Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

FSA 24/09/10 - Adroddiad gan Nathan Barnhouse

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 September 2024

1. Crynodeb

1.1      Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

1.2      Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y blaenoriaethau penodol yng Nghymru a chyfraniad tîm Cymru at flaenoriaethau corfforaethol yr ASB, yn ogystal â rhagolwg o flaenoriaethau’r ASB yng Nghymru ar gyfer y misoedd nesaf.

1.3      Gofynnir i’r Bwrdd wneud y canlynol:

  • asesu effeithiolrwydd y gwaith yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
  • ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB 
  • rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd

2. Cyflwyniad

2.1      Mae’r ASB yng Nghymru yn cyfrannu at gyfrifoldebau polisi’r ASB ar gyfer pob agwedd ar ddiogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, ac mae ganddi hefyd gylch gwaith ychwanegol mewn perthynas â safonau cyfansoddiad a labelu bwyd yng Nghymru.

2.2      Mae gan yr ASB gyfrifoldeb statudol i gynghori Gweinidogion Cymru a gwneud argymhellion iddynt ar bolisi bwyd a bwyd anifeiliaid a newidiadau deddfwriaethol. Mae’r tîm o 63 yn cyflawni swyddogaethau y cytunwyd arnynt gyda Gweinidogion Cymru yn ein llythyr ariannu blynyddol, a’r concordat rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru. Yn y cyd-destun hwn, mae’r ASB yng Nghymru wedi ymgorffori egwyddorion dau fframwaith cyffredin y DU y mae’n ddarostyngedig iddynt fel rhan o’i swyddogaethau llunio polisi, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn briodol. Y ddau fframwaith hyn yw Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Fframwaith Cyffredin y DU ar gyfer Cyfansoddiad, Safonau a Labelu Bwyd. 

2.3      Yn ystod y cyfnod a gwmpesir yn yr adroddiad hwn, rydym wedi gweld nifer o newidiadau Gweinidogol yng Nghymru. Ysgrifennodd y Cadeirydd at Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn ogystal â phob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog ar adeg eu penodiad. Cyfarfu hefyd â’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, a bydd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar 7 Hydref

3. Cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau dros y 12 mis diwethaf

3.1      Yn yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr Cymru, tynnwyd sylw at bedwar maes gwaith blaenoriaeth: cefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru; cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â'n hymrwymiadau o dan gytundeb a.83 mewn perthynas ag awdurdodiadau marchnad; cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac ymgysylltiad parhaus ledled Cymru gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, cyfarfod â chynaeafwyr pysgod cregyn yn Afon Menai, a gweithio’n agos gydag Arloesi Bwyd Cymru.

3.2      Rydym yn parhau i gefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydym yn darparu hyfforddiant a chyllid ar gyfer gwaith samplu wedi’i dargedu yng Nghymru yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (FLCoP) statudol, sy’n nodi gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal 14 o gyrsiau hylendid bwyd a safonau bwyd, ac mae 287 o swyddogion wedi cymryd rhan. Yn ogystal, rydym wedi darparu hyfforddiant bwyd anifeiliaid i 141 o swyddogion awdurdodau lleol, yn cynnwys deddfwriaeth bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid meddyginiaethol, cofrestru bwyd anifeiliaid, bwyd anifeiliaid anwes amrwd a samplu bwyd anifeiliaid. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan swyddogion a gymerodd ran. 

3.3      Fel rhan o’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC), cynhaliwyd cynllun peilot chwe mis o Fodel Gweithredu Safonau Bwyd newydd arfaethedig yng Nghymru rhwng mis Medi 2023 a mis Chwefror 2024.  Cymerodd bedwar awdurdod lleol ran yn y cynllun peilot, gyda dau yn cymryd rhan fel awdurdodau lleol peilot yn gweithredu’r model newydd arfaethedig, a dau yn gweithredu fel awdurdodau safonol, yn parhau i weithredu yn unol â’r model presennol. Sefydlwyd y cynllun peilot i brofi’r Model a gyflwynwyd yn ddiweddar yn Lloegr a Gogledd Iwerddon a phenderfynu a fyddai’n gweithredu yng nghyd-destun Cymru. Mae adroddiad gwerthuso ar y cynllun peilot yng Nghymru yn cael ei gwblhau, a bydd yn llywio’r camau nesaf. Os bydd y casgliadau’n cadarnhau bod y model yn llwyddiannus, byddwn yn ceisio cytundeb Gweinidogion Cymru i ymgynghori ar newidiadau i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a fyddai’n ei gwneud yn bosib i’w gyflwyno yng Nghymru. 

