Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddio

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Katie Pettifer

Mae Katie yn gyfrifol am strategaeth gyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), ac mae hi hefyd yn goruchwylio timau cyfreithiol, cyfathrebu, llywodraethu a chyflawni prosiectau’r ASB. Mae’n arwain gwaith cydymffurfio rheoleiddiol yr ASB, gan weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r gyfraith ar safonau a diogelwch bwyd, a datblygu dulliau newydd ar gyfer y dyfodol drwy Raglen ‘Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’ yr ASB.

Ymunodd Katie â’r ASB ym mis Gorffennaf Medi 2021. Cyn hynny, hi oedd y Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus yn Ofcom, lle bu ganddi ran  fawr wrth lunio gwaith Ofcom ar faterion fel gwella cwmpas ffonau symudol a band llydan ar draws y DU, a gweithio gyda’r Llywodraeth ar reoleiddiadau newydd i ddiogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein. Fe wnaeth hi hefyd noddi strategaeth cynhwysiant ac amrywiaeth Ofcom. Cyn hynny treuliodd ddau ddegawd yn y Gwasanaeth Sifil, a daliodd ystod o rolau yn yr Uwch Wasanaeth Sifil yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Swyddfa’r Cabinet, a Swyddfa Gogledd Iwerddon.