Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Gofrestr o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u rheoleiddio
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r Gofrestr o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u rheoleiddio sydd wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rydym ni am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r Gofrestr o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u rheoleiddio sydd wedi'u hawdurdodi i’w defnyddio ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio trwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr o unrhyw faterion yr ydym ni’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘Cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.
Adborth a manylion cyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- Anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein llinell gymorth 0330 332 7419 (ar agor 9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- E-bost: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein llinell gymorth 0330 332 7419 (ar agor 9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod ynghyd â’r dyddiadau targed ar gyfer trwsio’r problemau hyn.
- Nid yw pob PDF yn cydymffurfio â thechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn methu maen prawf Delweddau Testun WCAG 2.1 1.4.5. Bydd hyn yn cael ei drwsio pan fydd y gwasanaeth yn cael ei adolygu nesaf, a bydd unrhyw ddogfen newydd a gyhoeddir yn hygyrch.
- Mae rhai o’n tudalennau yn sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bach. Mae’r broblem yn fwyaf cyffredin gyda thablau ar ddyfeisiau symudol. Rydym ni’n argymell defnyddio dyfais wahanol i weld y tablau yn llawn. Mae hyn yn methu â bodloni meini prawf Ail-lifo WCAG 2.1 AA 1.4.10.
- Nid yw pob rheolydd yn newid ymddangosiad pan gânt eu dewis ond mae’r holl reolwyr ar y dudalen gan gynnwys dolenni, botymau a meysydd yn dangos pryd y maent wedi’u dewis. Mae hyn yn methu meini prawf Ffocws Gweladwy WCAG 2.1 AA 2.4.7.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Rhagfyr 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 17 Mawrth 2022.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwirio awtomataidd.
Byddwn yn parhau i wirio trwy ein gwasanaeth awtomataidd a gwneud diweddariadau yn ôl yr angen.