Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio, pam mae angen y data arnom, yr hyn a wnawn ag ef, a'ch hawliau.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn gyd-reolyddion ar y data personol a ddarperir i ni.
Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Rydym ni’n cael yr wybodaeth hon yn uniongyrchol gennych chi'r ymgeisydd neu gynrychiolwyr sy'n gweithredu ar eich rhan, neu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan sefydliadau sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi'ch cais i’r Gwasanaeth Cynhyrchion Bwyd wedi’u Rheoleiddio.
Fel cyd-reolyddion, rydym ni’n prosesu'r wybodaeth hon gan ei bod yn angenrheidiol er mwyn gallu cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd a/neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio (vested in) yn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Yn benodol, rydym ni’n gwneud hyn yn unol â pherfformio ein dyletswyddau statudol i asesu ac awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio cyn iddynt ddod i mewn i'r farchnad.
Beth sydd ei angen arnom a sut rydym ni'n ei ddefnyddio
Mae'r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei dal yn cynnwys enw a chyfeiriad e-bost yr ymgeisydd, a gall gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cynrychiolwyr sy'n gweithio ar ran yr ymgeisydd a/neu gynrychiolydd sefydliad sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi'r cais. Mae angen i ni gasglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn:
- gweinyddu eich cais
- asesu ac awdurdodi eich cais
- cyfathrebu â chi, yr ymgeisydd, cynrychiolydd, neu gynrychiolydd y sefydliad gan ddarparu gwybodaeth i gefnogi'r cais
Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu
Rydym ni'n storio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu drwy'r gwasanaeth ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig i gofrestru'ch cais a'i defnyddio i sefydlu ystorfa (repository) unigryw er mwyn i chi allu lanlwytho'r ffeil yn ddiogel i gefnogi'ch cais.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch adran 'sut a ble rydym ni'n stori'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu' yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i arbenigwyr yn adrannau eraill y llywodraeth, gan gynnwys yn y gweinyddiaethau datganoledig, labordai dadansoddol neu i wyddonwyr, gan gynnwys ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol, lle bo angen i asesu eich coflen (dossier) a'ch cais.
Byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â chynnyrch wedi’i reoleiddio awdurdodedig ar gofrestr ddigidol. Bydd yr wybodaeth hon yn ddienw, sy'n golygu na ellir eich adnabod ohoni.
Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost ymgeisio yn cael eu cadw am flwyddyn o ddyddiad y penderfyniad.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi'i chynnwys yn y cais a'r ffeil yn cael ei chadw. Mae angen i ni gadw cofnod o'ch cais i ddeall ar ba sail mae'r cynnyrch ar y farchnad. Mae hyn yn caniatáu i ni gyfeirio at yr wybodaeth gyflawn wreiddiol a ddefnyddiwyd i ategu'r awdurdodiad, os codir pryderon ynghylch diogelwch y cynnyrch unwaith y mae ar y farchnad.
I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)
I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.
Hanes diwygio
Published: 30 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2023