Julie Pierce, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Gwyddoniaeth
Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae Julie yn gyfrifol am wyddoniaeth, tystiolaeth, ymchwil, rheoli gwybodaeth, data, datrysiadau digidol a thechnoleg. Mae hi'n aelod o Dîm Rheoli Gweithredol yr ASB.
Ymunodd Julie â'r ASB ym mis Medi 2015. Yn flaenorol, hi oedd Prif Swyddog Gwybodaeth Defra a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol gynt (yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion erbyn hyn). Yn y rolau hyn, mae hi wedi ysgogi atebion digidol newydd i broblemau busnes, ailstrwythuro a datblygu’r sefydliad, a lansio menter data agored newydd.
Mae Julie wedi treulio nifer o flynyddoedd yn ymgynghori ac yn arwain ar raglenni newid yn seiliedig ar dechnoleg gwybodaeth, a hynny ar gyfer y llywodraeth ganolog a’r sector preifat. Treuliodd dros 10 mlynedd yn gweithio i PricewaterhouseCoopers, a chafodd ei gwneud yn bartner yn 2002. Roedd ei phrosiectau’n amrywio o wasanaethau ariannol i gynnal a chadw awyrennau, o Warsaw i Malta. Fodd bynnag, dechreuodd ar ei bywyd proffesiynol fel eigionegydd (oceanographer) i Hunting Surveys yn gweithio yn y maes chwilio am olew. Yna, ymunodd Julie â Logica i fanteisio’n llawn ar ddelweddau lloeren mewn rhyfela gwrth-danforol ar gyfer Morlys y Deyrnas Unedig.
Mae wedi dangos diddordeb parhaus yn y ffordd y caiff gwyddoniaeth a thechnolegau newydd eu rhoi ar waith yn ystod ei gyrfa.