Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
FSA 25/03/07 - Adroddiad gan Dr Rhian Hayward MBE
1. Crynodeb
1.1 Mae’r adroddiad hwn gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch y Pwyllgor.
1.2 Gofynnir i'r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC dros y 12 mis diwethaf a chadarnhau ei gynlluniau ar gyfer y flwyddyn..
2. Rôl WFAC
2.1 Diffinnir WFAC yn Neddf Safonau Bwyd 1999. Caiff y pwyllgor ei gadeirio gan Aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a’i rôl yw cynghori’r ASB ar unrhyw elfennau Cymreig penodol sy’n gysylltiedig â chylch gorchwyl yr ASB, fel y’i diffinnir yn y Ddeddf.
2.2 Mae gan y Pwyllgor wyth aelod, gan gynnwys aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru a Chadeirydd WFAC. Mae pob Aelod yn cael ei recriwtio drwy broses penodiadau cyhoeddus agored ac yn cael ei benodi gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru.
2.3 Mae aelodau WFAC yn cynnig ystod eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol sy’n cefnogi gwaith yr ASB wrth gyflawni ei chanlyniadau strategol. Mae bywgraffiadau aelodau presennol WFAC i’w gweld yma.
2.4 Mae’n bleser gennyf ddweud bod Helen Taylor, Dr John Williams, Georgia Taylor a Jessica Williams, wedi’u hailbenodi i’r Pwyllgor am ail dymor ers fy adroddiad diwethaf. Daeth tymor un aelod, Chris Brereton, i ben, a bydd un arall, Dr Phil Hollington, yn gorffen ail dymor ei benodiad ddiwedd mis Mawrth. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu gwaith yn ystod eu cyfnodau ar y pwyllgor, ac am y ddealltwriaeth a’r profiad y gwnaethant eu cyfrannu i drafodaethau WFAC.
2.5 Mae ymgyrch recriwtio ar waith ar hyn o bryd i benodi dau Aelod newydd i WFAC. Yn sgil yr ymgyrch, bydd gennym aelodaeth lawn ar y pwyllgor.
3. Cyfarfodydd y Pwyllgor – cyfarfodydd cyn y Bwrdd a chyfarfodydd â thema
3.1 Mae’r papur hwn yn tynnu sylw at y ddau fath o gyfarfod sydd wedi’u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf – sef cyfarfodydd cyn y bwrdd a chyfarfodydd â thema.
3.2 Mae WFAC yn cyfarfod cyn pob un o gyfarfodydd Bwrdd yr ASB i ystyried y papurau a gyflwynir. Mae’r cyfarfodydd hyn, sy’n paratoi ar gyfer y Bwrdd, yn rhoi cyfle i WFAC i ddarparu safbwynt datganoledig, gan fy ngalluogi i fel Cadeirydd WFAC ac Aelod y Bwrdd dros Gymru i gyflwyno sylwadau a chwestiynau sy’n benodol i Gymru yn ystod cyfarfodydd y Bwrdd.
3.3 Yn ogystal â’r cyfarfodydd hyn cyn y Bwrdd, mae pedwar cyfarfod â thema wedi’u cynnal ers fy adroddiad diwethaf. Mae’r rhain yn gyfarfodydd agored ac mae croeso i randdeiliaid, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd, ddod iddynt. Gyda’r nod o ddysgu’n barhaus am y dirwedd bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, mae WFAC yn gwahodd siaradwyr ac arbenigwyr yn eu meysydd i rannu persbectif Cymreig. Rwy’n gwerthfawrogi’r archwiliadau dwfn hyn a diddordeb y rhai sy’n bresennol yn y pynciau. Mae’r cyfarfodydd â thema yn galluogi WFAC i gael dealltwriaeth well a dyfnach o’r pynciau ac yn ein galluogi i fwydo’n fwy gweithredol i flaenoriaethau ehangach yr ASB.
3.4 Yn unol ag argymhellion yr adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd yn 2023, hynny yw, lle y bo’n bosib, y dylid alinio’r themâu a drafodir gan y ddau Bwyllgor, trafodwyd themâu posib ar gyfer 2024 mewn cyfarfod WFAC ym mis Hydref 2023. Cytunwyd ar hyn wedyn gen i, fel Cadeirydd WFAC, gan ymgysylltu ag ymgynghoriad ag Anthony Harbinson, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon (NIFAC). Dyma’r themâu a drafodwyd dros y flwyddyn ddiwethaf:
Ebrill 2024: Heriau ar gyfer twf ac arloesedd i fusnesau bwyd Cymru
3.5 Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn ZERO2FIVE, sef Canolfan Arloesi Bwyd Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n rhoi cymorth technegol, gweithredol a masnachol i fusnesau bwyd a diod i’w galluogi i gystadlu’n fwy effeithiol.
3.6 Nod y cyfarfod hwn oedd clywed yn uniongyrchol gan fusnesau bwyd a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw ar yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran tyfu ac arloesi. Gyda hynny mewn golwg, clywsom gan y busnes teuluol Lewis Pies, a dynnodd sylw at ddwy her allweddol sy’n wynebu’r busnes: anawsterau wrth recriwtio staff a chymhlethdod cynyddol y drefn o fesur a rheoleiddio cynaliadwyedd.
3.7 Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar brosiectau a ariennir i gefnogi’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan rannu manylion busnesau Cymru sydd wedi defnyddio’r cymorth hwn. Gan symud ymlaen i drafod sut y gall rheoleiddiwr gefnogi busnesau, clywsom wedyn gan y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS), sef partneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Yn ogystal â bod yn rheoleiddiwr, maent yn darparu adnoddau fel cylchlythyrau, podlediadau ‘Gofyn i’r Rheoleiddiwr’, cyrsiau a hyfforddiant.
3.8 I gloi’r cyfarfod, siaradodd un o aelodau WFAC, Helen Taylor, am waith ZERO2FIVE wrth gefnogi arloesedd a thwf busnesau. Dilynwyd hyn gan daith o gwmpas eu cyfleusterau, sy’n cynnwys ystafelloedd gwerthuso synhwyraidd ar gyfer profi cynnyrch annibynnol, a labordy profiad canfyddiadol blaengar i helpu busnesau i ddylunio deunydd pecynnu a phrofi fformat.
3.9 Roedd clywed am waith clystyrau Bwyd, Technoleg ac Arloesi Llywodraeth Cymru wedi helpu’r Pwyllgor i ddeall y weledigaeth strategol o ran tyfu’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, a thynnodd sylw at y potensial ar gyfer cydweithio i wella’r cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r Clwstwr Ymchwil a thîm Gwyddoniaeth a Thystiolaeth yr ASB ymhellach. Roedd WFAC yn falch o weld lefel y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau bwyd a diod sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, a’r buddsoddiad parhaus mewn adnoddau cyhoeddus i ehangu’r sector a’i hyrwyddo fel testun balchder i Gymru.
Gorffennaf 2024: Digwyddiadau a Gwydnwch
3.10 Yn y cyfarfod hwn, gwnaethom archwilio gwaith yr ASB ar Ddigwyddiadau, Gwydnwch ac Atal yn fanwl. Diolch i holl swyddogion yr ASB a gefnogodd y cyfarfod hwn. Yn ôl y disgwyl, roedd gan aelodau WFAC ddiddordeb arbennig yn y data digwyddiadau oedd yn benodol i Gymru yn yr Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwydnwch. Roeddent yn awyddus i ddeall rhai o fanylion y digwyddiadau hyn a’r heriau yng nghyd-destun Cymru.
3.11 Clywsom hefyd am ddefnyddio Dilyniannu Genom Cyfan i gysylltu a chlystyru achosion o ddigwyddiadau a gwaith yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), gan gynnwys yr Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd a chynigion i ehangu pwerau NFCU. Roedd WFAC yn falch iawn o weld y dull pedair gwlad o ymdrin â digwyddiadau, a chynigiwyd hwn fel model y gellid ei gyflwyno’n ehangach ar draws gwaith yr ASB.
