Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dr Rhian Hayward MBE – Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd ac yn rhoi manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 February 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 February 2024
Rhian Hayward

Ymunodd Rhian ag AberInnovation fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2017, gan arwain y gwaith o adeiladu’r Campws Arloesedd gwerth £40.5 miliwn a’r mentrau sy’n cefnogi twf busnesau biowyddoniaeth cyfnod cynnar.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae Rhian wedi bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y DU, wedi gweithio mewn swyddi cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethu ar Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac wedi dod yn un o Gymrodorion Sefydliad y Cyfarwyddwr.

Mae ymrwymiad Rhian i wyddoniaeth ac arloesi yn parhau, ar ôl sawl rôl ym maes masnacheiddio technolegau gwyddor bywyd, a hynny yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ymhlith y rhain, mae Rhian wedi sefydlu busnes ymgynghori i gynorthwyo buddsoddwyr gyda’r gwaith diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â busnesau sy’n seiliedig ar dechnoleg, gweithio mewn rolau marchnata a datblygu busnes mewn cwmnïau biotechnoleg (gan gynnwys Abcam plc) a gweithio mewn rolau trosglwyddo technoleg yn y sector Addysg Uwch.  Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain. Derbyniodd Rhian yr MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.
 

Buddiannau Personol

  • Dim

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Prif Weithredwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyf

Rolau di-dâl

  • Dim

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Dim

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

  • Dim

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim