Sicrwydd Mynediad i’r Farchnad Fewnforio
Rhaid i unrhyw wlad sy’n dymuno allforio anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (gan gynnwys bwyd) i Brydain Fawr wneud cais am fynediad i’r farchnad a chael cymeradwyaeth gan lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU).
Rhoi cymeradwyaeth i allforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr
Rhaid i unrhyw wlad sy’n dymuno allforio cynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys bwyd) i Brydain Fawr gael cymeradwyaeth i wneud hynny yn gyntaf gan lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU). Dim ond awdurdodau cymwys (nid busnesau bwyd na chyrff masnach) sy’n gallu gwneud cais am gymeradwyaeth i allforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr.
Er mwyn mewnforio cynhyrchion anifeiliaid i Brydain Fawr, rhaid bodloni amodau diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd penodol (mae angen bodloni amodau eraill, er enghraifft mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid):
- Rhaid i’r wlad sy’n allforio fod â system rheoli diogelwch bwyd genedlaethol effeithiol ar waith i sicrhau bod allforion i Brydain Fawr yn cael eu cynhyrchu i’n safonau ni, a’u bod wedi’u hasesu a’u cymeradwyo gan Brydain Fawr.
- Rhaid i’r wlad sy’n allforio fod â chynllun rheoli gweddillion ar waith sydd wedi’i asesu a’i gymeradwyo gan Brydain Fawr.
- Unwaith y bydd gwlad wedi’i chymeradwyo, rhaid i unrhyw sefydliad sy’n dymuno allforio gael ei gymeradwyo gan awdurdod cymwys y wlad honno.
I wneud cais am gymeradwyaeth mynediad i’r farchnad, neu i ddiwygio’r gymeradwyaeth, rhaid i awdurdodau cymwys yn gyntaf anfon e-bost i Defra yn ukassurance@defra.gov.uk.
Dull traws-lywodraethol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw awdurdod cymwys canolog y DU ar gyfer masnachu cynhyrchion bwyd-amaeth. Swyddfa’r DU sy’n gyfrifol am gydlynu asesiadau mynediad i’r farchnad ar draws y llywodraeth.
Rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Mae’r ASB yn sicrhau bod diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol yn y broses o wneud penderfyniadau trawslywodraethol ynghylch mynediad i’r farchnad. Mae hyn er mwyn sicrhau bod bwyd wedi’i fewnforio yn parhau i fod yn ddiogel, bod defnyddwyr yn hyderus bod y bwyd y maent yn ei brynu’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Sefydlodd yr ASB ddau dîm (Sicrwydd Mynediad i’r Farchnad Fewnforio ac Archwilio a Sicrwydd Masnach Ryngwladol), gan dynnu ar arbenigedd o bob rhan o’r ASB, i weithio gyda Defra. Mae’r ASB yn gwerthuso ceisiadau mynediad i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid mewn perthynas â risgiau i iechyd y cyhoedd (Defra sy’n asesu risgiau i iechyd anifeiliaid). Mae’r ASB yn gwneud hyn er mwyn rhoi sicrwydd bod systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol priodol ar waith gan unrhyw wlad sy’n gwneud cais am fynediad i’r farchnad er mwyn allforio bwyd i Brydain Fawr, a bod y rheolaethau hyn yn cael eu cymhwyso’n briodol. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod bwyd sy’n cael ei allforio o wledydd eraill yn bodloni safonau diogelwch bwyd cadarn Prydain Fawr.
Mae’r ASB hefyd yn monitro gwledydd sydd eisoes wedi’u hawdurdodi i allforio bwyd i Brydain Fawr ar gyfer arwyddion o broblemau posib gyda’u systemau rheoli diogelwch bwyd cenedlaethol, a bydd yn gweithredu lle bo’n briodol.
Y broses asesu
Mae proses drawslywodraethol gadarn ar waith i asesu ceisiadau mynediad i’r farchnad gan bartneriaid masnachu. Lle bo angen, mae’n bosib y cynhelir archwiliad dilysu yn y wlad i gadarnhau bod systemau rheoleiddio a sicrwydd iechydol a ffytoiechydol gwlad allforio’n cael eu gweithredu’n effeithiol.
Ar ôl cwblhau’r asesiad mynediad i’r farchnad, mae Defra yn cyhoeddi’r adroddiad archwilio terfynol ar GOV.UK. Mae’r adroddiad yn cynnwys y sylwadau a wnaed yn ystod yr archwiliad dilysu yn y wlad, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu a argymhellir i’r wlad sy’n gwneud cais. Mae ymateb y wlad sy’n gwneud cais hefyd yn cael ei gyhoeddi, gyda manylion unrhyw gamau unioni neu ataliol i’w cymryd yn dilyn yr archwiliad.
Yn dilyn canlyniad yr archwiliad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gamau unioni neu ataliol sydd wedi’u cynllunio gan y wlad allforio, ystyrir penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu mynediad i’r farchnad.
Argymhellion yr ASB i Defra o ran mynediad i’r farchnad
Mae’r ASB yn darparu argymhellion ysgrifenedig ar gymeradwyo mynediad i'r farchnad i Defra ar gyfer ein meysydd cymhwysedd (diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd) er mwyn bwydo i mewn i’r broses drawslywodraethol o wneud penderfyniadau ac i gynnig gwledydd ar gyfer archwiliadau ar sail risg. Bydd argymhellion yr ASB i Defra yn cael eu cyhoeddi isod.
Argymhellion i Defra
Mehefin 2023
Argymhelliad yr ASB ar reolaethau mewnforio ar gig eidion a dofednod a chynhyrchion cig o Frasil, sy’n cytuno â’r penderfyniad i gael gwared ar reolaethau mewnforio uwch ar gig eidion a dofednod o Frasil ac i ddileu’r cyfyngiad ar Frasil i restru sefydliadau dofednod a chig eidion i’w hallforio i Brydain Fawr.
Argymhellion yr ASB i Swyddfa’r DU ar gynnal archwiliad
Fel rhan o’i gweithgareddau parhaus o ran monitro sicrwydd diogelwch bwyd, gall yr ASB gynnig i Swyddfa’r DU y dylid cynnal archwiliad o’r systemau rheoli diogelwch bwyd mewn gwledydd sydd eisoes yn allforio i’r DU. Mae argymhellion yr ASB i Swyddfa’r DU i’w gweld isod.
Argymhellion i Swyddfa’r DU
Ebrill 2023
Argymhelliad yr ASB ar archwilio system Gwlad Pwyl ar gyfer rheolaethau diogelwch bwyd, er mwyn asesu’r modd y caiff Salmonela ei ganfod a’i reoli mewn cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod sy’n cael eu hallforio o Wlad Pwyl i’r DU
Mai 2023
Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yn Türkiye a dulliau rheoli plaladdwyr mewn cynhyrchion bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid (FNAO) sy'n cyrraedd Prydain Fawr o Türkiye.
Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yn Tsieina ar gyfer bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid (FNAO) a bwyd sy'n dod o anifeiliaid (POAO) sydd wedi'u bwriadu i'w hallforio i Brydain Fawr o Türkiye.
Hanes diwygio
Published: 31 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2024