Hydref 2024: Archwilio ffyrdd newydd o reoleiddio
3.12 Yn dilyn trafodaethau dwys yn ystod cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi ac adborth cryf gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol Cymru, cynhaliwyd sesiwn archwilio’n drylwyr ar ffyrdd newydd o reoleiddio yn yr Hydref. Roedd hyn yn cynnwys clywed gan y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir am lwyddiant Partneriaethau Prif Awdurdodau yng Nghymru, a chael mewnwelediad cynnar gan swyddogion yr ASB, ac awdurdodau lleol peilot, ar y newid arfaethedig i’r Model Gweithredu Safonau Bwyd.
3.13 Ymunodd swyddogion yr ASB hefyd i roi cyflwyniad ar y camau nesaf o ran Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol. Roedd WFAC yn falch o weld cynrychiolaeth gref o Gymru ar yr Uwch-fforwm Llywio a sefydlwyd ar ôl ymgysylltu â’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd. Cafwyd trafodaeth adeiladol a didwyll, a gynorthwyodd y pwyllgor i ddeall rhai o bryderon awdurdodau lleol Cymru yn well. Mae hyn wedi ein galluogi i adolygu sut rydym yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â chynrychiolwyr allweddol o awdurdodau lleol yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn cael trafodaethau mwy agored a chynhwysfawr, yn unol â’r cytundeb cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, yr ASB a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Chwefror 2025: Maeth ac Iechyd Dietegol.
3.14 Gan nodi’r diddordeb gan Bwyllgor Gordewdra Tŷ’r Arglwyddi yn rôl yr ASB mewn perthynas â maeth ac iechyd deietegol, a’r adroddiad sydd i ddod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar fwyd, roedd yn amserol cynnal sesiwn yn ystyried sut y caiff maeth ac iechyd dietegol eu rheoli ledled y DU.
3.15 O safbwynt Cymru, cafwyd diweddariad gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar gynnydd y strategaeth 10 mlynedd, ‘Pwysau Iach, Cymru Iach’, gan gynnwys cam nesaf y cynllun gweithredu a fydd yn canolbwyntio ar alluogi a chefnogi plant yn eu blynyddoedd cynnar i arwain newid cenedlaethol yn y system fwyd. Fel partner gweithredu ar gyfer y gwaith hwn, cafwyd cyflwyniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar bwysau, maeth, a ffordd o fyw, sydd oll yn faterion sy’n esblygu, gan amlygu’r cysylltiad rhwng amddifadedd a gordewdra.
3.16 Roedd yn amlwg i aelodau WFAC fod llawer iawn o waith yn digwydd yn y maes hwn, ond y bydd yn cymryd amser i sicrhau newid cadarnhaol. Yn y cyfamser, mae’r ffaith bod cynifer o wahanol fentrau yn gallu ymddangos yn ddryslyd ac, ar adegau, gall ymddangos eu bod yn dyblygu gwaith ei gilydd. Rwy’n ddiolchgar i’r tîm yn yr ASB yng Ngogledd Iwerddon am gyflwyno ar eu gwaith ar iechyd a maeth deietegol; a sut y maent yn ymgysylltu â’r Adran Iechyd, gan gynnig map ffordd ar gyfer gwelliannau. Roedd hefyd yn ddefnyddiol clywed am flaenoriaethau Llywodraeth y DU yn y maes hwn, a sut y mae hyn yn berthnasol i strategaeth fwyd Defra, sydd ar ddod.
3.17 Teimlai WFAC, er bod polisi bwyd wedi’i ddatganoli, fod angen rhywfaint o gyffredinedd a chydweithio ar draws pedair gwlad y DU i sicrhau cynnydd yn y maes hwn. Daeth y cyfarfod i ben gydag ymweliad â Chanolfan Iechyd leol, lle bu aelodau WFAC yn ymgysylltu’n uniongyrchol â deietegwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr amrywiaeth o fentrau cymunedol sydd ar waith i fynd i’r afael â gordewdra.
Cyfarfodydd eraill
3.18 Roedd y Pwyllgor a minnau’n falch o groesawu Bwrdd yr ASB i Landudno ar gyfer ei gyfarfod ym mis Mehefin 2024, gan roi’r cyfle i arddangos rhai o’r cyfleusterau ymchwil a’r busnesau bach gwych sydd gennym yng Nghymru. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i aelodau’r Pwyllgor ymgysylltu ag aelodau’r Bwrdd.
