Fiona Gately – Aelod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae gan Fiona Gately brofiad helaeth yn y diwydiant bwyd, gan weithio ar draws y sector i sefydliadau’r llywodraeth, busnesau a chyrff eiriolaeth.
Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol ar fwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac wedi gwasanaethu ar ei Phwyllgor Cynghori ar Safonau Organig rhwng 2003 a 2005. Rhwng 2004 a 2011, bu’n cyfarwyddo ymgyrchoedd Jamie Oliver ar ginio ysgol, sgiliau coginio a gordewdra yn y DU a’r UDA, gan arwain gwaith ymgysylltu â defnyddwyr, rhanddeiliaid a’r llywodraeth. Yn 2005, sefydlodd School Food Trust ar gyfer yr Adran Addysg i gyflwyno safonau a chanllawiau newydd ar gyfer prydau ysgol. Gwasanaethodd ar y Bwrdd rhwng 2009 a 2011.
Sefydlodd Fiona ystod o gynnyrch arobryn ar gyfer Duchy Originals, brand bwyd y Brenin Charles, gan sefydlu cadwyni cyflenwi a phartneriaethau gweithgynhyrchu a chodi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fwyd organig. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio fel pennaeth marchnata gyda chwmni llaeth organig cydweithredol y DU, Omsco.
Buddiannau Personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Perchennog a chyfarwyddwr ymgynghoriaeth fusnes, Nourish Communication Ltd
- Ymgynghorydd, Rothschild Foundation
Rolau Di-dâl
- Cyfarwyddwr, 75/77 Kensington Gardens Square Ltd
- Aelod Sefydlol, Pwyllgor Llywio, Rhwydwaith Addysg Bwyd
Gwaith â thâl
- Dim
Cyfranddaliadau
- Perchennog, Nourish Communication Ltd.
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Hong Kong
- Aelod o Glwb Nofio’r Serpentine
Buddiannau personol eraill
- Dim
Cymrodoriaethau
- Cymrawd yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
Cymorth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mawrth 2025