Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Grŵp Llywio Sgoriau Hylendid Bwyd

Cafodd Grŵp Llywio Sgoriau Hylendid Bwyd y DU ei sefydlu i roi cyngor ac arweiniad wrth ddatblygu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gyflwynwyd yn 2010.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 January 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 January 2025

Mae’r Grŵp Llywio yn cwrdd i roi cyngor ar weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, gan ganolbwyntio ar hwyluso a hyrwyddo cysondeb wrth weithredu’r cynllun ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Caiff y Grŵp ei gadeirio’n annibynnol ac mae aelodau’r Grŵp yn cynnwys defnyddwyr, cynrychiolwyr o’r diwydiant bwyd ac awdurdodau lleol yn ogystal â swyddogion o’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Adran Busnes a Masnach. Mae’r Grŵp yn cwrdd yn flynyddol ar hyn o bryd.

Cofnodion ac agenda cyfarfod y Grŵp Llywio Sgoriau Hylendid Bwyd, Medi 2024

Sylwer bod cofnodion ac agenda’r Grŵp ar gael yn Saesneg yn unig