Datganiad hygyrchedd ar gyfer food.gov.uk
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef food.gov.uk.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
- llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch chi weld rhestr lawn o unrhyw broblemau yn yr adran ‘Cynnwys nad yw’n hygyrch’ yn y datganiad hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- Anfonwch e-bost i: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
- Cysylltwch â ni drwy’r post:
Cymru
Llawr 11, Tŷ Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Pencadlys
Lloriau 6 a 7, Clive House
70 Petty France
Llundain SW1H 9EX
Caerefrog
Foss House,
Kings Pool
1-2 Peasholme Green,
Caerefrog YO1 7PR
Gogledd Iwerddon
10c Clarendon Road,
Belfast BT1 3BG
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
- E-bost: fsa.communications@food.gov.uk
- Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd rydym ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill nad ydynt ar ffurf HTML
Nid yw rhai o’n dogfennau PDF yn gwbl hygyrch, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Nid yw dogfennau ein Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yn gwbl hygyrch. Mae gan rai o’r tablau strwythur afreolaidd, diffyg rhesi ar gyfer penawdau, testun amgen coll a siartiau llif anhygyrch. Rydym yn bwriadu llwytho fersiwn HTML hygyrch o’r Llawlyfr erbyn mis Hydref 2024, a chyhoeddi fersiynau PDF hygyrch cyn hynny.
- Ein hadroddiadau Arolygon Glanweithdra ar gyfer Gogledd Iwerddon a gyhoeddwyd ar y dudalen Asesu Ardaloedd Cynhyrchu Pysgod Cregyn. Nid yw’r PDFs hyn yn hygyrch ac maent wedi’u hychwanegu at ein rhestr o gynnwys anhygyrch, a byddant yn cael eu trwsio cyn gynted â phosib. Rydym hefyd yn gweithio ar greu templed hygyrch ar gyfer y cyhoeddiadau hyn i sicrhau bod unrhyw ddiweddariadau yn y dyfodol yn hygyrch fel mater o drefn.
- Nid yw’r sleidiau data costau na’r dogfennau PDF ar godi tâl am reolaethau mewn safleoedd cig yn hygyrch. Maent wedi’u hychwanegu at ein rhestr o ddogfennau anhygyrch, a byddant yn cael eu trwsio cyn gynted â phosib. Rydym hefyd yn gweithio ar greu templed hygyrch ar gyfer y cyhoeddiadau hyn i sicrhau bod diweddariadau yn y dyfodol yn hygyrch.
- Nid yw’r adnoddau a uwchlwythwyd ar ein tudalen ynghylch y rhaglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd o dan bennawd y weminar PATH-SAFE yn hygyrch. Maent wedi’u creu gan drydydd parti ac nid oes gennym fynediad at y fersiynau gwreiddiol er mwyn eu gwneud yn hygyrch. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen fersiwn amgen arnoch sy’n hygyrch. Nid oes trawsgrifiad o'r recordiadau ac ni ddefnyddir sgrindeitlo, ond gellit darparu crynodebau ar gais.
Mae rhai o’n dogfennau Word yn hanfodol er mwyn gallu darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ffurflenni wedi’u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym wrthi’n trosi rhai o’r ffurflenni hyn yn ffurflenni PDF hygyrch rhyngweithiol. Rydym hefyd yn datblygu gwasanaeth newydd ar gyfer y broses cymeradwyo sefydliadau cig, a bydd y gwasanaeth newydd hwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Baich anghymesur
Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 8 Chwefror 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21 Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).
Gwnaethom ni ddewis y sampl o dudalennau i’w profi yn seiliedig ar deithiau defnyddwyr cyffredin sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol fathau o gynnwys. Mae hyn yn cynnwys canllawiau, rhoi gwybod am broblem gyda bwyd a rhybuddion bwyd.
Hanes diwygio
Published: 21 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Chwefror 2024