3.19 Yn ogystal, mae Pwyllgor WFAC a minnau wedi mynd i nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid dros y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo gwaith yr ASB. Mae hyn yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a chynhadledd Blas Cymru. Bu’r rhain yn gyfle i ni siarad â defnyddwyr, busnesau a rhanddeiliaid allweddol.
3.20 Mae’r Cadeirydd a minnau wedi cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant blaenorol a’r Gweinidog presennol, a bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Cawsom hefyd gyfarfod adeiladol iawn gyda chynaeafwyr pysgod cregyn Menai, i drafod y materion y maent yn eu hwynebu o ran dosbarthu.
3.21 Yn ddiweddar, cyfarfûm â’r Athro Huw Jones (ACNFP) a Bill McDonald, Prif Swyddog Iechyd Planhigion Cymru, yn Aberystwyth, ynghyd â Sian Bowsley, Jonathan Davies a Xosé Alvarez o’r ASB. Ffocws y cyfarfod oedd trafodaeth am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar reoleiddio Organebau wedi’u Bridio’n Fanwl (PBO), buddiannau ar gyfer diwydiant a defnyddwyr, a sut orau i helpu’r drafodaeth ar y pynciau hyn i gefnogi Gweinidogion Cymru ac Aelodau o’r Senedd. Roedd y cyfarfod yn un adeiladol iawn, a chytunwyd ar gamau ymgysylltu, ac i gyfarfod eto yn y dyfodol.
4. Edrych tua’r dyfodol
4.1 Trafodwyd syniadau ar gyfer cyfarfodydd â thema yn 2025 gyda Chadeirydd yr ASB a Chadeirydd NIFAC, ac yna fe’u trafodwyd yng nghyfarfod WFAC Rhagfyr 2024, gan edrych ymlaen at waith yr ASB dros y cyfnod hwn ac unrhyw ddatblygiadau sy’n benodol i Gymru.
4.2 Gyda hynny mewn golwg, cytunwyd ar y themâu canlynol:
4.3 Archwiliad dwfn o gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCP): Datblygiad allweddol i’r ASB yn 2025 fydd lansio blwch tywod CCP, ac mae WFAC a NIFAC yn awyddus i ddeall mwy am y goblygiadau. Rydym wedi cynnig y gallai hwn fod yn gyfarfod ar y cyd i helpu i feithrin perthnasoedd ar draws y ddau Bwyllgor Cynghori ar Fwyd. Mae ysgrifenyddiaeth y ddau bwyllgor yn gweithio gyda chydweithwyr polisi perthnasol i gysoni’r cyfarfodydd a’r cynnwys.
4.4 Cyflwyno ‘Cymru Can’: gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: Disgwylir i Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gyhoeddi Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru yn ddiweddarach y gwanwyn hwn, a bydd yn ddefnyddiol dysgu sut y gallwn gydweithio i gyflawni nodau’r strategaeth honno.
4.5 Gorsensitifrwydd i fwyd: Gwelwyd diddordeb cynyddol yng ngwaith yr ASB a Llywodraeth Cymru o ran labelu ac ymwybyddiaeth o orsensitifrwydd i fwyd. Bydd yr ASB yn cyhoeddi canllawiau busnes yn y maes hwn dros yr ychydig fisoedd nesaf, ac mae’n bwysig i WFAC ddeall yn well sut y bydd y canllawiau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, a pha rôl sydd gan WFAC i hyrwyddo negeseuon allweddol.
4.6 Y dirwedd bwyd anifeiliaid yng Nghymru: Mae hwn yn bwnc eithaf eang, gan nodi mai’r ASB sy’n gyfrifol am gynnal archwiliadau bwyd anifeiliaid yng Nghymru, ond y bu llawer o ddiddordeb yn y broses o gymeradwyo ychwanegion bwyd anifeiliaid, yn enwedig 3-NOP/Bovaer. Hefyd, mae nifer o brosiectau ymchwil ar waith mewn sefydliadau academaidd yng Nghymru sy’n edrych ar fathau newydd o fwyd anifeiliaid sy’n ceisio darparu buddion ychwanegol – i les anifeiliaid, yr amgylchedd, ansawdd bwyta, amserau darfod bwyd (perishability) ac ati.
