, yna dylid arddangos arwyddion neu negeseuon ar fwydlenni fel: ‘Mae gennym fwydlen sydd â gwybodaeth am alergenau. Siaradwch ag aelod o’r staff a fydd yn hapus i’w darparu’.

43.    Gallai busnesau bwyd ddewis mabwysiadu cyfuniad o’r ddau ddull drwy ofyn i ddefnyddwyr a oes angen gwybodaeth am alergenau arnynt yn ogystal ag arddangos arwyddion/negeseuon.

44.    Gall busnesau bwyd benderfynu a ydynt am ddarparu gwybodaeth am alergenau ar bapur neu’n ddigidol.  

45.    Os yw busnes bwyd yn dewis darparu gwybodaeth am alergenau mewn fformat digidol, dylai fod gan y busnes ffordd arall o allu rhannu gwybodaeth â’r rheiny nad ydynt yn gallu ei chyrchu’n ddigidol, a hefyd gopi wrth gefn rhag ofn y bydd problem gyda’r wybodaeth ddigidol.