3.4      Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhaglen archwilio wedi cynnwys archwilio awdurdodau lleol ar eu cynnydd yn erbyn camau gweithredu a chynllunio a nodwyd yn flaenorol, a darparu eu gwasanaethau yn unol â’r gyfraith a’r FLCoP. Rydym hefyd yn monitro perfformiad awdurdodau lleol Cymru.  Mae canfyddiadau’r rhaglen archwilio a’r gwaith monitro perfformiad, fel y trafodwyd ym mhapur FSA 24-09-04 Diweddariad ar Berfformiad Awdurdodau Lleol yn nodi bod awdurdodau lleol Cymru yn gweithredu ar sail risg a gwybodaeth wrth flaenoriaethu ymyriadau, ac yn parhau i wneud cynnydd gyda sefydliadau o bob categori, o ran hylendid bwyd, a sefydliadau gradd A o ran safonau bwyd. Fodd bynnag, nid oes gan rai awdurdodau lleol yr adnoddau i gysoni â gofynion y FLCoP mewn modd amserol gydag adnoddau yn cael eu nodi fel ffactor dylanwadol mawr. Mae'r tîm yng Nghymru yn cyfrannu at waith ehangach yr ASB i fynd i’r afael â’r pryderon hyn gan ei fod yn fater sy’n effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.    

3.5      Mae’r tîm hefyd yn gweithio ar ddeddfwriaeth i sicrhau y gellir dod ag Awdurdodiadau Marchnad ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig i rym yng Nghymru. Rydym wedi awdurdodi pob un o 66 o geisiadau Prydain Fawr yng Nghymruers i’r gwasanaeth fynd yn fyw ym mis Ionawr 2021.

3.6     Mae gwelliant parhaus yn parhau i fod yn rhan hanfodol o wasanaeth awdurdodi’r farchnad ac mae’r tîm yng Nghymru wedi bod yn rhan o ddatblygiad y System Rheoli Achosion (CMS). Rydym wedi arwain ar ymgyrchoedd gwella parhaus, yn fwyaf nodedig yr adolygiad gwraidd a changen diweddar o brosesau a dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth.  Mae’r gwaith hwn wedi arwain at symleiddio prosesau a dogfennau ac mae’n caniatáu ar gyfer mwy o effeithlonrwydd wrth i’r gwaith ddechrau ar y rownd nesaf o geisiadau. 

3.7      Rydym hefyd yn falch o fod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cytundeb Gweinidogol i wyth wythnos fel yr amserlen safonol ar gyfer ymgynghoriadau. 

3.8     Mewn perthynas â diwygio awdurdodiad ar gyfer y farchnad, mae’r tîm yng Nghymru yn rhan o dîm y prosiect er mwyn sicrhau bod cynigion yn adlewyrchu’r dull pedair gwlad, ac yn cael eu rhoi ar waith gyda chymorth Gweinidogion Cymru, yn enwedig o ran defnyddio un offeryn statudol ar gyfer y DU. 

3.9      O ran blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio yn unol â datganiad y Gweinidog, a’r cytundeb cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a’r ASB mewn perthynas ag adolygu a diwygio rheoleiddio busnesau bwyd yng Nghymru. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn adran 4 isod, o ran ein gwaith ar Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC). 

3.10   Rydym yn cynghori Gweinidogion ar faterion labelu a safonau cyfansoddiadol, gan weithio ar sail pedair gwlad o dan delerau fframwaith cyffredin dros dro Safonau Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd. Enghraifft o hyn yw’r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth bara a blawd, a fydd yn cynnwys ychwanegu asid ffolig at flawd. Cafodd y broses o lunio deddfwriaeth i roi’r newidiadau hyn ar waith ei gohirio oherwydd yr etholiad cyffredinol. Mae’r gwaith hwn bellach wedi’i gynllunio ar gyfer mis Tachwedd 2024. 