4.7 Dyma’r cynllun sydd gennym ar hyn o bryd, ond mae’n bosib y bydd angen addasu wrth i faterion eraill ddod i’r amlwg. Mae’r adolygiad o’r ASB yng Nghymru a noddir gan Lywodraeth Cymru wrthi’n mynd rhagddo (gydag argymhellion i’w cyflwyno ym mis Gorffennaf), a disgwylir y bydd etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026 – mae’n bosib y bydd angen i WFAC ystyried blaenoriaethau eraill yn sgil y ddau beth hyn. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod gyda Chadeirydd yr ASB a Chadeirydd NIFAC.
4.8 Ochr yn ochr â’r cyfarfodydd ffurfiol, bydd WFAC yn parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid yng Nghymru i hyrwyddo negeseuon allweddol yr ASB. Bydd hyn yn cynnwys Gwobrau Bwyd a Diod Cymru yn Llandudno ym mis Mai, lansiad yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf, Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf ac ymgysylltu â defnyddwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Fel Cadeirydd WFAC, byddaf hefyd yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid allweddol, fel Gweinidogion Cymru (ochr yn ochr â Chadeirydd yr ASB), Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
4.9 Dyma ragolwg WFAC ar gyfer 2025:
Dyddiad |
Cyfarfod/Digwyddiad a lleoliad
|
---|---|
Dydd Iau, 20 Mawrth 2025 |
Cyfarfod paratoi ar gyfer y Bwrdd (ar-lein) |
Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2025 |
Cyfarfod WFAC â thema yng Nghaerdydd – Cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (cyfarfod ar y cyd â NIFAC o bosib) |
Dydd Mercher, 30 Ebrill 2025 |
Cadeirydd yr ASB a Chadeirydd WFAC yn cyfarfod â Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant |
Dydd Iau, 22 Mai 2025 |
Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Venue Cymru, Llandudno |
Dydd Iau, 12 Mehefin 2025 |
Cyfarfod paratoi ar gyfer y Bwrdd (ar-lein) |
Dydd Mawrth, 8 Gorffennaf 2025 |
Cyfarfod â thema WFAC yng Nghaerdydd – Strategaeth Bwyd Cymunedol ‘Cymru Can’ - i’w gadarnhau |
Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2025 |
Lansio’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd |
Dydd Llun, 21 – Dydd Iau, 24 Gorffennaf 2025 |
Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt |
Dydd Sadwrn 2 – Dydd Sadwrn 9 Awst 2025 |
Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam |
Dydd Iau, 11 Medi 2025 |
Cyfarfod paratoi ar gyfer y Bwrdd (ar-lein)
|
Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025 |
Cyfarfod â thema WFAC - lleoliad i'w gadarnhau |
Dydd Iau, 4 Rhagfyr 2025 |
Cyfarfod paratoi ar gyfer y Bwrdd (ar-lein) |
5. Casgliadau
5.1 Mae’r papur hwn yn rhoi adroddiad llawn o waith y Pwyllgor dros y 12 mis diwethaf, a’r cynllun ar gyfer y 12 mis nesaf. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cyflwyno yn WFAC neu wedi cynnal cyfarfodydd WFAC.
5.2 Bydd 2025 yn flwyddyn brysur arall i WFAC wrth i ni weld adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru yn dod i ben, lansiad y Strategaeth Bwyd Cymunedol a pharatoadau ar gyfer Etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026. Bydd WFAC yn achub ar bob cyfle i gefnogi gwaith yr ASB i gyflawni er budd defnyddwyr, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill Cymru. Byddwn yn parhau i feithrin y berthynas gref â Chadeirydd yr ASB, Bwrdd yr ASB a NIFAC.
5.3 Gofynnir i’r Bwrdd nodi gweithgareddau WFAC a chymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod.