Ymchwil defnyddwyr ar fyw gyda gorsensitifrwydd i fwyd
Mae gorsensitifrwydd i fwyd yn cynnwys alergeddau, anoddefiadau a chlefyd seliag. Parhewch i ddarllen am wybodaeth os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.
Mae'r ASB yn cynnal darn o ymchwil i archwilio sut mae gorsensitifrwydd i fwyd yn effeithio ar fywydau bob dydd pobl. Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar yr effaith ar eu teuluoedd hefyd.
Mae’r ymchwil hon wedi’i rhannu’n ddwy astudiaeth:
- Yr astudiaeth FOODSENSITIVE – mae'r astudiaeth hon, sydd mewn dwy ran, yn ceisio deall sut mae gorsensitifrwydd i fwyd yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl.
- Yr astudiaeth ‘Gorsensitifrwydd i fwyd: Beth yw’r gost i chi?’ – nod yr astudiaeth hon yw amcangyfrif goblygiadau ariannol byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd.
Mae'r ymchwil yn agored i bobl sy'n byw yng Nghymru, yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban. Bydd yr arolygon hefyd yn cael eu rhannu trwy Allergy UK, yr Ymgyrch Anaffylacsis a Coeliac UK, tra bydd yr astudiaeth FOODSENSITIVE hefyd yn cael ei rhannu drwy Sefydliad Ymchwil Alergeddau Natasha.
Yr astudiaeth FOODSENSITIVE
Bydd yr astudiaeth FOODSENSITIVE yn cynnal dau arolwg ar-lein i gasglu gwybodaeth am sut y gall gorsensitifrwydd i fwyd effeithio ar ansawdd bywyd.
- FOODSENSITIVE – Effaith. Lansiwyd yr arolwg yn 2020, ac fe fydd yn rhedeg eto ddiwedd 2021. Mae'r arolwg yn dal ymddygiadau, agweddau ac ansawdd bywyd oedolion a phlant (rhwng 8 a 17 oed) sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, yn ogystal â rhieni plant sydd â gorsensitifrwydd i fwyd.
- FOODSENSITIVE – Gwerth. Nod yr arolwg unigryw hwn yw nodi cost yr agweddau nad ydynt yn ddiriaethol o fyw gyda gorsensitifrwydd i fwyd. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddewis rhwng gwahanol symptomau sy'n gysylltiedig â gorsensitifrwydd i fwyd a'r pris y byddech chi'n ei dalu i'w hosgoi. Bwriedir i'r gwaith hwn ddod i ben yn 2022.
Prifysgol Aston sy'n arwain yr astudiaeth hon. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolygon hyn, cysylltwch â thîm yr astudiaeth FOODSENSITIVE drwy anfon e-bost at: foodsensitive@aston.ac.uk.
Yr astudiaeth ‘Gorsensitifrwydd i fwyd: Beth yw’r gost i chi?'
Roedd yr arolwg hwn yn casglu gwybodaeth am gostau ariannol byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd. Er enghraifft, cost prynu bwyd heb alergenau, meddyginiaeth, yn ogystal â diwrnodau i ffwrdd o'r gwaith o ganlyniad i reoli'r cyflyrau hyn.
RSM UK Consulting sy'n arwain yr astudiaeth hon, a daeth yr arolwg i ben ym mis Ionawr 2021.
Pam ddylech chi gymryd rhan
Trwy gymryd rhan yn yr astudiaethau hyn, rydych chi’n ein helpu i ddeall sut mae alergeddau bwyd, anoddefiadau bwyd a chlefyd seliag yn effeithio ar bobl ledled y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn ein helpu i bennu ffyrdd gwell o gynorthwyo pobl fel chi i reoli'r cyflyrau hyn yn haws.
Sut rydym ni'n cadw'ch gwybodaeth yn ddiogel
- Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Ni chaiff ei defnyddio at ddibenion masnachol. Caiff y data ei gyhoeddi ar ffurf sy'n golygu na fydd modd eich adnabod o'ch ymatebion.
- Efallai yr hoffem ail-gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil cysylltiedig, ond dim ond os byddwch chi'n rhoi eich caniatâd i wneud hynny pan fyddwn ni’n gofyn i chi yn yr arolwg.
- Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae ein contractwyr ymchwil a'r ASB yn trin ac yn prosesu data personol, yn ogystal â'ch hawliau o dan reoliadau diogelu data i gael mynediad i'ch data personol, tynnu caniatâd yn ôl neu wrthwynebu prosesu eich data personol, gallwch ddarllen yr Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau ymchwil yr ASB.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaethau hyn. Cysylltwch â Katharine.Porter@food.gov.uk neu Nuria Casadevall drwy anfon e-bost at Nuria.Casadevall@food.gov.uk