3.11   Ym mhopeth a wnawn, mae ymgysylltu â’n rhanddeiliaid ledled Cymru yn parhau i fod yn allweddol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hyn wedi cynnwys digwyddiad yn y Senedd i nodi cyhoeddi Ein Bwyd 2022 – Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU. Yn ystod y digwyddiad hwn, gwnaethom ymgysylltu â 30% o Aelodau’r Senedd. Roedd y digwyddiad lansio yn gyfle i’n Cadeirydd a’n Prif Weithredwr ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y diwydiant a defnyddwyr yng Nghymru

3.12   Rydym wedi cefnogi gweithgarwch ymgysylltu’r Cadeirydd ac Aelod Bwrdd Cymru yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni. Gwnaethom drefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a sesiynau briffio gydag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, yn amrywio o undebau ffermio yng Nghymru i Weinidogion Cymreig perthnasol. Roedd yn gyfle i feithrin perthnasoedd ymhellach, mynd i’r afael ag ymholiadau a phryderon a thrafod meysydd cyffredin. Roedd gennym hefyd stondin gorfforaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a oedd yn gyfle i siarad â defnyddwyr a rhanddeiliaid a chodi ymwybyddiaeth o waith yr ASB. Roedd y stondin yn cynnwys modiwlau rhyngweithiol yn rhannu gwybodaeth am bynciau fel arolygu hylendid cig, yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). 

3.13     Rydym yn rhannu negeseuon yr ASB yng Nghymru drwy ymgyrchoedd a gynhelir ar draws amrywiaeth o sianeli. Mae’r rhain wedi cynnwys negeseuon ar rybuddion bwyd a hysbysiadau galw bwyd yn ôl, bwyta’n ddiogel yn yr haf a’r CSHB i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Y llynedd, gwnaethom ddathlu 10 mlynedd o’r CSHB statudol yng Nghymru gydag ymgyrch ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant y Cynllun yng Nghymru. Gwnaethom rannu adnoddau wedi’u brandio ar y cyd, a chafodd y cynnwys ei rannu yn eang. Yn ogystal, dros y misoedd diwethaf rydym wedi siarad am waith yr ASB ar bodlediad ‘Ask the Regulator’ a gynhyrchwyd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghymru. Gwnaethom hefyd ddarparu cyfweliad Cymraeg ar raglen Bore Cothi y BBC, gan rannu cyngor diogelwch bwyd a arweiniodd at gynnydd cyfatebol mewn ymweliadau â’r Gwiriwr Ffeithiau Bwyd Cartref ar wefan food.gov

3.14     Mae’r tîm yng Nghymru yn cefnogi Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn uniongyrchol i gyflawni ei swyddogaeth gynghori bwysig, fel fforwm effeithiol ar gyfer ymgysylltu. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, rydym wedi trefnu i amrywiaeth o gyflwynwyr mewnol ac allanol gymryd rhan mewn trafodaethau hanner diwrnod â thema yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ac arloesi yng Nghymru, diwygio awdurdodi ar gyfer y farchnad, y dirwedd bwyd yng Nghymru a’i heriau ar gyfer twf ac arloesedd, a digwyddiadau a gwydnwch yr ASB. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ymgysylltu ag academyddion ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a gweithredwyr busnesau bwyd.

4. Cyflawni blaenoriaethau corfforaethol yng Nghymru

4.1      Ochr yn ochr â gwaith ar feysydd sy’n benodol i Gymru, rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau a rhaglenni ehangach yr ASB ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

4.2      Mae’r Ddeddf Technoleg Enetig (Bridio Manwl) yn berthnasol i Loegr yn unig, gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu dull rhagofalus, ac mae’r Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig yn parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y rhyngweithio rhwng y ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, ac rydym wedi cynnal perthynas waith gref ac agos â chymheiriaid yn Llywodraeth Cymru yn ystod y gwaith o ddatblygu fframwaith rheoleiddio arfaethedig yr ASB ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl. 

