Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rachel Cooper a Beth Chaudhary, Cyfarwyddwyr Strategaeth

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 February 2025
Rachel Cooper and Beth Chaudhary

Ymunodd Rachel Cooper a Beth Chaudhary â’r ASB ym mis Mawrth 2025.

Mae Rachel Cooper a Beth Chaudhary wedi gweithio ar sail rhannu swydd ers sawl blwyddyn, ar ôl gweithio gyda’i gilydd yn gynharach yn eu gyrfaoedd. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, maent wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Strategaeth yn y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol lle buont yn goruchwylio’r gwaith o greu prentisiaethau a chymwysterau technegol ar y cyd â chyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o’r economi, gan ganolbwyntio ar wella sgiliau, gwella cynhwysiant a sbarduno arloesedd.

Cyn hynny, Beth a Rachel oedd y Cyfarwyddwyr Strategaeth yn Swyddfa’r Cabinet, gan gefnogi gweinidogion a’r Ysgrifennydd Parhaol i gyflawni eu blaenoriaethau, a chyn hynny roeddent yn Brif Ysgrifennydd Preifat i John Manzoni, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Sifil. Y tro cyntaf iddynt weithio gyda’i gilydd, roeddent yn gweithio ar bolisi ynni a newid yn yr hinsawdd, gan helpu i osod uchelgais y llywodraeth ar gyfer rhwydwaith trydan clyfar a dyfodol carbon isel, a chyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni a chymorth pris ar gyfer aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Mae pob un o’u rolau wedi golygu gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr mewn gwahanol sectorau ac wedi mynnu dealltwriaeth fanwl o’r fframweithiau deddfwriaethol sylfaenol.

Ymunodd Rachel â’r gwasanaeth sifil yn wreiddiol ar y llwybr gyrfa gwyddoniaeth a pheirianneg, ar ôl gwneud doethuriaeth ym maes Daeareg. Gweithiodd hi ar yr opsiynau i baratoi’r sector trydan ar gyfer Dal a Storio Carbon, gan gynnwys trwy ddiwygio polisi cynllunio, cyn symud ymlaen i weithio ar strategaeth effeithlonrwydd ynni cartrefi.

Roedd gyrfa gynharach Beth yn cynnwys gweithio ar wres adnewyddadwy, negodi cyfraniad y DU i becyn Hinsawdd ac Ynni’r UE yn yr Ysgrifenyddiaeth Ewropeaidd, a chyfnod gyda Llywodraeth Ffrainc. Dechreuodd ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil yn Defra, ym maes iechyd a lles anifeiliaid.