Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau

Dull y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau tuag at foderneiddio’r ffordd y mae busnesau bwyd yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac awdurdodau lleol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 September 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae’r maes bwyd wedi newid yn sylweddol yn ystod y tri degawd ers cyflwyno’r system reoleiddio gyfredol. Er bod rheoleiddio wedi parhau i ddatblygu, nid yw wedi llwyddo i aros yn gyfoes â’r newidiadau sylweddol yn y diwydiant bwyd.

Heddiw, mae 95% o’n nwyddau yn dod o 10 archfarchnad fawr. Mae gwerthu bwyd ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol, gyda gwerthiant bwyd ar-lein bron â dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ogystal, mae mwy o ddata ar gael i fusnesau. 

Ar gyfer rhai rhannau o’r sector bwyd, efallai y bydd ffyrdd mwy effeithiol o sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheolau na’n model rheoleiddio cyfredol, sy’n seiliedig yn helaeth ar awdurdodau lleol yn arolygu wyneb yn wyneb ac yn rheolaidd mewn safleoedd busnesau bwyd.

Sefydlwyd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau ym mis Ionawr 2020 i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i gael bwyd y gallant ymddiried ynddo yn y dyfodol.

Bydd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn datblygu set o ddulliau rheoleiddio gwell, a fydd yn: 

  • ei gwneud yn haws i fusnesau ddarparu bwyd diogel y gellir ymddiried ynddo i ddefnyddwyr 
  • targedu adnoddau rheoleiddio yn y meysydd sy’n peri’r risg fwyaf 
  • gwella cydymffurfiaeth ar draws y system trwy weithio gydag eraill a thrwy eraill, gan gynnwys partneriaid rheoleiddio a busnesau dylanwadol 

Meysydd gwaith ar gyfer y rhaglen

Mae tair prif ffrwd waith yn y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau: 

Moderneiddio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn mynd ati i reoleiddio

Nod y ffrwd waith hon yw newid y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau ar safonau bwyd a hylendid bwyd, fel y gallant ganolbwyntio eu hamser a’u harbenigedd lle mae’n ychwanegu’r gwerth mwyaf ac yn diogelu defnyddwyr orau. 

Rydym yn datblygu dulliau newydd a fydd yn gwerthuso lefel y risg a berir gan fusnes bwyd unigol yn well, ac a fydd yn targedu’r adnoddau sydd ar gael i’r meysydd sy’n peri’r risg fwyaf yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Rydym ni am sicrhau bod gweithgaredd rheoleiddio yn canolbwyntio ar fusnesau sy’n methu â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan gyfraith bwyd ac yn cydnabod y busnesau sy’n ymdrechu i sicrhau cydymffurfiaeth.

Rydym yn cynnal ymchwil i ddeall yn well rai o’r heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu a sut y gallwn fynd i’r afael â’r rhain drwy’r rhaglen. 

Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn helaeth yn ystod y broses hon ac yn defnyddio’u hadborth gwerthfawr a’u safbwyntiau i helpu i lunio’r dull hwn. 

Profi dulliau newydd o reoleiddio 

Mae’r ffrwd waith hon yn cynnwys prosiectau sydd â’r nod o brofi dulliau newydd posib y gellid eu defnyddio wrth reoleiddio yn y dyfodol, neu hybu cydymffurfiaeth ar draws y system.  

Mae’r prosiectau yn y ffrwd waith hon yn cynnwys Dulliau Rheoleiddio ar Lefel Menter a datblygu’r Siarter Diogelwch Bwyd Agregwyr.  
    
Dulliau rheoleiddio ar lefel menter – Byddwn yn profi modelau rheoleiddio newydd posib ar gyfer rhai busnesau mawr sy’n cydymffurfio â rheolaethau ac sy’n ddylanwadol yn y gadwyn fwyd.

Gan ddechrau gyda’r archfarchnadoedd mawr, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phrif awdurdodau i ddatblygu dull arloesol sy’n rheoleiddio’r busnes cyfan fel un, yn hytrach nag fel busnesau bach ar draws sawl safle.

Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pa fanteision y gellid eu cael, fel lleihau nifer yr arolygiadau dyblyg a gynhelir  wrth barhau i ddiogelu defnyddwyr.
 
Gwerthu bwyd ar-lein – Mae prynu bwyd ar-lein bellach yn rhan sefydledig o’r system fwyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd ar-lein a llwyfannau digidol eraill. Rhaid i’r ffordd yr ydym yn rheoleiddio busnesau bwyd ddatblygu ac addasu i’r amgylchedd hwn sy’n newid yn gyflym.

