Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Diwylliant gweithio’r ASB

Rydym ni’n cynnig trefniadau gweithio cwbl hyblyg ac ymrwymiad i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan ein bod yn credu fod hyn yn galluogi ein pobl i weithio ar eu mwyaf effeithiol.

Mae ffyrdd hyblyg o weithio (gan gynnwys y dewis i weithio’n gyfan gwbl o gartref) ac offer digidol sy'n hwyluso gweithio o bell yn golygu ein bod ni’n mwynhau lefelau uchel o ymgysylltiad staff ac yn ein helpu i ddenu a chadw'r dalent orau.

Yn 2019, fe wnaethom ni ennill y Wobr ‘Arloesi mewn Gweithio Hyblyg’ yng Ngwobrau Cyflogwyr Gorau Workingmums.co.uk. Roedd y wobr hon yn cydnabod bod ein polisïau a’n harferion hyblyg yn wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd.

Yn 2017 gwnaethom gyflwyno rhaglen i osod y safon aur ar gyfer gweithio hyblyg: 

  • Fe wnaethom ni symud ein swyddfa yn Llundain, adnewyddu ein swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaerefrog ac agor safle newydd sbon yn Birmingham
  • Fe gyflwynon ni gontractau newydd ar gyfer staff (gweithio yn y swyddfa, gweithio o gartref neu gyfuniad o’r ddau) a thrawsnewidiwyd ein technoleg gwybodaeth er mwyn gallu gweithio o bell
  • Fe roesom ni gyfle i staff gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith trwy roi dewis iddynt pa ran o'r dydd/gyda'r nos neu'r penwythnos y mae'n well ganddynt weithio

Ein ffyrdd o weithio mewn rhifau

  • Dywedodd 69% o’r staff eu bod yn fwy bodlon  
  • Dywedodd 75% o’r staff eu bod yn fwy tebygol o aros yn yr ASB
  • Dywedodd 80% o’r staff eu bod yn fwy cynhyrchiol
  • Arbedwyd £2.2 miliwn trwy addasu ein swyddfeydd

Mae ein blog ar Ein ffyrdd arloesol o weithio yn archwilio sut y gwnaethom gyflwyno'r rhaglen weithio well.

Download our brochure. Learn more about how we have worked to protect your plate over the last 20 years and our vision for the future.