Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Ein polisi preifatrwydd ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.
Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu
Mae angen i ni gasglu eich data personol at ddibenion sifftio ceisiadau a llunio cronfa ddata o arbenigwyr ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr yr ASB.
Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol nad yw’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract yr ydych yn rhan ohono, nac er mwyn cymryd y camau angenrheidiol cyn ymrwymo i gontract gyda’r ASB, gan gynnwys sifftio a dewis ceisiadau, ac unrhyw wiriadau angenrheidiol o ran cadarnhau pwy ydych chi, diogelwch neu eich hawl i weithio.
Pan fyddwn ni’n prosesu eich data categori arbennig – fel data sy’n ymwneud â monitro cyfle cyfartal – rydym ni’n gwneud hynny i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cyflogi ac er budd sylweddol y cyhoedd yn unol â’n Polisïau Diogelu Data ac Adnoddau Dynol.
Beth sydd ei angen arnom ni a sut rydym ni'n ei ddefnyddio
Cronfa ddata fewnol yw’r Gofrestr o Arbenigwyr y gall staff yr ASB ddethol arbenigwyr ohoni ar gyfer darnau penodol o waith. Bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at gronfeydd data rheoli prosiectau mewnol yr ASB.
Fel arbenigwr yn eich maes, byddwn ni’n comisiynu darnau byr o waith ad-hoc gennych chi o dan gontract i ddarparu gwasanaethau gwyddonol a thechnegol.
Os ydych chi am fod ar y Gofrestr a chael eich contractio am waith ad-hoc, gallai methu â darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani arwain at oedi neu i’r ASB fethu â phrosesu eich gwybodaeth at y dibenion hyn.
Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu
Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.
Gellir trosglwyddo’ch cais i unigolion arbenigol nad ydynt nhw o bosib wedi’u cyflogi gan yr ASB, a hynny at ddibenion sifftio a dewis ymgeiswyr i fynd ar y Gofrestr.
Yn unol â’r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo eich gwybodaeth i adrannau eraill y Llywodraeth ac i Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB er mwyn nodi bylchau yn y meysydd arbenigedd. Dyma restr o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB:
- Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF)
- Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid (ACAF)
- Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Gymdeithasol (ACSS)
- Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP)
- Pwyllgor ar Wenwyndra (COT)
- Pwyllgor ar Garsinogenigrwydd (COC)
- Pwyllgor ar Fwtagenedd (COM)
- Cyngor Gwyddoniaeth yr ASB
Ni fydd eich data monitro cyfle cyfartal, na data sy’n ymwneud â’ch gwiriadau adnabod a’ch data bancio, yn cael eu rhannu at y dibenion hyn.
I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Trosglwyddiadau rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)
I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Eich hawliau
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.
Hanes diwygio
Published: 2 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Awst 2021