4.3      Mae’r tîm yng Nghymru yn cefnogi gwaith ymgysylltu’r Cadeirydd â Gweinidogion Cymru. Gwnaethom gefnogi’r Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Robin May, i gyflwyno sesiwn holi ac ateb gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ddeall yn well natur Bridio Manwl a helpu i lywio eu trafodaethau ar eu dull gweithredu yn y dyfodol. Ar lefel swyddogol, rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chymheiriaid yn Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn ymwybodol wrth i bolisi a deddfwriaeth bridio manwl gael eu datblygu gyda Llywodraeth y DU. 

4.4      Mae’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac adrannau Llywodraeth y DU ar y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau o ddiddordeb sylweddol yng Nghymru. Rydym wedi cynghori Gweinidogion Cymru ar ffrydiau gwaith â blaenoriaeth gan gynnwys rhaghysbysu nwyddau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) o Weriniaeth Iwerddon, symleiddio Tystysgrifau Iechyd Allforio, a goblygiadau’r model gweithredu targed mewn perthynas â Fframwaith Windsor. Mae’r tîm yng Nghymru yn cymryd rhan yn aml mewn gweithgorau i asesu tystiolaeth a data i benderfynu ar gategori risg mewnforion o’r UE a gweddill y byd, ochr yn ochr â chyfrannu at ddatblygu cynlluniau masnachwyr y gellir ymddiried ynddynt a sicrhau bod datblygiad y model yn cael ei lywio gan dirwedd gyflawni awdurdodau lleol.

4.5      Fel yr amlinellwyd ym mhapur FSA 24-09-04 Diweddariad ar Berfformiad Awdurdodau Lleol, rydym yn cefnogi cydweithwyr yn ganolog gyda phrosiect adnoddau awdurdodau lleol. Byddwn yn cynnal trafodaethau gyda Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru i sicrhau bod y prosiect yn cefnogi ac yn cyd-fynd â gwaith cydweithwyr awdurdodau lleol fel y nodir yn eu hadroddiad Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru – Adeiladu ar gyfer y Dyfodol.

4.6      Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu personol ym mis Mai gydag awdurdodau lleol Cymru. Cafodd ei gynnal ar y cyd â chydweithwyr yn yr Is-adran Cydymffurfiaeth Rheoleiddio. Fel yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, pwrpas y digwyddiadau hyn oedd llywio ein ffordd o feddwl am feysydd polisi allweddol gan gynnwys prosiect adnoddau awdurdodau lleol, prosiect data awdurdodau lleol a dangosyddion perfformiad allweddol. Drwy’r digwyddiad, bu modd i ni ymgysylltu â 40 o swyddogion a chawsom adborth cadarnhaol ar y cyfle hwn i ymgysylltu.  

4.7      Rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y prosiect i ddatblygu a sefydlu Rhwydwaith Rhannu’r ASB, y system newydd ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol. Mae hyn wedi cynnwys darparu mewnbwn i sicrhau bod y system yn bodloni ein gofyniad statudol i gyfathrebu’n ddwyieithog ag awdurdodau lleol yng Nghymru, datblygu canllawiau tair gwlad ar greu ac ychwanegu cynnwys cyson a hygyrch i’r llwyfan newydd, a mudo cynnwys allweddol o’r llwyfan blaenorol, sef llwyfan Hwyluso Cyfathrebu. Rydym hefyd wedi arwain ar ddrafftio canllawiau a thempledi ar gyfer defnyddio’r system ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

4.8      Mae tîm diogelu defnyddwyr Cymru wedi bod yn rhan o’r gwaith o baratoi’r adroddiad blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwydnwch ar gyfer 2023/24, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y tîm yn gweithio’n uniongyrchol ar 156 o ddigwyddiadau a adroddwyd yng Nghymru, gan gynnwys 18 o frigiadau. Roedd y tîm yn rhan o’r ymateb i 202 o ddigwyddiadau a nodwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn flaenorol, ac er bod nifer y digwyddiadau yn is eleni, bu cynnydd yn nifer y digwyddiadau lle mae angen ymchwiliadau aml-asiantaeth neu gymhleth ar raddfa genedlaethol.

