Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd cofrestru busnesau bwyd

Gwybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd Cofrestru Busnesau Bwyd, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth bersonol fydd yn cael ei chasglu?

Gall data personol a gesglir fel rhan o'r Gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd gynnwys:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad
  • cyfeiriad e-bost
  • enw busnes
  • cyfeiriad busnes
  • rhif ffôn

Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon at ddibenion cyflawni ein rhwymedigaethau statudol, o dan Erthygl 113 o Reoliad Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625, ac fel a ddargedwir (retained) yng nghyfraith y Deyrnas Unedig (DU), ar reolaethau swyddogol i sicrhau bod manylion busnesau bwyd ar gael i bobl sy’n holi am statws cofrestru/cymeradwyo gweithredwyr busnesau bwyd.

Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom.

Efallai y byddwn am gysylltu â chi i’ch gwahodd i roi adborth ar y gwasanaeth. Dim ond gyda’ch caniatâd y byddwn ni’n gwneud hyn.  

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym yn ei ddefnyddio

Mae manylion sefydliadau bwyd cymeradwy i’w gweld ar wefan yr ASB. Mae’r rhestr o sefydliadau busnesau bwyd cofrestredig yn cael ei chyhoeddi gan yr awdurdod lleol perthnasol.

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi’r wybodaeth hon ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth rydym ni wedi’i chael o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol sydd gennym ni o dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Pan fyddwch yn darparu eich cyfeiriad e-bost ar y ffurflen adborth yn ystod eich cofrestriad neu’n cytuno i ni gysylltu â chi i roi adborth ar y gwasanaeth ar ddiwedd y broses gofrestru, gall yr ASB, neu un o’n partneriaid ymchwil sy’n gweithio ar ein rhan, gysylltu â chi at y pwrpas hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â registration@food.gov.uk.

Sut a ble rydym yn storio’ch data a chyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi’i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel gweithredwr busnes bwyd. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu rai wedi’u cymeradwyo am 10 blynedd.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu hynny. Yn unol â’r ymrwymiad hwn, caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo i’r awdurdod lleol perthnasol sydd â chyfrifoldeb dros arolygu busnesau bwyd. Weithiau bydd yr ASB yn rhannu data gydag adrannau eraill o’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, a chyda’r rhain a sefydliadau ac unigolion preifat eraill, fel gweithredwyr busnesau bwyd, pan fydd er budd y cyhoedd. Efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu’r data fel rhan o waith gwerthuso a dadansoddi risg gyda chyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill, fel Safonau Masnach ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, am yr un rhesymau.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym yn storio’ch data a chyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i’r adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)  

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau 

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.