Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dr Ruth Hussey CB, OBE, DL - Dirprwy Gadeirydd Bwrdd yr ASB

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Dr Ruth Hussey

Bu i Ruth ymddeol fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016.

Yn yr amser hwnnw, cefnogodd bolisi ar:

  • iechyd y cyhoedd
  • ansawdd a diogelwch
  • gofal sylfaenol 
  • ymchwil a datblygiad 
  • strategaeth iechyd gyda ffocws ar ofal iechyd darbodus

Cafodd ei geni a'i magu yng Ngogledd Cymru, a datblygodd ei gyrfa yn Lloegr. Bu'n hyfforddi fel meddyg teulu yn wreiddiol. Gweithiodd yn y byd academaidd, fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Lerpwl i ddechrau ac yna mewn swyddi strategol yng ngogledd orllewin Lloegr ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Adran Iechyd. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roedd yn rhan o Dîm Pontio Iechyd y Cyhoedd yn yr Adran Iechyd, Whitehall.

Bu Ruth yn cadeirio Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac roedd hi'n Gomisiynydd ar Gomisiwn Lancet/LSE ar 'Ddyfodol y GIG’. 

Mae hi wedi bod yn Ddirprwy Gadeirydd yr ASB ers 1 Gorffennaf 2020 a chafodd ei phenodi fel y Cadeirydd Dros Dro o 1 Chwefror i 30 Mehefin 2021.

Mae hi hefyd yn Gadeirydd ar gyfer Bwrdd Cynghori Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Mae Ruth yn Gymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ac yn Gymrawd anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae hi'n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Lerpwl ac mae hi wedi cael gwobrau gan Brifysgolion eraill yng Nghymru a Lloegr. Daeth yn Llywodraethwr y Sefydliad Iechyd ym mis Chwefror 2018 ac mae'n aelod o Grŵp Cynghori Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Ruth yw Cadeirydd Bwrdd Cynghori Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae hi'n Ddirprwy Lefftenant Glannau Mersi.

Mae ei diddordeb o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chynnwys cymunedau yn eu hiechyd a'u lles wedi bod yn sail i'w gwaith.

Buddiannau Personol

  • Rôl broffesiynol ym maes Iechyd y Cyhoedd – Mae Ruth ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol 
  • Mae ei modryb a'i chefndryd yn ffermio yn y gogledd

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Darlithio a gwasanaethau cynghori proffesiynol - gweithgareddau ad hoc

Rolau heb dâl: 

  • Cadeirydd Bwrdd Cynghori, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
  • Aelod o Grŵp Cynghori, Canolfan Cymru ar gyfer Polisi Cyhoeddus
  • Aelod o Grŵp Cynghori Rhaglenni, Canolfan y Deyrnas Unedig ar gyfer tystiolaeth ymchwil mewn Gofal Cymdeithasol (ESRC a'r Sefydliad Iechyd)
  • Aelod, Grŵp Cynghori Gwyddonol, ARC NENC, Newcastle
  • Cadeirydd, Grŵp Llywio Astudiaeth Ymchwil NIHR – Cyfrifo am angen sydd heb ei ddiwallu o ran dyrannu adnoddau yn deg
  • Cadeirydd, Bwrdd Cynghori Annibynnol PHIRST Caerdydd a Bryste
  • Aelod, Grŵp Cynghori Gwerth mewn Iechyd, GIG Cymru 
  • Aelod, Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd y DU, Bwrdd Cynghori Allanol ers Ebrill 2022
  • Aelod, Comisiwn Annibynnol ar Bwerau Argyfwng Iechyd Cyhoeddus y DU.

Gwaith am ffi:

  • Dim ar hyn o bryd - Wedi ymgymryd â gwaith a oedd yn ymwneud â COVID-19 ar gyfer MHCLG yn 2020 a phrosiect yng Ngogledd Iwerddon.

Cyfranddaliadau

  • Ymddiriedolaethau Uned yn unig

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Sefydliad Coleg Lerpwl – Aelod
  • Cymdeithas y Cerddwyr (Ramblers Cymru) - Aelod
  • RHS – Aelod
  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Aelod
  • Cymdeithas Rhandir Harthill
  • Cydweithredu anffurfiol â gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd (rhwydwaith Harnessing Health)
  • Aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
  • Aelod o The Athenaeum

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Swyddi academaidd anrhydeddus mewn nifer o brifysgolion (Metropolitan Manceinion, John Moore Lerpwl, Lerpwl, Abertawe a Bangor)
  • Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon, a Chyfadran Iechyd y Cyhoedd
  • Aelod Anrhydeddus o'r Orsedd, Cymru (Gwisg lâs am wasanaeth i'r genedl)

Cymorth anuniogyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Llywodraethwr, Y Sefydliad Iechyd
  • Ymddiriedolwr, The Reader Organisation

Tir ac eiddo

  • Mae ei modryb a'i chefndryd yn ffermio yn y gogledd 
  • Yn berchen ar ei chartref ei hun yn Lerpwl

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dirprwy Lefftenant Glannau Mersi

  •  

    Uchel Siryf Glannau Mersi 23-24

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim