Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Rhwydwaith Rhannu’r ASB
Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd Rhwydwaith Rhannu’r ASB.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.
Pwrpas prosesu a’r sail gyfreithiol dros brosesu
Mae angen i ni gasglu eich data personol at ddiben cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda chi mewn perthynas â chynnal a monitro rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid. Mae angen i ni hefyd gasglu eich data personol at ddiben cysylltu â chi mewn perthynas ag ymgynghoriadau, polisïau, digwyddiadau bwyd a digwyddiadau a gynhelir gan yr ASB sy’n berthnasol i chi. Caiff manylion cyswllt swyddogion awdurdodau lleol hefyd eu cynnwys yn y Chyfeiriadur Awdurdodau Lleol, sydd at ddefnydd yr ASB ac awdurdodau lleol yn unig.
Sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu
Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw tra byddwch yn ddefnyddiwr gweithredol, a dim mwy na 12 mis ar ôl i chi fewngofnodi ddiwethaf. Byddwn yn eich atgoffa pan fydd eich cyfrif ar fin cael ei ddileu oherwydd anweithgarwch. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni nad ydych am gael mynediad i Rwydwaith Rhannu’r ASB mwyach, byddwn yn dileu eich gwybodaeth ar unwaith.
Weithiau, bydd yr ASB yn rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd hynny er budd y cyhoedd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mawrth 2025