Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Steve Wearne (ar secondiad)

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 December 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 December 2024
Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Steve Wearne

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Cafodd Steve Wearne ei ethol yn Gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius (CAC), y corff sy’n gosod safonau ansawdd a diogelwch bwyd yn fyd-eang ym mis Tachwedd 2021. Mae ar secondiad o’r ASB.  

Gallwch chi ddarllen tair blaenoriaeth Steve ar gyfer Codex yn ei flog. 

Mae Steve wedi cael nifer o rolau Cyfarwyddwr yn yr ASB. Bu’n Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru rhwng 2007 a 2013 ac yna’n Gyfarwyddwr Polisi a Gwyddoniaeth. Daeth Steve yn Gyfarwyddwr Materion Byd-eang ym mis Medi 2019, rôl a oedd yn ymgorffori ei swydd fel Is-Gadeirydd CAC (etholwyd Gorffennaf 2017). 

Hyfforddodd Steve fel gwyddonydd, gyda gradd mewn biocemeg a chyfnod ymchwil ôl-raddedig mewn bioleg moleciwlar. Ymunodd â’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ym 1990 gan ymgymryd â nifer o swyddi mewn gwyddor bwyd a datblygu polisi bwyd, cyn trosglwyddo i’r ASB pan gafodd ei lansio yn 2000. Ei swydd gyntaf yn yr ASB oedd Pennaeth y Swyddfa Breifat ac Ysgrifennydd Preifat i Gadeirydd cyntaf yr Asiantaeth, Syr John Krebs (yr Arglwydd Krebs erbyn hyn).