Ymgysylltu ac ymgynghori
Mae’r datganiad polisi hwn yn egluro ein dull ymgynghori, sy’n llywio’r modd rydym yn ceisio ac yn ystyried safbwyntiau wrth lunio deddfwriaeth, canllawiau a phenderfyniadau polisi.
Mae’n ddyletswydd arnom sicrhau bod penderfyniadau wedi’u llywio gan wybodaeth, ac mae ymgynghori â’r rheiny sydd â buddiant yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein penderfyniadau yn ystyried safbwyntiau perthnasol ac eu bod wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys cyfraith a gymathwyd, ac ar gynigion polisi, gan gynnwys canllawiau rheoleiddio, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar randdeiliaid.
Pwy ydym yn ymgynghori â nhw
Ein nod yw cyrraedd rhanddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, neu sydd ag arbenigedd penodol yn y pwnc dan sylw. Byddwn yn ystyried a fyddai cynigion yn effeithio ar grwpiau rhanddeiliaid penodol, gan gynnwys grwpiau lleiafrifol neu’r rheiny a fyddai’n llai tebygol o ymateb i ymgynghoriadau’r llywodraeth fel arfer, gan geisio’u cynnwys yn y broses ymgynghori.
Sut ydym yn ymgynghori
Byddwn yn addasu ein dull yn ôl y mater rydym yn ymgynghori yn ei gylch a’r rhanddeiliaid rydym yn ceisio ymgysylltu â nhw. Ein nod yw ymgysylltu â'n rhanddeiliaid mewn modd ystyrlon trwy gydol y broses gwneud penderfyniadau.
Ar gyfer newidiadau polisi a deddfwriaeth sylweddol, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol. Rydym yn cyhoeddi pob ymgynghoriad ar ein gwefan ac yn rhoi gwybod amdanynt i randdeiliaid.
Nid ymgynghoriad ysgrifenedig ffurfiol yw’r dull mwyaf priodol bob tro, ac mae dulliau ymgysylltu eraill yn fwy addas ar gyfer ymgysylltu ystyrlon.
Mae’r dulliau ymgysylltu eraill rydym yn eu defnyddio yn cynnwys:
- anfon llythyrau at bartïon â buddiant er mwyn cael eu safbwyntiau
- cyfarfodydd un i un ag unigolion neu grwpiau bach o randdeiliaid
- cyfarfodydd cyhoeddus
- grwpiau ffocws, a rhwydweithiau proffesiynol neu gyhoeddus
- cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau cyfathrebu ar-lein eraill
Rydym yn ystyried anghenion hygyrchedd a gallwn ddarparu'r dogfennau ymgynghori mewn fformatau amgen, megis Braille.
Yn ein dogfennau ymgynghori, ein nod yw:
- defnyddio Saesneg a Chymraeg clir ac osgoi defnyddio jargon lle bynnag y bo modd
- bod yn dryloyw am ba benderfyniadau y gall rhanddeiliaid ddylanwadu arnynt, trwy fod yn glir am gwmpas ein hymgynghoriadau, a’r pwnc rydym yn ceisio safbwyntiau arno
- darparu gwybodaeth glir am sut mae ymateb a chymryd rhan
- darparu asesiad o effaith unrhyw gynigion er mwyn nodi'r manteision, y costau a'r risgiau.
Rydym fel arfer yn gofyn cwestiynau penodol sy'n canolbwyntio ar y prif faterion er mwyn annog rhanddeiliaid i ddarparu tystiolaeth a rhesymau i gefnogi eu safbwyntiau.
Ymateb i ymgynghoriadau
Ein nod yw bod yn hyblyg o ran sut mae ymatebion i ymgynghoriadau’n dod i law, gan gynnwys trwy e-byst a llythyrau, ond hefyd dros y ffôn, neu yn bersonol mewn cyfarfod lle gall rhanddeiliaid nodi’n glir eu bod am i’w safbwyntiau gael eu cofnodi fel rhan o’r broses ymgynghori.
Sut caiff ymatebion eu trin
Ein nod yw cyhoeddi adroddiadau cryno o'r ymatebion ar ein gwefan o fewn tri mis i ddyddiad cau'r ymgynghoriad.
Gallai’r wybodaeth a roddir mewn ymateb i ymgynghoriad yr ASB gael ei chyhoeddi neu ei datgelu i bartïon eraill yn unol â'r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004). Ceir manylion llawn am y ffordd y mae’r ASB yn trin gwybodaeth sy’n dod i law trwy ymgynghoriadau yn yr Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau, a chânt eu cynnwys yn ogystal yn ein hymgynghoriadau.
Nid yw ymatebion i ymgynghoriadau yr ystyrir eu bod yn faleisus neu’n fygythiol a/neu fel arall yn amhriodol yn dderbyniol, gan gynnwys iaith annerbyniol o sarhaus neu ddifrïol. Gellid hepgor ymatebion o’r fath yn eu cyfanrwydd rhag eu hystyried at ddibenion unrhyw broses ymgynghori gan yr ASB, a’u hanfon ymlaen at yr awdurdod priodol i gymryd camau gweithredu pan fyddwn yn ystyried y gallent fod wedi cyflawni trosedd.
Cynllun Iaith Gymraeg
Pan fo'n briodol, rydym yn cynhyrchu ymgynghoriadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg. O ran cyfieithu, mae'r cynllun yn caniatáu eithriadau pan fo'r ddogfen yn dechnegol ei natur neu wedi'i hanelu at gynulleidfa arbenigol neu gyfyngedig. Ni chaiff atodiadau eu cyfieithu, ond caiff crynodebau o ymatebion eu cyfieithu.
Cyrchu ein hymgynghoriadau
Mae ein proses ymgynghori yn dilyn Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa'r Cabinet ac mae'n cydymffurfio â’r Cod Rheoleiddwyr.
Search our recent Consultations
Search our archived Consultations