Mark Rolfe – Aelod o Fwrdd yr ASB
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Ymarferwr Safonau Masnach Siartredig yw Mark. Cyn dechrau yn ei swydd bresennol, treuliodd dros 30 mlynedd yn y proffesiwn hwn gan darparu ac arwain y gwasanaeth yng Nghaint (Kent).
Yn 2024, dechreuodd Mark ei rôl fel Pennaeth Gwarchod y Gymuned yng Nghyngor Caint, gyda chyfrifoldeb dros Ddiogelwch yn y Gymuned, Crwneriaid, Gwasanaethau Gwyddonol a Safonau Masnach.
Yn ystod ei yrfa mae Mark wedi bod yn ymwneud â darparu gwasanaethau safonau bwyd ac ymchwilio i dwyll defnyddwyr. Gwasanaethodd Mark ar y Grŵp Tasg Cenedlaethol ar gyfer Safonau Masnach Cenedlaethol ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Safonau Masnach South East Ltd., sefydliad partneriaeth Gwasanaethau Safonau Masnach yn rhanbarth de-ddwyrain Lloegr. Yn ogystal â bod yn aelod o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, mae Mark hefyd yn aelod cyswllt o Gymdeithas y Dadansoddwyr Cyhoeddus.
Roedd Mark wedi gwasanaethu ar Gyngor Gwyddoniaeth yr ASB yn 2017 fel yr aelod sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr a dinasyddion.
Y tu allan i’r gwaith, mae Mark yn briod â Jane, sy’n Bennaeth ysgol, ac mae ganddo dri o blant sydd wedi tyfu bellach. Mae’n aelod o Fwrdd y Llywodraethwyr mewn ysgol uwchradd fawr.
Buddiannau Personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Pennaeth Gwarchod y Gymuned, Cyngor Caint, gyda chyfrifoldeb dros Ddiogelwch yn y Gymuned, Crwneriaid, Gwasanaethau Gwyddonol a Safonau Masnach
- Ymarferydd Safonau Masnach Siartredig
Rolau heb dâl
- Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Ramadeg Maidstone
Gwaith am ffi
- Dim
Cyfranddaliadau
- Dim
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig
- Aelod Cyswllt o Gymdeithas y Dadansoddwyr Cyhoeddus
Buddiannau personol eraill
- Dim
Cymrodoriaethau
- Dim
Cefnogaeth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn bersonol
- Dim
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Chwefror 2025