Felly, nid un model sicrwydd i bawb, sy’n seiliedig ar arolygiad wyneb yn wyneb a rheolaidd o sefydliadau busnesau bwyd, yw’r ffordd fwyaf effeithiol bellach o ddiogelu defnyddwyr. Bydd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn archwilio pa fath o ddulliau rheoleiddio fydd fwyaf addas ar gyfer gwahanol fathau o fusnesau bwyd ar-lein, a sut y gallwn weithio gyda phrif lwyfannau i ddylanwadu’n gadarnhaol ar gydymffurfiaeth a gwella diogelwch defnyddwyr.

Mae hyn yn cynnwys tynnu ar wybodaeth a phrofiad uniongyrchol y diwydiant o ran sut mae eu sefyllfa weithredol yn addasu ac yn tyfu. Bydd hyn yn llywio ein penderfyniadau a’n hargymhellion i sicrhau bod rheoleiddio’n parhau i fod yn berthnasol. 

Dylunio’r glasbrint ar gyfer y system sicrwydd rheoleiddio yn y dyfodol

Rydym yn cynnal darn o waith polisi ar y system reoleiddio yn y dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhywfaint o fapio manwl o’r system bresennol i nodi lle y gellid profi gwahanol ddulliau neu i amlygu cyfleoedd ar gyfer newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol. 

Cyflwyno’r rhaglen

Mae’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn rhaglen waith hirdymor, ystwyth yr ydym yn disgwyl cymryd tua phum mlynedd i’w chyflawni.

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau a phartneriaid eraill i ddeall y maes bwyd cyfredol ac i sicrhau bod dulliau rheoleiddio newydd posib yn cael eu profi a’u hymgorffori’n ofalus dros amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.

Rheoleiddio ar Lefel Menter (ELR) Prawf o Gysyniad (PoC) – Adroddiad Gwerthuso

Nid yw modelau sicrwydd i asesu cydymffurfiaeth reoleiddiol wedi cadw i fyny gyda newidiadau sylweddol (wedi’u ysgogi gan amryfal ffactorau) ar draws y diwydiant bwyd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r system gyfan wedi profi ysgytwadau a tharfu sylweddol, ac mae’r pwysau ar adnoddau rheoleiddio wedi cynyddu. Ar yr un pryd, mae nifer y gweithwyr proffesiynol sydd ar gael i ddarparu’r  gyfundrefn reoleiddio wedi bod yn gostwng.  

Ein nod yw sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i gael bwyd y gallant ymddiried ynddo yn y dyfodol. Felly, mewn system fwyd sy’n esblygu’n gyflym, mae angen i ni reoleiddio mewn ffordd gallach er mwyn gwneud yn siŵr bod bwyd yn ddigel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae angen datblygu cyfres o ddulliau rheoleiddio a fydd yn gwneud y canlynol:   

  • Targedu’r adnoddau sydd ar gael at feysydd sy’n peri’r risg fwyaf 
  • Gwella cydymffurfiaeth ar draws y system drwy weithio gyda a thrwy eraill 
  • Ei gwneud yn haws i fusnesau ddarparu bwyd diogel y gellid ymddiried ynddo i ddefnyddwyr 

Er mwyn datblygu model cynaliadwy yn y dyfodol, mae’n hanfodol profi unrhyw ddulliau rheoleiddio arfaethedig newydd, er mwyn deall y risgiau a’r manteision, a deall unrhyw ganlyniadau anfwriadol. 

Bu’r treial Prawf o Gysyniad mawr, a gafodd ei gynnal rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, yn fodd i ni brofi hyn mewn ffordd ddiogel (ochr yn ochr â’r drefn reoleiddio bresennol) a wnaeth leihau’r risgiau cymaint â phosib. Roedd y ffocws wedi symud yn sylweddol o wiriadau cydymffurfio ar lefel y safle. Gan ddefnyddio data rheoli diogelwch bwyd i asesu hyder yn eu system, a sicrhau cyfymffurfiaeth yn y pen draw.

Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o’r treial a lluniwyd yr adroddiad isod. 

Cynnwys cysylltiedig

Papur bwrdd yr ASB – Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (Mawrth 2023)

Papur bwrdd yr ASB – Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (Medi 2022)

Aide Memoire Hyfforddiant ar gyfer cynefino agregwyr