5. Edrych tua’r dyfodol 

5.1      Mae’r ASB yng Nghymru yn bwriadu gweithio ar nifer o flaenoriaethau yn ystod y chwech i ddeuddeg mis nesaf, yn ogystal â pharhau i weithio ar y meysydd hynny a nodir uchod. Mae’r meysydd ffocws hyn wedi’u hamlinellu isod fel y gall y Bwrdd eu hystyried a chytuno arnynt, neu wneud sylwadau arnynt fel y bo’n briodol.

5.2      Yn ddiweddar, cyhoeddwyd Bwyd o Bwys: Cymru, sy’n dwyn ynghyd brif bolisïau a gweithgareddau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â bwyd a’u perthynas â’i gilydd. Rydym wedi cael ein gwahodd i fod yn rhan o Fforwm Bwyd mewnol Llywodraeth Cymru i gynghori ar ble a sut y mae gwaith yr ASB yn cyfrannu at y polisïau hyn sy’n ymwneud â bwyd, a sut y gallwn barhau i sicrhau bod ein gwaith yn alinio. Er enghraifft, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng ein gwaith ni a Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru, gan ein bod ni wedi cynllunio a chyflwyno cynllun peilot yn ddiweddar gyda’r Adran Addysg i fonitro cydymffurfiaeth â’r Safonau Bwyd Ysgol yn Lloegr. Mae’n bosib y bydd cyfleoedd i gyfrannu at weledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod, Egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru a’r Strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Byddwn yn cynnal trafodaeth Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) ar yr adroddiad mewn cyfarfod sydd i ddod, er mwyn ystyried sut y gall yr ASB wneud cyfraniadau pellach o fewn ein cylch gwaith.

5.3      Yn yr un modd, mae’r tîm wedi bod yn ymwneud â diwygio’r Concordat, gan nodi fframwaith ar gyfer cydweithredu rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru. Nid yw’r fframwaith hwn wedi’i ddiweddaru ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2016, ac nid yw bellach yn cyfrif am rolau a chyfrifoldebau ychwanegol yr ASB a Gweinidogion Cymru ers yr ymadawiad â’r UE. 

5.4      Byddwn yn meithrin ein perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn y flwyddyn i ddod yn dilyn cyfarfod rhwng y Comisiynydd a’r Cadeirydd yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Rydym wedi trafod ein diddordeb cyffredin mewn llywio’r amgylchedd bwyd ac rydym wedi cynnig cefnogi gwaith y Comisiynydd ar lunio Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol sydd ar ddod drwy gynnig data, tystiolaeth neu fewnwelediad perthnasol a allai gyfrannu at yr argymhellion. Mae hyn yn cynnwys data a gasglwyd yng Nghymru ar bynciau fel diogelwch bwyd fel rhan o arolwg blaenllaw yr ASB, Bwyd a Chi, ein gwaith yn Lloegr ar fonitro cydymffurfiaeth â Safonau Bwyd Ysgolion, a phrofiad o’n gwaith yng Ngogledd Iwerddon o weithio’n agos gyda’r llywodraeth a chyrff y diwydiant i wella safonau maeth mewn peiriannau gwerthu bwyd, annog ailfformiwleiddio bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, a datblygu strategaeth ordewdra gyda dull systemau o atal gordewdra

5.5      Mae llywodraeth y DU wedi rhannu ei huchelgais i wella perthnasoedd masnachu a buddsoddi gyda’r UE, gan gynnwys ceisio negodi cytundeb SPS.  Rydym wedi bod yn gweithio gydag adrannau eraill o’r llywodraeth i ddeall goblygiadau cytundeb SPS a byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â Gweinidogion Cymru wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.

6. Casgliadau

6.1      Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o’r gwaith sydd wedi’i wneud ers y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2023, yn ogystal â blaenoriaethau presennol ac yn y dyfodol ar gyfer tîm yr ASB yng Nghymru.

6.2      At ei gilydd, gofynnir i’r Bwrdd:

  • asesu effeithiolrwydd y gwaith a amlinellwyd i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
  • ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB 
  • rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd.